Anaf difrifol i baragleidiwr a blymiodd i'r ddaear

  • Cyhoeddwyd
Hofrennydd Gwylwyr y Glannau ym MhenybegwnFfynhonnell y llun, Longtown Mountain Rescue Team
Disgrifiad o’r llun,

Hofrennydd Gwylwyr y Glannau ym Mhenybegwn

Mae dyn wedi cael anafiadau "difrifol" yn dilyn adroddiadau bod paragleidiwr wedi plymio i'r ddaear yn y Mynyddoedd Du.

Cafodd Tîm Achub Mynydd Longtown eu galw i ardal Penybegwn, ger Y Gelli Gandryll ddydd Sadwrn yn dilyn galwad gan Heddlu Dyfed-Powys.

Aeth hofrennydd Gwylwyr y Glannau achubwyr i'r ardal er mwyn rhoi'r dyn ar stretsier cyn iddo gael ei godi i'r hofrennydd a'i gludo i'r ysbyty.

Fe wnaeth parafeddyg oedd yn digwydd mynd heibio hefyd gynnig cymorth, medd datganiad y tîm achub at eu tudalen Facebook, dolen allanol.

"Roedd yna adroddiadau cychwynnol o anaf pen-glin ond yn dilyn ymholiadau pellach a chysylltiad gyda chyfeillion y claf, daeth yn amlwg bod yr anafiadau yn rhai difrifol," medd y datganiad.

Ffynhonnell y llun, Longtown Mountain Rescue Team
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y dyn ei achub fore Sadwrn 13 Tachwedd

"Roedd lleoliad ac anafiadau'r claf yn golygu y byddai ei winsio i'r hofrennydd yn anodd, ac fe benderfynwyd mai'r opsiwn gorau oedd i'r tîm i'w symud i fyny'r bryn yn y lle cyntaf.

"Unwaith iddyn nhw gyrraedd y copa, fe sefydlodd y tîm system o raffau, rhoi'r claf ar stretsier a'i godi'n araf cyn ei drosglwyddo i'r hofrennydd i'w gludo i'r ysbyty."

Talodd y tîm achub mynydd deyrnged i griw'r hofrennydd, i gyfeillion y claf "a arhosodd gydag e tan y diwedd a hefyd y parafeddyg oedd yn mynd heibio oedd yn gallu rhoi cymorth meddygol yn syth".

Ychwanegodd llefarydd bod eu gwirfoddolwyr wedi teithio o rhannau o dde ddwyrain Cymru a Sir Henffordd.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod y claf wedi ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.