Steve Morison i aros fel rheolwr Caerdydd am y tymor

  • Cyhoeddwyd
Steve MorisonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Steve Morison ennill 20 cap dros Gymru

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd eu rheolwr dros dro, Steve Morison yn aros wrth y llyw nes diwedd y tymor.

Cafodd Morison, enillodd 20 cap i Gymru, ei wneud yn rheolwr yn dilyn ymadawiad Mick McCarthy fis diwethaf.

Mae Caerdydd wedi ennill pedwar pwynt o dair gêm Morison wrth y llyw, gyda'r fuddugoliaeth dros Hudderfield y penwythnos diwethaf yn dod â rhediad o 10 gêm heb fuddugoliaeth i ben.

Mae cyn-gapten Caerdydd, Mark Hudson, hefyd wedi dychwelyd i'r clwb fel hyfforddwr gyda'r tîm cyntaf.

Cyn iddo gael ei wneud yn rheolwr dros dro'r tîm cyntaf, Morison, 38, oedd rheolwr tîm dan-23 yr Adar Gleision.