'Angen mwy o gymorth iechyd meddwl i gyn-filwyr'

  • Cyhoeddwyd
Paul Bromwell
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyn-filwr Paul Bromwell yn dweud does dim digon o gymorth i gyn-filwyr yng Nghymru

Mae cyn-filwr yn galw am fwy o gymorth ar gyfer cyn-filwyr sy'n dioddef o anhwylder pryder ôl-drawmatig (PTSD).

Fe ddechreuodd Paul Bromwell grŵp cefnogaeth ar ôl ei chael hi'n anodd addasu i fywyd wedi iddo ymddeol o'r fyddin, ac fe sylweddolodd faint o bobl eraill oedd yn dioddef o'r cyflwr hefyd.

Roedd Mr Bromwell yn aelod o'r Gwarchodlu Cymreig ac aeth i frwydro yn Ynysoedd y Falklands yn ystod y gwrthdaro rhwng yr Ariannin a'r DU yn 1982.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cyllid y GIG ar gyfer cyn-filwyr wedi cynyddu.

Ar ôl y rhyfel, dioddefodd Mr Bromwell o ddiffyg cwsg, newidiadau sydyn i'w hwyliau ac aeth yn fwy dibynnol ar alcohol o ganlyniad i'w PTSD.

"Y peth mwyaf oedd ffeindio mas mai dim fi'n unig oedd yn dioddef," meddai.

"Un o'r problemau mwyaf oedd roedden ni'n yfed gormod. Byddai pob tafarn yn rhoi peint i chi, a ni 'naeth hynny erioed 'neud unrhyw ffafrau i ni. 'Naethon ni ddod yn ddibynnol ar ddiod.

"Roedden ni'n yfed tan oedden ni'n feddw a dyna sut roeddwn ni'n goroesi. Ni ddywedodd neb na ddylwn ni fod yn gwneud hwn."

'Collais i gymaint o ffrindiau'

Gan gyfeirio at ei brofiadau yn Ynysoedd y Falklands, dywedodd: "Roedd y llongau yn y bae'n tanio ar ein pennau ni. Mae fel rhywbeth na fyddwch chi erioed yn credu heblaw eich bod chi yna.

"Collais i gymaint o ffrindiau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan grŵp cefnogaeth y Valley Veterans rhwng 80 a 100 o aelodau

Ar ôl derbyn cefnogaeth, sefydlodd Paul grŵp cefnogaeth Valley Veterans yn Nghwm Rhondda i helpu eraill.

Mae'n teimlo gall Cymru wneud mwy i helpu cyn-filwyr, a dilyn esiampl yr Unol Daleithiau.

"Mae ganddyn nhw ysbytai ar gyfer cyn-filwyr, mae ganddyn nhw le ar gyfer y milwyr pan maen nhw'n gorffen eu gwasanaeth, mae ganddyn nhw bopeth," meddai.

"Mae ganddyn nhw swyddi wedi'u setio lan. Os nad ydyn nhw'n gallu gweithio maen nhw'n cael eu gofalu am mewn ffyrdd eraill. Beth ydyn ni'n cael? Ni'n brwydro am bob sgrap.

"Rydyn ni'n cefnogi ein gilydd, ond does dim digon yn cael ei wneud ar ein cyfer."

Disgrifiad o’r llun,

Lladdwyd tad Katie Gibby pan oedd hi'n bum mis oed

Cafodd Katie Gibby, sy'n wirfoddolwr i'r Valley Veterans, ddiagnosis o PTSD yn y blynyddoedd yn dilyn marwolaeth ei thad - y gwarchodfilwr Mark Gibby - yn Ynysoedd y Falklands.

Dywedodd: "Ni ddylai gymryd cyn-filwr i gael cefnogaeth i gyn-filwyr - dylai fod mewn lle yn barod ar eu cyfer os maen nhw'n mynd i gael eu hanfon i ryfel.

"Pan mae gennych chi PTSD, mae'n anodd iawn i bobl ddeall. Pan rydych chi'n dod mewn i gymuned o gyn-filwyr, maen nhw'n deall... maen nhw'n deall eich teimladau, maen nhw'n deall yn union sut mae eich meddwl yn gweithio.

"Hwn yw'r bywyd y bysai fy nhad wedi byw, ac mae'n neis gwybod fy mod i'n gallu bod o gwmpas, fy mod i'n gallu rhoi rhywbeth nôl.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Valley Veterans ei sefydlu i gefnogi'r rheiny sy'n ei chael hi'n anodd yn dilyn rhyfel

"Mae pawb yn dweud wrtha'i roedd e'n ddyn hyfryd... Roeddwn i'n bum mis oed pan gafodd ei ladd felly mae yna lot dwi ddim yn gwybod am fy nhad y gwnes i ddysgu o bobl oedd yn ei 'nabod.

"Mae wir angen i PTSD gael ei ganolbwyntio ar, mae angen siarad amdano'n fwy.

"Mae [ymwybyddiaeth] iechyd meddwl yn rhywbeth sydd wir yn tyfu nawr. Rydyn ni'n siarad amdano fe ac rydyn ni'n clywed ei fod yn iawn i siarad amdano, mae'n iawn i beidio bod yn iawn."

'Dyled o ddiolchgarwch'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n cydnabod y gallai rhai o'r Lluoedd Arfog fod angen cefnogaeth ar yr amser yma. Mae arnom ni i gyd dyled o ddiolchgarwch ac mae gennym ni ddyletswydd gofal pan maen nhw'n datblygu problemau iechyd o ganlyniad i'w gwasanaeth milwrol.

"Mae gan gyn-filwyr yr hawl i gael blaenoriaeth i ofal y GIG am gyflyrau sy'n gysylltiedig â'u hamser yn y Lluoedd Arfog.

"Rydyn ni wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer GIG Cymru i gyn-filwyr - yr unig wasanaeth iechyd meddwl sydd â darpariaeth arbenigol ar gyfer cyn-filwyr yn y DU - i fwy na £900,000 y flwyddyn ac rydyn ni'n gweithio gyda phartneriaid i wneud cyn-filwyr yn ymwybodol o'r gwasanaeth."

Pynciau cysylltiedig