Y Gynghrair Genedlaethol: Aldershot 0-5 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi codi i'r nawfed safle yn y Gynghrair Genedlaethol yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus oddi cartref yn Aldershot nos Fawrth.
Aeth y Cymry ar y blaen wedi 40 munud o chwarae wrth i'r amddiffynnwr Aaron Hayden benio tafliad hir Ben Tozer i gefn y rhwyd.
Dyblwyd y fantais funudau'n unig yn ddiweddarach wrth i Harry Lennon sgorio yn dilyn ansicrwydd yn y cwrt cosbi.
Aeth yr ymwelwyr ymhellach ar y blaen yng nghanol yr ail hanner wrth i Reece Hall-Johnson a Jordan Ponticelli sgorio o fewn tri munud i'w gilydd.
Ychwanegodd Jordan Davies bumed gydag 20 munud yn weddill er mwyn selio buddugoliaeth swmpus i dîm Phil Parkinson.
Cafodd y gêm wreiddiol rhwng y ddau dîm ei gohirio fis diwethaf oherwydd bod cymaint o ddŵr ar y cae yn dilyn glaw trwm.
Roedd Wrecsam yn ennill y gêm honno o 2-0 pan benderfynodd y dyfarnwr nad oedd modd parhau wedi 52 munud o chwarae.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2021