Teyrnged i 'fam gariadus' wedi digwyddiad padlfyrddio Hwlffordd
- Cyhoeddwyd
Mae teulu menyw a fu farw wedi digwyddiad mewn afon yn Sir Benfro wedi rhoi teyrnged i "fam gariadus" oedd yn "caru bywyd".
Andrea Powell, 41, yw'r pedwerydd person i farw ar ôl digwyddiad padlfyrddio ar Afon Cleddau Wen yn Hwlffordd ar 30 Hydref.
Cafodd Ms Powell, o Ben-y-bont, ei chludo i Ysbyty Llwynhelyg ac fe gadarnhaodd yr heddlu fore Sadwrn ei bod wedi marw - wythnos wedi'r digwyddiad.
"Fel teulu rydyn ni wedi torri ein calonnau o golli Andrea, bydd colled fawr ar ei hôl," meddai teyrnged gan ei theulu.
"Roedd hi'n fam, gwraig, merch a chwaer gariadus, a oedd yn caru bywyd.
"Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ar yr adeg erchyll hon.
"Hoffem fel teulu nawr gael amser i alaru ac rydym yn gofyn am gael preifatrwydd i wneud hynny."
Bu farw Nicola Wheatley, 40, o Bontarddulais, Paul O'Dwyer o Draethmelyn, Port Talbot a Morgan Rogers, 24, o Ferthyr Tudful yn y digwyddiad hefyd.
Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys dros y penwythnos fod dynes o ardal de Cymru wedi cael ei harestio ar amheuaeth o ddynladdiad ar sail esgeulustod difrifol.
Mae hi wedi cael ei rhyddhau tra bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu hanfon i'r digwyddiad ger Stryd y Cei am tua 09:00 ar 30 Hydref wedi i grŵp o naw o bobl fynd i drafferthion tra'n padlfyrddio ar Afon Cleddau Wen.
Cafodd pump o bobl eraill eu tynnu allan o'r dŵr gan y gwasanaethau brys - doedden nhw ddim wedi cael eu hanafu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2021