Covid: Rhyddhad i rieni wrth i reolau ymweld ysbytai newid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gemma a'i mab CaioFfynhonnell y llun, Gemma Vearey-Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Fe fethodd plentyn hynaf Gemma Vearey-Roberts, Casi, ymweld â'i mam a'i brawd newydd Caio yn yr ysbyty fis Mehefin

Mae'n bosib y bydd cleifion ysbyty yn gallu cael mwy o ymwelwyr o ddydd Llun ymlaen wrth i ganllawiau ymweld newydd ddod i rym.

Bydd y canllawiau newydd yn rhoi'r hawl i fyrddau iechyd ddefnyddio profion llif unffordd "i gefnogi ymweld ag ysbytai" - sy'n cynnwys gwasanaethau mamolaeth.

Fe ddaw'r canllawiau wrth i rieni beichiog feirniadu'r modd y mae'r llywodraeth wedi delio â gwasanaethau mamolaeth yn ystod y pandemig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y rheolau yn amddiffyn diogelwch cleifion a staff.

Er bod canllawiau newydd yn dod i rym, byrddau iechyd unigol sy'n penderfynu sut y byddan nhw'n gweithredu rheolau Covid.

Profiad 'annymunol'

Yng ngwanwyn 2021 fe ysgrifennodd Gemma Vearey-Roberts o Aberystwyth at ei chynghorwyr lleol, a chynrychiolwyr eraill, i holi pam nad oedd modd i'w gŵr, Greg, ddod gyda hi i ymweliadau ysbyty, a hithau'n disgwyl eu hail blentyn, ond bod pobl yn cael yr hawl i fynd allan am bryd o fwyd gyda chyfeillion.

Bu'n rhaid iddi fynd i sawl apwyntiad ar ei phen ei hun, a dywedodd bod y profiad wedi bod yn hynod annymunol.

"Ga'th Greg ddim dod i unrhyw sgan 'da fi ar y dechre, hyd yn oed emergency scan, nac unrhyw apwyntiad, a gan bo fi wedi colli un babi llynedd o'dd mynd i mewn ar dy ben dy hun i'r apwyntiadau yn hollol ofnadwy," meddai Gemma.

"O'dd pethe wedi newid mymryn erbyn y sgan 20 wythnos, ond unwaith o'dd y sgan ei hun drosodd, o'dd e'n gorfod mynd tu fas, ac o'n i'n cael y sgwrs wedyn gyda'r meddygon a'r fydwraig ar fy mhen fy hun."

Er bod Greg wedi cael bod yn bresennol yn yr enedigaeth yn Ysbyty Bronglais ddiwedd mis Mehefin, roedd disgwyl iddo adael ddwy awr wedi i'w fab, Caio, gael ei eni, gan adael Gemma unwaith eto ar ei phen ei hun.

"O'n i mor grac achos o'n i'n meddwl ei bod hi mor annheg bod pobl yn yn cael mynd mas am fwyd gyda'i gilydd, ond doedd fy ngŵr - tad fy mhlentyn - ddim yn cael bod gyda fi i fy helpu wedi'r c-section, na chael amser i bondio gyda Caio chwaith."

Chafodd eu merch 4 oed, Casi, ddim ymweld â'i brawd na'i mam yn yr ysbyty chwaith, ac mae hynny wedi gadael ei ôl arni, meddai Gemma.

"Bob tro ma hi'n mynd i aros gyda Mam nawr, ma hi'n holi 'Ble mae Mami?', mae'n poeni lle dwi wedi mynd o hyd.

"Chafodd hi ddim y cyfle i ddod mewn i weld beth oedd yn digwydd, ac fe fydde hi wedi gallu deall bach mwy tase hi wedi cael dod mewn aton ni."

Ffynhonnell y llun, Gemma Vearey-Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gemma Vearey-Roberts a Natalie Jones, dwy ffrind o ardal Aberystwyth, yn cytuno bod y cyfyngiadau wedi bod yn anodd i fenywod beichiog a'u teuluoedd

Un sydd yn rhannu'r un pryderon â Gemma yw ei ffrind, Natalie Jones, sy'n disgwyl ei babi cyntaf ym mis Medi.

Mae hithau hefyd wedi gorfod mynd i'r ysbyty sawl tro ar ei phen ei hun ac mae'n falch bod y rheolau'n cael eu llacio rhywfaint nawr.

"Mae'r cyfnod mamolaeth, hyd yn hyn, wedi bod yn horrible, a ti'n teimlo mor unig," meddai, "s'tim perthynas 'da ti 'da neb - nethon ni m'ond cwrdd â'r fydwraig pan o'n i'n 24 wythnos.

"O'dd rhaid i fi gael sawl sgan reit ar y dechre achos o'n i mewn poen ofnadwy", meddai Natalie, "ac o'dd Rhydian, fy mhartner, ddim yn cael dod 'da fi.

"Ga'th e ddim dod i'r sgan cyntaf chwaith, yr un 12 wythnos, ac achos bo fi wedi cael gymaint o scare ar y dechre o'n i mor bryderus, ac o'dd neb 'da fi tase pethe ddim yn troi mas yn iawn."

Mae Natalie yn croesawu'r penderfyniad i lacio rhywfaint ar y cyfyngiadau ar ymweld ag ysbytai.

"Fi 'di bod yn poeni bydde Rhydian methu bod mewn gyda fi yn Bronglais - mae 'di bod yn anodd meddwl bo fi'n gorwedd yna am oriau, falle diwrnodau, ar fy mhen fy hun, a bod e jest yn dod mewn ar y funud ola'.

"Fi'n falch bod e'n mynd i allu bod yna", meddai Natalie, "ond o'n i wastad yn meddwl bydde Mam yna gyda fi hefyd. Fydd hi ddim yn gallu bod nawr, yn anffodus, ond gobeithio bydd hi'n gallu dod mewn i weld ni wedyn, bydd hynny'n lyfli."

Beth ydy'r rheolau dros Gymru?

Aneurin Bevan: Caniatáu i bartneriaid fynychu pob sgan ac apwyntiad a allai achosi "trallod sylweddol" ers mis Medi 2020, ond nid apwyntiadau cyn-enedigol arferol eraill. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar bartneriaid sy'n mynychu genedigaethau.

Betsi Cadwaladr: Gall un partner gefnogi menywod sy'n mynychu apwyntiadau beichiogrwydd cynnar a sganiau arferol, yn ogystal â chael partner yn bresennol yn ystod y cyfnod esgor gweithredol. Gall partneriaid fynychu "sefyllfaoedd brys" yn ôl disgresiwn y bydwraig.

Caerdydd a'r Fro: Gall partneriaid fynychu sganiau arferol ac apwyntiadau meddygaeth ffetws, a thrwy gydol yr enedigaeth. Mae'r bwrdd yn adolygu cyfyngiadau i weld a all ganiatáu i bartneriaid gael apwyntiadau pellach.

Cwm Taf Morgannwg: Gall partneriaid fynychu sganiau arferol ac asesiad esgor yn ddibynnol ar fesurau atal heintiau'r cyfleuster. Gallant hefyd ymweld â wardiau ôl-enedigol am awr bob dydd ar sail apwyntiad.

Hywel Dda: Nid yw menywod yn cael dod â phartner i'r sgan dyddio 12 wythnos nag apwyntiadau arferol eraill, ond gallant ddod ag un i'r sgan 20 wythnos.

Powys: Mae penderfyniadau yn cael eu gwneud fesul achos.

Bae Abertawe: Gall menywod fod yng nghwmni rhywun o'r un cartref ar gyfer y sganiau 12 wythnos ac 20 wythnos, yn ogystal â mewn sefyllfa ble mae problem gyda datblygiad y babi. Mae cyfyngiadau yn cael eu hadolygu.

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy'n cynnwys Ysbyty Bronglais, Aberystwyth: "Rydym yn gwybod bod ymwelwyr yn hanfodol i les ein cleifion, a lle bynnag y gallwn, byddwn yn eich cefnogi i fod gyda'ch anwylyd.

"Rydym wedi ymrwymo i osgoi lledaeniad y feirws yn ein hysbytai a chadw ein cleifion, teulu, gofalwyr a staff mor ddiogel â phosibl.

"Mae hyn yn golygu bod angen i ni am y tro sicrhau ein bod yn parhau i fod yn ofalus, ac rwyf am bwysleisio nad yw hwn yn ddychweliad llawn i normalrwydd.

"Rydym yn deall y gallai rhai ymwelwyr deimlo'n siomedig os na allwch ddod yn bersonol, ond rwyf am eich sicrhau bod y mesurau yr ydym yn eu rhoi ar waith yn ddiogel, yn gymesur ac yn gyfrifol ac edrychwn ymlaen at lacio cyfyngiadau pellach yn raddol pan mae amgylchiadau yn caniatáu."

'Cyfnod anodd'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n gwybod bod hwn wedi bod yn gyfnod anodd i famau beichiog a'u teuluoedd, ac rydyn ni hefyd yn gwybod pa mor bwysig yw hi i gael cefnogaeth eu partner.

"Mae gwasanaethau mamolaeth yn adolygu eu canllawiau ymweld i alluogi partneriaid i gefnogi menywod ar bob cam o feichiogrwydd a genedigaeth.

"Mae diogelwch a lles mamau a babanod, yn ogystal â'r staff sy'n eu cefnogi, wrth wraidd pob penderfyniad."