Cannoedd yn galw am fynd i'r afael â newid hinsawdd
- Cyhoeddwyd
Mae protestwyr wedi bod yn gorymdeithio mewn lleoliadau ar draws Cymru - y cyfan yn rhan o ddiwrnod o weithredu byd-eang i nodi diwedd wythnos gyntaf COP26.
Cafodd cyfres o ralïau eu trefnu a'r nod oedd rhoi pwysau ar wleidyddion i wneud beth bynnag sydd ei angen i gadw cynhesu byd-eang o dan 1.5°C.
Bu gorymdeithio yng Nghaerdydd, Caergbyi, Bangor, Rhuthun, Llangollen, Y Drenewydd, Caerffili, Pontypridd ac Abertawe.
Ymhlith y mil a mwy oedd yn bresennol yng Nghaerdydd roedd Sandy Clubb ac Elen Roberts o Benarth.
"Mae Cop wedi bod yn siop siarad ac mae wir yn amser i wleidyddion wrando nawr," medd Sandy.
"Mae'r wyddoniaeth yn glir a does dim dadlau bod ni'n wynebu argyfwng amgylcheddol," meddai Elen.
'Ysgogi mwy o weithredu'
Amcangyfrifir bod oddeutu 400 wedi gorymdeithio ym Mangor. Ymhlith y rhai a fu yn siarad yn yr orymdaith roedd cynrychiolwyr a gwyddonwyr o Gyfeillion y Ddaear a Gwrthryfel Difodiant Bangor a Chonwy.
Yno hefyd roedd Sara Ashton Thomas o Danygrisiau, Blaenau Ffestiniog a'i theulu. Roedd hi, ei mam, ei merch a'i nithoedd wedi dod i'r orymdaith efo'i gilydd - tair cenhedlaeth o'r un teulu.
"'Dan ni gyd yn trio 'neud gwahaniaeth yn ein bywydau unigol bob dydd, ond mae angen hefyd gweld gweithredu ar lefel cenedlaethol i newid y gyfraith a phethau felly ar lefel llawer uwch er mwyn sicrhau fod yna ddyfodol i'r plant 'ma," meddai.
Dywedodd Lowri Hedd Vaughan, aelod o fudiad Grŵp Gweithredu Hinsawdd Gogledd a Gorllewin Cymru: "Mae'r rali'n mynd i dynnu sylw a dod â'r gymdeithas at ei gilydd ac ysgogi mwy o weithredu'n lleol, a hybu bioamrywiaeth ac ailystyried patrymau defnyddio ynni.
"Mae'n mynd i ysbrydoli a galw ar bobl i weithredu."
Dywedodd Sioned Hughes o Lanberis: "Dwi wedi dod yma i weithredu yn erbyn yr hyn sydd DDIM yn cael ei wneud am gyflwr y ddaear. Mae'n rhaid gwarchod yr hinsawdd a phlant y dyfodol, eu dyfodol nhw."
Roedd disgwyl 100,000 o bobl yng Nghaerdydd wrth i'r brotest gael ei chynnal ar yr un diwrnod â gêm tîm rygbi Cymru yn erbyn De Affrica yn Stadiwm Principality. Yn ogystal roedd Clwb Pêl-droed Caerdydd yn croesawu Huddersfield.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud y byddan nhw'n defnyddio "pob trên sbâr" ar y gwasanaethau prysuraf yng Nghaerdydd.
Fe wnaeth y cwmni hefyd rybuddio na fydd ymbellhau cymdeithasol "yn bosib ar y rhan fwyaf o wasanaethau".
Roedd gorymdaith Caerdydd yn cychwyn y tu allan i Neuadd y Ddinas ac yna'n teithio drwy ganol y brifddinas at y Senedd.
'Gweithredu heddiw am well yfory'
Mewn fideo arbennig fe wnaeth Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe, annog ymgyrchwyr i gymryd rhan.
"Peidiwch â thanamcangyfrif bŵer eich gweithredoedd," meddai.
"Pŵer dinasyddion o bob cwr o'r byd sy'n craffu ar eu llywodraethau ac yn eu dwyn i gyfrif.
"Gan weithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod yn dwyn llunwyr polisi i gyfrif, rwy'n credu bod siawns go iawn yng Nghymru y gallwn ac y byddwn yn dweud ein bod yn gweithredu heddiw am well yfory."
Cyn y digwyddiad dywedodd Clare James, trefnydd y digwyddiad yng Nghaerdydd: "Rydyn ni'n gwybod bod COP26 yn annhebygol o gyflawni popeth sydd ei angen.
"Felly rydyn ni'n annog pawb i ymuno â ni a mynnu newidiadau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
'Gweld cryfder y teimlad'
Roedd Rachel a Steve Buckley ymhlith y rhai a fu'n gorymdeithio gyda'u merch Ada, sy'n 5 oed.
"Rydyn ni'n cymryd rhan yn yr orymdaith yng Nghaerdydd oherwydd ein bod yn teimlo mai nawr yw'r amser i ddangos ein pryderon am ddyfodol y blaned," meddai Rachel.
"Mae angen i ni adael i arweinwyr y byd wybod ein bod ni'n anhapus i bethau aros fel y maen nhw ac rydyn ni am i'r argyfwng hinsawdd fod ar frig eu hagenda."
Bu Siân Stephen a'i theulu hefyd yn protestio yng Nghaerdydd.
"Dwi'n credu bod e wir yn bwysig bod ein llywodraethau ni yn gweld cryfder y teimlad, yr awydd iddyn nhw weithredu ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur," meddai.
"Mae pobl gyffredin mo'yn mynd ymhellach na gwleidyddion ac mae'n rhaid i ni ddangos cryfder y teimlad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2021