O golli hyder i wynebu heriau eithaf bywyd

  • Cyhoeddwyd
Kate StrongFfynhonnell y llun, Kate Strong

Sut beth yw hi i feicio am 24 awr yn ddi-stop? Gofynnwch i Kate Strong, a wnaeth, ym mis Mai, dorri record y byd am y pellter mwyaf ar feic llonydd mewn 24 awr.

Yn wreiddiol o Bontypridd, mae Kate bellach yn byw yn Wells, Gwlad yr Haf, ac yn dilyn ei llwyddiant diweddar, nawr yn paratoi am flwyddyn o heriau eithafol yn 2023, ar feic, yn y dŵr ac ar droed.

Ond doedd hi ddim wastad yn un am herio ei hun, fel y soniodd wrth Cymru Fyw.

'Rhoi fy hun gyntaf'

Tor-perthynas a wthiodd Kate i newid ei byd.

"O'n i gyda'r dyn 'ma ac erbyn y diwedd, roedd yn tracio fy ffôn, do'n i methu talu am ddim byd heb ei ganiatâd, o'n i'n dechrau teimlo fel gwas... O'n i mewn sefyllfa controlling a toxic iawn."

Er ei bod hi'n falch pan ddaeth y berthynas i ben, roedd hi'n teimlo ar goll wedi hynny, meddai.

"Am y pedwar mis cyntaf ar ôl hynny, fues i'n yfed bob nos - o leia' potel o win. Ar fy mhen-blwydd, dwi'n cofio meddwl 'ai dyma fy mywyd? Ydw i eisiau bod yn chwerw neu ydw i eisiau bod yn falch ohonof fi fy hun?'

"A dyna 'nes i benderfynu canolbwyntio arno; gwnaeth e i mi sylweddoli fod rhaid i mi roi fy hun gyntaf.

"O'n i wastad wedi bod eisiau cyflawni her Ironman, felly 'nes i benderfynu mod i am ei 'neud e. Do'n i ddim yn gwybod os allen i, ond o'n i byth am wneud heb ddechrau hyfforddi.

Ffynhonnell y llun, Kate Strong
Disgrifiad o’r llun,

Kate yn bencampwr byd mewn triathlon yn China wrth gynrychioli Awstralia, lle'r oedd hi'n byw ar y pryd

"Dyna pryd 'nes i ddechrau rhedeg, beicio a nofio 'chydig. O'n i'n ofnadwy ar y dechrau, ond mae hi'n anhygoel beth mae ychydig bach o waith bob dydd, am ddwy flynedd yn gallu ei gyflawni.

"'Nes i fy triathlon cyntaf yn Chwefror 2013. Erbyn Tachwedd o'n i'n bencampwr cenedlaethol, ac erbyn y flwyddyn wedyn o'n i'n bencampwr byd.

"Erbyn 2015 o'n i wedi cwblhau tri Ironman, tua 15 hanner Ironman, ac wedi cynrychioli Awstralia - lle o'n i'n byw ar y pryd - mewn chwech pencampwriaeth byd."

Yn bencampwr byd, dylai Kate fod wedi bod ar ben y byd, ond fel y sylweddolodd ar ôl symud yn ôl i Bontypridd yn 2015, mae hi'n hawdd llithro yn ôl, wrth i'w iechyd meddwl ddechrau dioddef eto.

"O'n i'n teimlo ar goll a ddim yn gwybod pwy o'n i," cofiodd. "Mae gen i radd meistr dwbl mewn peirianneg mecanyddol, dwi'n rhugl mewn tair iaith... ond yr unig swydd o'dd gen i'r hyder i drio amdani oedd i lanhau toiledau mewn caffi yng Nghaerdydd.

"Dwi ddim eisiau i bobl feddwl unwaith ti'n llwyddo, ti wedi gorffen, achos ti ddim."

Ffynhonnell y llun, Kate Strong
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwthio ei hun o fewn chwaraeon wedi helpu iechyd meddwl Kate, meddai

Ail-adeiladu ei hun

Felly trodd at yr hyn a'i helpodd flynyddoedd ynghynt yn Awstralia; chwaraeon, a herio'i hun.

"Mae'n ffordd dda i gael mas o'ch pen; mae'r boen gorfforol yn tynnu ein sylw. Felly do'n i methu meddwl am fy mriwiau emosiynol, oherwydd fod fy nghorff mewn poen.

"'Nes i adeiladu yn araf ar ôl hynny, a sicrhau mod i'n cefnogi fy hun yn feddyliol ac emosiynol.

Kate yn rhedeg
Kate Strong
'Nes i feddwl - yn ddiniwed braidd - 'oni fyddai hi'n grêt beicio am 24 awr i sôn am y ffaith fod yna ddim record i ferched?'"

"Dwi wastad wedi mwynhau ymarfer corff, ond pryd bynnag o'n i'n cyrraedd lefel dda ac roedd pobl yn dweud fod rhaid i mi ddechrau ei gymryd wir o ddifri, o'n i fel arfer yn rhoi'r gorau iddi oherwydd byddai 'na ddim yn hwyl wedyn.

"Ond 'nes i ddechrau cysylltu gwneud camp gydag achos neu reswm, er mwyn gwthio fy hun. Mae'r pain threshold wedi symud yn uwch, achos fod gen i fwy o reswm na jest fy hun. A dwi hefyd wedi sylweddoli os ydyn ni eisiau mynd ymhellach, mae'n rhaid i ni ddygymod efo ychydig o boen."

Her 24 awr

Drwy herio ei hun, daeth o hyd i ffordd i hyrwyddo hawliau merched - achos agos iawn at ei chalon.

"'Nes i sylweddoli pa mor amlwg yw hi fod yna gymaint mwy o ddynion yn y cyfryngau na merched, o ran chwaraeon ac arweinyddiaeth," meddai.

"O'n i eisiau gwneud cyfraniad i ymateb i hyn mewn ffordd bositif. 'Nes i weld fod 'na record byd ar gyfer y pellter mwyaf ar feic llonydd mewn 24 awr i ddyn, ond nid i ddynes. Felly, 'nes i feddwl - yn ddiniwed braidd - 'oni fyddai hi'n grêt beicio am 24 awr i sôn am y ffaith fod yna ddim record i ferched?'"

Ffynhonnell y llun, Kate Strong
Disgrifiad o’r llun,

Beiciodd Kate bellter o 433.09 milltir dros 24 awr ar feic llonydd, gan dorri record byd

Felly dyna sut y ffeindiodd Kate ei hun yn beicio drwy'r dydd a'r nos ar feic llonydd tu allan mewn gardd ym Mryste, gyda thîm o 20 o gefnogwyr brwd, ar yr unig gyfnod o 24 awr cyfan a fu ym mis Mai heb iddi fwrw glaw!

"Roedd y tîm yn fy nghefnogi fi, fy mwydo i, gwirio'n lefelau siwgr i a'n annog drwy'r boen. Pan oedd pethau'n mynd yn wael, roedden nhw yna i nghodi fi nôl lan... 'jest pum munud arall, ac fe gei di treat...!'

"O'n i'n trio ymgolli yn yr awyrgylch o nghwmpas i. Mae poen yn ffordd wych o weld lle mae ein meddyliau ni'n crwydro, felly 'nes i ddefnyddio'r cyfle i wneud bach o fyfyrio.

"'Nes i ddechrau gwaedu tua awr 10, ac roedd gen i dal 14 awr i fynd! Topiau'r coesau ac yn y crotch oedd yn brifo, lle o'n i'n eistedd ar y sadl, oherwydd mae'r rhan fwyaf o seddi beiciau wedi eu dylunio ar gyfer dynion yn hytrach na merched."

Ffynhonnell y llun, Kate Strong
Disgrifiad o’r llun,

Cyflawnodd Kate ei her 24 awr ar feic arbennig gafodd ei adeiladu o bambŵ gan elusen merched yn Ghana

Roedd Kate wedi penderfynu "gwneud pethau bach yn anoddach" i'w hun, drwy osod record am y pellter mwyaf dros awr, ac wedyn 12 awr, yn ogystal â'r 24 awr.

Beiciodd 433.09 milltir dros y cyfnod i gyd, gan ddod oddi ar y beic am gyfanswm o 1 awr 21 munud yn unig i gael ychydig o orffwys bob hyn a hyn.

Paratoi'n feddyliol bob dydd

Roedd Kate wedi bod yn hyfforddi ar gyfer yr her drwy gynyddu'n raddol faint o feicio roedd hi'n ei wneud bob dydd, ond sut mae rhywun yn paratoi'n feddyliol ar gyfer her o'r fath?

Meddai: "Mae pobl yn edrych ar yr Olympians 'ma ar y teledu, ac yn meddwl mai un digwyddiad mawr wnaeth e i ddigwydd, ond mewn gwirionedd, mae e'n bum munud bob diwrnod sy'n adio lan.

"Bob dydd dwi'n ysgrifennu beth dwi'n ddiolchgar amdano, a beth dwi'n rhoi cydnabyddiaeth i'n hun amdano.

Kate yn rhedeg
Kate Strong
'Dyn ni byth yn gwybod pa mor bell allwn ni fynd, oni bai ein bod ni'n ei 'neud e."

"Mae'n rhoi caniatâd i mi gael dyddiau gwael. Alla i ddim cael Personal Best bob dydd. Ond mi alla i wybod fod heddiw efallai wedi bod yn anodd, a dwi eisiau cydnabod y gallwn i fod wedi cael duvet day, ond mi 'nes i godi o'r gwely a 'nes i 10 munud o ymarfer corff; efallai y dylai fod wedi bod yn 20 munud, ond o leia' 'nes i 10.

"Mae'r ddau gam bychan yna yn rhoi'r gofod i mi i droi lan bob dydd a pheidio cario pwysau'r hyn dwi fod i'w wneud."

'Ail-ddiffinio beth sydd yn bosib'

Dydi torri un record byd ddim yn ddigon i Kate; mae hi eisiau gwneud mwy o heriau - pob un yn fwy eithafol na'r diwethaf - gan herio ei chorff i fod y gorau mae'n gallu bod.

Ddiwedd Mawrth 2022 mae hi am feicio dros 600 milltir o amgylch arfordir Cymru, ac yn gobeithio ei wneud mewn tri diwrnod. Bydd hyn yn "hyfforddiant gwych" iddi, meddai, ar gyfer her hyd yn oed yn fwy yn 2023.

Dros ddeufis, mae hi am feicio 3,000 o filltiroedd o amgylch Prydain, gan nofio'r Sianel a dringo'r Tri Chopa ar y ffordd. Ei bwriad yw i godi arian i elusennau, siarad ag ysgolion ac addysgu cymunedau am gynaliadwyedd gan eu hannog i ymuno ar gymalau o'r daith.

Ffynhonnell y llun, Kate Strong
Disgrifiad o’r llun,

Wedi concro mynydd Mont Blanc. Ble nesaf...?!

"Rydw i eisiau ceisio ail-ddiffinio beth sydd yn bosib i ni," meddai, "a herio ein rhagfarnau. Erbyn i mi ei wneud bydda i'n 44-45 oed; yn ddynes ganol oed ac yn gwneud rhywbeth does yna'r un dyn yn y byd wedi ei wneud o'r blaen.

"'Dyn ni byth yn gwybod pa mor bell allwn ni fynd, oni bai ein bod ni'n ei 'neud e."

A dyna ei neges i eraill:

"Jest dechreua heddiw; does yna ddim angen aros am cliff-edge moment - mae 3 o'r gloch ar brynhawn Mawrth glawog yn amser digon da i wneud newid."