Cyfres yr Hydref: Cymru 38-23 Fiji
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yng Nghyfres yr Hydref eleni trwy guro Fiji (38-23) yn Stadiwm Principality Caerdydd.
Yr ymwelwyr oedd yn fygythiol ar y cychwyn cyntaf wrth i gapten Fiji, Waisea Nayacalevu, sgorio cais ar ôl chwe munud ac fe lwyddodd Ben Volavola i drosi yn llwyddiannus ac ymestyn y mantais i ddeg pwynt wedi wyth munud.
Ond o fewn pedair munud fe sgoriodd Ryan Elias gais i Gymru ac fe wnaeth Dan Biggar drosi yn llwyddiannus ond roedd yr ymwelwyr ar dân ac wedi 23 munud roedd y sgôr yn 7-13 wedi i Volavola sgorio eto.
Tua diwedd yr hanner cyntaf dim ond 13 dyn oedd yn chwarae i Fiji wedi i Eroni Sau gael cerdyn coch am dacl beryglus ac i Albert Tuisue droseddu.
Cyn diwedd yr hanner roedd Cymru ar y blaen am y tro cyntaf - hynny wedi i Kieran Hardy sgorio ail gais Cymru o'r sgrym ac wedi i Dan Biggar drosi yn llwyddiannus.
Cymru (yn chwarae mewn du) oedd ar y blaen ar yr egwyl gyda'r sgôr yn 14-13.
Ond doedd Cymru ddim ar y blaen am hir - yn nechrau'r ail hanner fe roddodd gôl gosb dri phwynt arall i Fiji.
Ymhen chwarter awr cais arall i Waisea Nayacalevu ac wedi trosiad llwyddiannus roedd yr ymwelwyr ar y blaen o naw pwynt (14-23) ond doedd y Cymry ddim yn ildio a thoc daeth cais arall i Ryan Elias (19-23). Methodd Biggar â throsi ond dim ond 13 chwaraewr oedd gan Fiji eto wedi i Eroni Mawi gael ei gosbi.
Ymhen rhai munudau cais arall i Gymru - y tro hwn gan Alex Cuthbert ac roedd y tîm cartref ar y blaen eto er i Callum Sheedy fethu trosi (24-23).
Cyn hir pumed cais i Gymru. Wedi ymdrech arwrol gan Louis Rees-Zammit ac wedi trosiad llwyddiannus roedd Cymru ar y blaen o 31-23.
Ond nid dyna ddiwedd y ceisiau - cyn diwedd y gêm roedd yna gais i Liam Williams ac wedi i Callum Sheedy drosi'n llwyddiannus roedd y sgôr terfynol yn 38-23.
Bydd Cymru'n wynebu Awstralia yng ngêm olaf y gyfres ddydd Sadwrn 20 Tachwedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2021