Diwedd yr ail don cyn profi nifer o staff y GIG am Covid
- Cyhoeddwyd
Doedd staff rheng-flaen y gwasanaeth iechyd mewn rhai o ysbytai Cymru ddim yn cael eu profi'n rheolaidd am Covid-19 tan yn agos at ddiwedd ail don y pandemig, gall BBC Cymru ddatgelu.
Fe gafodd cynllun i brofi staff yn rheolaidd ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr, ond doedd hynny ddim yn digwydd mewn rhai ysbytai tan fis Mawrth.
Mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) yn dweud bod profi rheolaidd wedi cymryd "rhy hir o lawer" i'w gyflwyno.
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru bod y gwasanaeth iechyd wedi cael canllawiau ynglŷn â diogelu cleifion.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Er gwaethaf yr holl fesurau hyn i amddiffyn staff a chleifion mewn ysbytai, yn anffodus mae pobl wedi dal coronafeirws tra yn yr ysbyty ac, yn anffodus iawn, mae rhai wedi marw."
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 8,075 achosion o Covid oedd un ai wedi'u dal, neu yn debygol o fod wedi eu dal, mewn ysbytai.
Digwyddodd bron i hanner yr achosion rhwng dechrau Hydref 2020 a diwedd Chwefror 2021.
Mae ymchwil gan raglen Wales Live wedi darganfod bod rhai staff yn cael profion llif unffordd (LFT) o fis Rhagfyr, ond doedd hynny ddim yn digwydd ym mhobman tan ganol Chwefror.
'Dylai ysbytai fod yn ddiogel'
Fe gollodd Miranda Evans ei modryb a'i mam-gu dros gyfnod o bythefnos ddiwedd y llynedd.
Mae ganddi gwestiynau ynglŷn â'u gofal yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Bu farw ei modryb Ann Smith, 74, a'i nain Pearl Higgins, 94, ddiwedd Hydref a dechrau Tachwedd y llynedd.
Mae hi'n credu bod y ddwy wedi dal Covid yn yr ysbyty - rhywbeth mae hi yn ei chael hi'n anodd derbyn.
"Diwrnod oedd yna rhwng y ddau gynhebrwng," meddai. "Roedd yr holl beth yn swreal, fel hunllef."
Fe gafodd Pearl strôc ym mis Medi ac aeth Ann i'r ysbyty wythnosau yn ddiweddarach am driniaeth i haint dŵr.
"Dylai ysbytai fod yn llefydd diogel, llefydd i gael gofal, triniaeth ac i wella. Dim dyna ddigwyddodd i fy mherthnasau."
Rhai o'r ffactorau sydd wedi cael y bai am gyfrannu at ledaeniad Covid mewn ysbyty ydy diffygion o ran y system brofi, y gallu i sicrhau fod wardiau yn cael eu hawyru'n iawn a phrinder offer amddiffyn personol (PPE).
Ffactor arall oedd trafferthion o ran cadw digon o bellter rhwng cleifion.
Ym mis Gorffennaf, fe wnaeth BBC Cymru ddatgelu bod chwarter marwolaethau Covid Cymru o ganlyniad i gleifion yn ei ddal tra'r oedden nhw yn yr ysbyty.
'Rhaid dysgu'r gwersi'
Mae'r grŵp ymgyrchu Covid-19 Bereaved Families For Justice Cymru, sydd wedi bod yn galw am ymholiad cyhoeddus penodol i Gymru, yn dweud mai prif bryder eu haelodau ydy cleifion wnaeth ddal coronafeirws yn yr ysbyty.
Mae Miranda Evans yn chwilio am atebion ynglŷn â pham gafodd ei mam-gu ei symud rhwng wardiau ac am faint o brofi staff oedd yn digwydd y gaeaf diwethaf.
Mae hi eisiau ymchwiliad i'w marwolaethau ond does neb wedi cysylltu gyda hi.
"Ni 'di clywed dim. Dim gohebiaeth, dim cyswllt gan y bwrdd iechyd, nid am mam-gu nac am fy modryb.
"Mae'n rhaid dysgu'r gwersi er mwyn gwneud yn siŵr nad ydy cleifion eraill yn cael yr un profiadau."
Dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg na allai wneud sylwadau ar achosion unigol ond ei fod yn awyddus i gysylltu â'r teulu a'u cefnogi "i'w helpu i gael yr atebion sydd eu hangen arnynt".
'Doedd dim gofal'
Ym mis Ionawr, fe losgodd Ann O'Hanlon, ar ôl arllwys dŵr berwedig dros ei hun wrth wneud paned o goffi.
Ddyddiau yn ddiweddarach roedd ei merch Therasa yn poeni bod yr anaf wedi'i heintio a bod angen iddi fynd i'r ysbyty.
Yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd fe ddaeth hi i'r amlwg ei bod hi wedi torri asgwrn yn ei phelfis yn ystod y ddamwain.
"Roeddwn i'n meddwl fy mod i yn ei hanfon hi i rywle diogel," meddai Therasa.
Roedd Ann wedi profi'n negyddol am Covid pan aeth hi mewn i'r ysbyty, ond bythefnos yn ddiweddarach roedd hi wedi dal y feirws.
Yn 71 oed, bu farw ddyddiau yn ddiweddarach.
"Dwi eisiau atebion," meddai Therasa. "Rydych chi'n anfon pobl mewn ac yn disgwyl iddyn nhw gael gofal a bod yn ddiogel, ac i mi, doedd dim gofal."
Daeth ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro i'r casgliad mai "claf dryslyd yn crwydro" oedd tarddiad tebygol trosglwyddiad y feirws.
Dydy Therasa ddim yn derbyn yr eglurhad yna ac yn meddwl bod marwolaethau o ganlyniad i drosglwyddiad mewn ysbytai yn rheswm dros gynnal ymchwiliad cyhoeddus penodol am yr ymateb i'r pandemig yng Nghymru.
Beth am fy mwrdd iechyd i?
Fis Rhagfyr, dywedodd Vaughan Gething, y gweinidog iechyd ar y pryd, y byddai staff iechyd rheng-flaen yn cael eu profi'n rheolaidd o 14 Rhagfyr.
Mae ymchwil gan Wales Live wedi darganfod na wnaeth rhai byrddau iechyd ddechrau profi staff ysbytai yn rheolaidd tan bron i ddiwedd yr ail don.
Dechreuodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan brofi rheolaidd ar staff oedd heb symptomau oedd yn gweithio gyda chleifion "hynod fregus" yn Hydref 2020.
Ond ni ddechreuodd profi holl staff rheng-flaen yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd ac Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach tan ganol Chwefror, a rhai yn Ysbyty'r Faenor, Cwmbrân ac Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni ddim tan ddechrau mis Mawrth.
Dechreuodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe brofi staff mewn "mannau penodol" ar 20 Rhagfyr gyda'r system yn cael ei ehangu ar ôl 11 Ionawr.
Ni ddechreuodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda gynnal profion rheolaidd tan 25 Chwefror.
15 Chwefror oedd hi pan ddechreuodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr brofi staff oedd yn symud rhwng safleoedd, ac yn gweithio mewn ardaloedd risg uchel a chanolig. Dechreuodd profion rheolaidd ar "nifer fach" o staff yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar 21 Rhagfyr.
Dechreuodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg brofi'u holl staff ar 14 Rhagfyr.
Dydy Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro ddim wedi darparu dyddiadau.
Dywedodd Dr Phil Banfield, cadeirydd pwyllgor ymgynghorwyr y BMA, ei bod hi wedi cymryd yn "hir iawn" i gyflwyno profion llif unffordd rheolaidd i staff.
"Daeth y Nadolig a'r ail don ddisgwyliedig, a doedd y profi rheolaidd ddim ar gael yn hawdd ym mhob ysbyty ym mhob bwrdd iechyd," meddai.
Ond mae o'r farn bod y ffaith nad oedd lle i gadw cleifion ar wahân yn ddigonol yn fwy o broblem o ran trosglwyddiad yr haint.
"Roedd 'na rwystredigaeth yn ysbytai Cymru gan ein bod ni'n gwybod bod hyn yn mynd i ddigwydd ac os oeddech chi'n buddsoddi yn yr ystadau a gwneud rhagor o le dros-dro, byddai hynny'n ein helpu ni hir dymor.
"Y drafferth oedd ein bod ni wedi mynd mewn i'r pandemig heb ddigon o welyau a dim digon o staff yn y lle cyntaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2021