Lisa yn helpu Plant Bach Hapus gyda'u lleferydd

  • Cyhoeddwyd
Lisa Jones

Fel rhan o gynllun Tiny Happy People/Plant Bach Hapus y BBC, mae Lisa Jones o'r Bala yn cymryd rhan mewn prosiect newydd sy'n annog sgiliau lleferydd a chyfathrebu ymhlith plant ifanc o dan bump oed yng Nghymru.

Am 11am ddydd Gwener 19 Tachwedd, ar dudalen Facebook BBC Tiny Happy People, dolen allanol, mae Lisa yn arwain sesiwn Stay & Play ddwyieithog ar y thema anifeiliaid, lle bydd hi'n canu a chwarae, gan ddefnyddio pypedau a theganau. Bydd y fideo yma wedyn ar gael i'w wylio yn ôl ar y dudalen Facebook a'r wefan.

A hithau wedi bod ym maes gofal plant ers pymtheg mlynedd, ac wedi gweld sut mae'r cyfnod clo wedi effeithio ar blant bach, mae Lisa yn teimlo fod gwerth mawr i'r prosiect Stay & Play, sydd yn annog plant a'u rhieni i gyd-chwarae a chyd-ddysgu.

Mae'r fideo Stay & Play gyda Lisa yn un o nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd ar gael gan BBC Tiny Happy People, sydd â'r bwriad o helpu gyda datblygiad iaith plant o dan bump oed.

Neidiodd Lisa ar y cyfle i gael bod yn rhan o'r prosiect, meddai. Fel arweinydd Cylch Meithrin Sarnau a Llandderfel, mae hi wrth ei bodd yn gweld datblygiad y plant sydd yn ei gofal.

"Mae o'n rhywbeth bendigedig i fod yn rhan o fywyd y plant bach 'ma. Mae'n reit emosiynol, eu gweld nhw'n ein gadael ni, ond dwi'n teimlo'n hapus achos maen nhw wedi cael cymaint o brofiadau gyda ni yn y Cylch.

"'Dan ni'n gofyn beth maen nhw eisiau ei wneud, achos dwi'n dilyn llais y plentyn. 'Dan ni'n treulio'r rhan fwyaf o'r diwrnod yn yr ardal tu allan, lle mae gennym ni sleids, pethau i'w dringo, cegin fwd, tŷ bach twt a lle tawel i'r plant cael ymlacio. 'Dan ni'n lwcus yn yr ardal lle 'dan ni; mae gennym ni gymaint o goed ac anifeiliaid o gwmpas - twrcis, ieir, alpacas - maen nhw wrth eu boddau yn gweld y pethau 'ma."

Ffynhonnell y llun, Lisa Jones
Disgrifiad o’r llun,

Lisa yw arweinydd Cylch Meithrin Sarnau a Llandderfel

Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod clo, bu'n rhaid i'r Cylch gau o fis Mawrth tan fis Medi 2020, ac mae Lisa wedi sylwi sut effeithiodd hyn ar y plant.

"Dwi'n teimlo fod lockdown wedi bod yn rili anodd i lot o deuluoedd, ac wedi cael effaith fawr ar iaith plant," meddai. "A'r ffordd i gael o allan ydi canu a chael hwyl. Dros y cyfnod clo, nes i gyfarfodydd Zoom efo plant y Cylch, jest er mwyn gwneud sesiwn canu.

"Hefyd o ran diffyg cymysgu; mae 'na rai plant sydd wedi dechrau efo ni sydd erioed wedi cael y cyfle i gymysgu efo plant eraill. Felly rŵan 'dan ni angen gweithio efo'r iaith mwy nag erioed; mae'r plant bach 'ma isho cymysgu, ac maen nhw angen y sgiliau yna."

Plant Bach Hapus

Dyna pam fod Lisa yn gweld gymaint o werth i brosiect Stay & Play Tiny Happy People, gan ei bod hi'n credu ei bod hi'n bwysig fod y plentyn yn cael treulio amser gyda rhiant yn siarad, cyfathrebu a dysgu caneuon.

BBC
Mae o'n ffordd i'r rhiant helpu'r plentyn i ddatblygu sgiliau iaith heb iddyn nhw deimlo ei fod fel gwers."

"Mae'r plentyn yn cael amser efo rhiant neu rywun o'r teulu, ac yn cael hwyl tra maen nhw'n dysgu ac yn chwarae. A does neb yn gallu dy weld di pan ti'n gneud pethau fel hyn. Does dim bwys gen i, dwi'n gneud ffŵl o fy hun o hyd beth bynnag! Ond os ti'n rhiant adra, does yna neb yn gallu dy weld di'n gneud 'cwac cwac' neu ddefnyddio hosan fel neidr!

"Mae o'n ffordd i'r rhiant helpu'r plentyn i ddatblygu sgiliau iaith heb iddyn nhw deimlo ei fod fel gwers."

Ynghyd â helpu iaith y plentyn, mae Lisa hefyd yn gweld hwn fel cyfle i helpu rhieni di-Gymraeg ddysgu'r iaith hefyd, ochr-yn-ochr â'u plentyn:

"Achos dwi'n cael ei 'neud o yn Gymraeg a Saesneg, dwi'n i'n teimlo ei fod yn ffordd dda i helpu dysgwyr a rhieni sydd eisiau dysgu Cymraeg efo'u plant nhw hefyd. Mae hyn yn ffordd wych i'w 'neud o.

"Dwi wedi cael rhieni yn gofyn lle allan nhw fynd i ddysgu Cymraeg. Rŵan alla i rannu hwn efo nhw, a gallan nhw ei wylio efo'r plentyn, a chael hwyl efo'u plentyn ac Anti Lisa! Mae'r cyfle yna i bawb fod yn rhan ohono fo."

Gallwch wylio'r fideo Stay & Play gyda Lisa ar dudalen Facebook BBC Tiny Happy People o 11am dydd Gwener 19 Tachwedd, dolen allanol

Pynciau cysylltiedig