Lefel diweithdra Cymru wedi gostwng ychydig eto

  • Cyhoeddwyd
diweithdra

Fe wnaeth lefel diweithdra ostwng ychydig yng Nghymru yn y tri mis rhwng Gorffennaf a Medi, yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae'r data diweddaraf yn dangos fod 58,000 o bobl yn ddi-waith yn y cyfnod hynny - 3.8% o'r holl bobl yng Nghymru sydd ar gael i weithio.

Mae'r gyfradd yn is yng Nghymru na'r cyfartaledd ledled y DU - 4.3%.

Mae 4,000 yn llai o bobl yn ddi-waith yng Nghymru o'i gymharu â'r chwarter blaenorol, a 12,000 yn llai o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Ledled y DU dim ond dau ranbarth o Loegr oedd â chyfraddau diweithdra is na Chymru yn y tri mis hyd at fis Medi - y gorllewin a'r de-ddwyrain.

Er y ffigyrau, mae diffyg staff yn parhau i gael effaith ar rhai diwydiannau, yn enwedig trafnidiaeth a lletygarwch.

Pynciau cysylltiedig