Gwaith yn dechrau i gryfhau argloddiau Llyn Tegid

  • Cyhoeddwyd
Llyn TegidFfynhonnell y llun, CNC
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ardal wedi wynebu tywydd garw yn y gorffennol, fel gwelir yn y llun hwn o fis Chwefror 2004

Bydd gwaith yn dechrau i gryfhau argloddiau Llyn Tegid yn Y Bala fis yma i sicrhau y bydd yn parhau'n ddiogel at y dyfodol.

Mae llyn naturiol mwyaf Cymru yn bwysig am nifer o resymau - oherwydd ei fywyd gwyllt ac hefyd oherwydd ei fod yn rhan o system atal llifogydd Afon Dyfrdwy.

Mae'n cael ei ddefnyddio i ddal dŵr yn ôl yn lle ei fod yn rhedeg yn ddi-reolaeth lawr yr afon, gan beryglu trefi a phentrefi ar hyd dyffryn Afon Dyfrdwy i lawr am Gaer.

Dywedodd Arwel Morris, warden Llyn Tegid: "Mae'r llyn yn arbennig oherwydd y pethau prin sydd gennym ni yma.

"Mae gennym ni'r falwen lysnafeddog a hefyd y gwyniad - pysgodyn sydd wedi bod yn y Llyn Tegid ers oes yr iâ.

"Hefyd mae o'n rhan o gynllun atal llifogydd Afon Dyfrdwy, ac mae rhyw hanner dwsin o gwmnïau dŵr yn tynnu dŵr o'r afon wrth iddo droelli o Lyn Tegid ar ei ffordd am Gaer."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Arwel Morris fod y llyn yn arbennig oherwydd ei fod yn gartref i sawl rhywogaeth prin

Mae'r llyn hefyd yn denu miloedd o dwristiaid bob blwyddyn, sy'n cyfrannu arian mawr i economi pum plwy Penllyn.

Mae'r argloddiau ar lan y llyn ger Y Bala yn bwysig i ddal dŵr yn ôl yn ystod y gaeaf yn bennaf, ond rŵan mae'n rhaid eu hadnewyddu er mwyn iddyn nhw allu parhau i wrthsefyll tywydd eithafol a chael eu taro yn ddidrugaredd gan donnau'r llyn.

Ni all y gwaith cryfhau ddechrau nes bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi clirio 300 o goed sydd wedi hunan-hadu, ac sy'n tyfu i mewn i'r argloddiau a'u gwanhau.

Mae CNC yn ymrwymo i blannu tair coeden yn lleol am bob un sy'n gorfod cael ei thorri.

Disgrifiad o’r llun,

Y disgwyl ydy y bydd y gwaith o gryfhau'r argloddiau yn para nes gwanwyn 2023

Dywedodd Sian Williams, pennaeth gweithrediadau CNC yn y gogledd-orllewin: "Mae argloddiau'r llyn yn rhoi amddiffyniad hanfodol rhag llifogydd i dref Y Bala ac mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod y dref yn parhau i fod yn ddiogel.

"Mae pobl leol wedi bwydo i mewn i'n proses gynllunio dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a bydd eu mewnbwn, yn enwedig ynglŷn â chyfleoedd amgylcheddol a hamdden, yn cael ei weithredu ochr yn ochr â'r gwaith i ddiogelu'r gronfa ddŵr."

Bydd hyn yn cynnwys:

  • Gwella llwybrau i bobl o bob gallu;

  • Creu mannau eistedd newydd;

  • Adfer cynefinoedd, gan gynnwys gwneud gwelliannau sensitif i faes parcio'r llyn a ger caffi'r ganolfan hamdden;

  • Creu ardaloedd newydd o ddolydd blodau gwyllt;

  • Paratoi adnoddau i ysgolion lleol eu defnyddio ar gyfer addysg amgylcheddol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sian Williams fod angen cynnal y gwaith er mwyn "sicrhau bod y dref yn parhau i fod yn ddiogel"

Ychwanegodd Ms Williams: "Byddwn yn rhannu gwybodaeth efo'r gymuned yn rheolaidd am ein cynnydd ac yn gwneud ein gorau glas i darfu cyn lleied â phosibl.

"Bydd y gwaith hanfodol yma'n cael ei wneud mor effeithlon â phosibl, gan sicrhau bob amser ein bod yn cadw'r cyhoedd yn saff ac yn cynnal safonau diogelwch cronfeydd dŵr bob amser."

Y disgwyl ydy y bydd y gwaith yn para nes gwanwyn 2023.

Pynciau cysylltiedig