Qatar 2022: Dim Gareth Bale i Gymru i herio Gwlad Belg
- Cyhoeddwyd
Ni fydd capten Cymru Gareth Bale ar gael yng ngêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Gwlad Belg wrth iddo barhau i wella o anaf.
Mae Cymru'n chwarae'r tîm sydd ar frig rhestr detholion y byd nos Fawrth gan wybod y byddai pwynt yn sicrhau - fwy neu lai - gêm gartref yn y gêm ail gyfle ym mis Mawrth.
Cafodd Bale, 32, ei eilyddio ar hanner amser yn y fuddugoliaeth 5-1 yn erbyn Belarws ddydd Sadwrn, rhywbeth oedd "wedi'i gynllunio" ymlaen llaw, meddai wedyn.
Roedd Cymru eisoes yn sicr o le yn y gemau ail gyfle ar gyfer Qatar 2022 ar ôl ennill eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd ac wedi i Sbaen drechu Groeg nos Iau.
Sawl un ar gerdyn melyn
Roedd y rheolwr Robert Page wedi dweud mai unig obaith seren Real Madrid o ymddangos yn erbyn Gwlad Belg oedd fel eilydd, cyn iddi ddod i'r amlwg fore Mawrth nad oedd wedi'i enwi yn y garfan o 23 ar gyfer y gêm.
Ond mae disgwyl i Aaron Ramsey, a sgoriodd ddwywaith nos Sadwrn ac sy'n debygol o arwain y tîm yn absenoldeb Bale, i fod yn holliach.
Mae ymosodwr Caerdydd, Kieffer Moore hefyd yn debygol o ddechrau ar ôl iddo fethu'r gêm yn erbyn Belarws oherwydd gwaharddiad.
Yn hynny o beth, mae nifer o chwaraewyr Cymru ar gerdyn melyn - byddai un arall yn erbyn Gwlad Belg felly yn golygu na fyddan nhw ar gael ar gyfer y gêm ail gyfle ymhen pedwar mis.
Ramsey, Joe Allen, Joe Morrell, Harry Wilson, Sorba Thomas, Chris Gunter a James Lawrence sydd eisoes ar felyn.
Ni fydd Ethan Ampadu ar gael ar gyfer y gêm nos Fawrth chwaith ar ôl iddo yntau weld cerdyn melyn yn erbyn Belarws.
"Nid oedd byth yn mynd i ddechrau [yn erbyn Gwlad Belg]," meddai Page am Bale ddydd Llun.
"Nid yw wedi chwarae ers cwpl o fisoedd ac roedd ei daflu i mewn ar gyfer y gêm honno yn ofyn mawr o safbwynt corfforol."
Nifer yn absennol i'r Belgiaid
Wrth siarad ar ôl buddugoliaeth ddydd Sadwrn, gwrthododd Bale awgrymiadau ei fod wedi cael anaf yn ystod y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd a dywedodd ei fod yn disgwyl wynebu Gwlad Belg.
Mae Kieffer Moore wedi sgorio saith gôl ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf ym mis Medi 2019, mwy nag unrhyw chwaraewr arall o Gymru yn yr amser yna.
Dywedodd Page: "Mae Kieffer yn chwaraewr gwych. Mae'n rhan fawr o'r hyn rydyn ni am ei wneud ac yn bendant fe fydd yn ymddangos."
Mae Cymru'n ail yng Ngrŵp E, dri phwynt ar y blaen i'r Weriniaeth Siec sydd yn y trydydd safle, ac yn wynebu Estonia ddydd Mawrth.
Gall dynion Robert Page sicrhau'r ail safle gyda gêm gyfartal gartref i Wlad Belg.
Os bydd Cymru a'r Weriniaeth Siec yn gorffen ar yr un pwyntiau, bydd yr ail safle yn mynd i'r tîm gyda'r gwahaniaeth goliau gorau neu, ar ôl hynny, y tîm gyda'r mwyafrif o goliau a sgoriwyd.
Ar hyn o bryd mae gan Gymru wahaniaeth goliau dau yn well na'r Sieciaid, gan sgorio un gôl yn fwy.
Mae Gwlad Belg eisoes wedi sicrhau'r mai nhw fydd y gorffen ar frig Grŵp E, ond bydd y rheolwr Roberto Martinez heb nifer o'i chwaraewyr profiadol ar gyfer y gêm.
Ymhlith y rhai sydd heb deithio i Gaerdydd mae Romelu Lukaku, Youri Tielemans, Eden Hazard, Thibaut Courtois, Simon Mignolet, Jason Denayer, Jeremy Doku, Michy Batshuayi, Toby Alderweireld a Thomas Vermaelen.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2021