Bachgen, 10, wedi marw ar ôl ymosodiad ci yng Nghaerffili
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 10 oed wedi marw ar ôl ymosodiad gan gi yng Nghaerffili.
Cafodd yr heddlu eu galw i stryd Pentwyn, Penyrheol toc cyn 16:00 ddydd Llun.
Roedd yr ambiwlans hefyd wedi'u galw, ac fe ddywedon nhw fod y bachgen wedi marw yn y fan a'r lle.
Fe gafodd y ci ei ddifa gan swyddogion arfog. Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio.
Dywedodd un dyn sy'n byw gerllaw fod yr ymosodiad wedi digwydd y tu fewn i dŷ ar y stryd.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Mark Hobrough o Heddlu Gwent: "Bydd swyddogion yn gwneud ymholiadau pellach ar hyn o bryd ac yn aros yn y fan a'r lle wrth i'r ymchwiliad fynd yn ei flaen.
"Mae'n bosib y byddwch chi'n gweld gweithgaredd parhaus yr heddlu yng Nghaerffili fel rhan o'r gwaith hwn.
"Efallai eich bod hefyd wedi gweld presenoldeb cynyddol yn gynharach heddiw tra roedd swyddogion yn mynychu'r digwyddiad, ond peidiwch â dychryn.
"Os oes gennych bryderon neu wybodaeth yna stopiwch i siarad â ni."