Rhai staff ysbyty yn y de yn 'ofni mynd i'r gwaith'

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty'r FaenorFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe agorodd Ysbyty Athrofaol y Faenor, Cwmbrân ym mis Tachwedd 2020 - pedwar mis yn gynt na'r disgwyl

Mae "pryderon difrifol am ddiogelwch cleifion" wedi dod i'r amlwg ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan ar ôl i gyfres o broblemau gael eu datgelu mewn adroddiad diweddar.

Mae adroddiad Coleg Brenhinol y Meddygon (CBM), sydd wedi'i weld gan BBC Cymru, yn disgrifio "profiadau ofnus" doctoriaid ac ymgynghorwyr dan hyfforddiant, gyda rhai'n "ofn mynd i'r gwaith".

Prinder staffio difrifol a gorweithio yn Ysbyty'r Faenor ger Cwmbrân yw rhai o'r problemau sy'n achosi doctoriaid i deimlo'n isel ac i fod eisiau gadael.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan eu bod yn ymwybodol o'r pryderon sy'n codi yn yr adroddiad ac yn gweithio i ddatrys y problemau.

'Sobreiddiol'

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, fod yr adroddiad yn "ddarllen sobreiddiol".

Wrth ymateb i gwestiwn amserol yn y Senedd, pwysleisiodd Ms Morgan gyd-destun y pandemig.

"Rhaid i ni gofio bod Ysbyty'r Faenor wedi agor o flaen amser, ac roedd hynny yn rhannol o ganlyniad i ymateb i'r pandemig.

"Ac oherwydd hynny efallai nad oedd y gwiriadau a fyddai fel arfer yn cael eu gwneud cyn i chi agor ysbyty, efallai na chawsant eu gwneud yn y ffordd a fyddai fel arfer wedi digwydd."

Dywedodd ei bod yn falch bod y bwrdd iechyd yn cymryd yr adroddiad o ddifrif, ac y bydd yn sicrhau bod y bwrdd yn gweithredu wrth ymateb i'r sefyllfa.

'Bylchau yn y rotas'

Yn ôl Dr Olwen Williams, Is-Lywydd Cymru Coleg Brenhinol y Meddygon: "Roedd hwn yn ymweliad anodd, gyda thystiolaeth bwerus.

"Mae'r model newydd glinigol yn gweld y gweithlu a chleifion yn symud rhwng nifer o safleoedd.

"Lle roedd yna dri ysbyty yn stryglan gyda recriwtio staff, erbyn hyn mae pedwar safle a bylchau yn y rotas."

Cafodd adran ofal gritigol a gwasanaethau arbenigol ysbytai Gwent a Nevill Hall eu canoli yn Ysbyty Prifysgol y Faenor pan agorodd y safle £358m y flwyddyn diwethaf.

Y bwriad oedd i leihau nifer y rotas a gwella hyfforddiant i ddoctoriaid ifanc.

Ond mae bwlch ym meddygaeth cyffredinol yn y Faenor, yn ôl yr adroddiad, sy'n golygu bod cleifion hŷn a phobl sydd ag anghenion meddygol mwy cymhleth - a sydd ddim yn dod o dan gofal arbenigol - yn gallu cwympo trwy'r bylchau ambell dro.

Dyw'r problemau yma ddim i'w gweld yn y Faenor yn unig, yn ôl yr adroddiad, sydd hefyd yn dweud bod sefyllfa tebyg yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd, Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni ac Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach.

Mae un doctor dan hyfforddiant yn disgrifio gweithio ar un o'r safleoedd yma: "Yn ystod shifft nos, nes i drin plentyn pedwar mlwydd oed oedd yn dioddef trawiad. Gymerodd yr ambiwlans chwech awr.

"Fe wnaeth cydweithwyr drin babi 18 mis â llosgiadau. Mae llawer o blant yn dod mewn â phroblemau anadlu. Dyw achosion plant ddim yn anghyffredin.

"Rydyn ni wedi trin cleifion sydd wedi'u trywanu. Fe wnaeth rhai cydweithwyr helpu gyda genedigaeth babi yn yr uned anafiadau llai difrifol. Dylai'r pethau yma ddim digwydd."

Dywedodd doctor arall dan hyfforddiant: "Mae cymaint o gleifion yn symud o gwmpas dan y strwythur bresennol.

"Yn ddiweddar nes i anfon rhywun i'r Grange [Ysbyty'r Faenor] ar gyfer scan a wedyn i'r Gwent ar gyfer apwyntiad arall a wedyn i Nevill Hall.

"Mae hwnna'n dri gwely, tri ambiwlans a thri pherson meddygol yn delio gyda'r un claf. Mae hwnna'n hynod o aneffeithlon."

'Gwallgofrwydd llwyr' ond 'pethau'n gwella'

Dywedodd un person: "Mae gyda ni gleifion sydd wedi symud wyth gwaith rhwng ysbytai a wardiau gwahanol. Mae'r rhain yn gleifion 90 oed â dementia.

"Mae disgwyl i ddoctoriaid feddygol weithio fel doctoriaid meddygaeth brys, heb y cyfleusterau, y dechnoleg a'r hyfforddiant i wneud hynny'n ddiogel," ychwanegodd un arall.

Dywedodd nifer o aelodau staff wrth awduron yr adroddiad iddyn nhw wneud sawl cais i godi pryderon gyda'r tîm rheoli, cyn i'r Faenor agor.

"Fe ysgrifennodd tua 60 o ddoctoriaid lythyr i'r prif weithredwr, ond doedden nhw ddim yn gwrando. Roedden nhw'n gwthio i agor y Grange ta beth oedd y sefyllfa. Roedd e'n wallgofrwydd llwyr," meddai un ymgynghorydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ym mis Mehefin ymunodd dros 30 o ymgynghorwyr â thua 50 o ddoctoriaid dan hyfforddiant ag ymweliad gan aelodau CBM.

Mae rhai ymgynghorwyr hefyd wedi gofyn am gyfarfodydd preifat gyda'r CBM i drafod eu pryderon yn sgil cael eu cyhuddo o chwythu'r chwiban.

Ond mae'r CBM hefyd yn nodi bod pethau wedi dechrau gwella ers eu hymweliad.

Dywedodd Llywydd y CBM, Andrew Goddard: "Yn ystod ein hymweliad fe ddywedodd rhai o'r doctoriaid dan hyfforddiant bod nhw ag ofn dod i'r gweithle oherwydd pryderon y gallen nhw golli eu rhif Cyngor Meddygol Cyffredinol.

"Yn ystod wyth mlynedd gyda'r CBM rydw i wedi ymweld â channoedd o ysbytai gwahanol, a dwi erioed wedi clywed hwnna o'r blaen."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr James Calvert fod y bwrdd iechyd yn "parhau i gyrraedd safonau uchel"

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, fe ddywedodd Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Dr James Calvert: "Mae'n bwysig i gofio fod ymweliad Coleg Brenhinol y Meddygon wedi digwydd yn ystod pandemig Covid-19, sydd wedi amharu'n sylweddol ar ddarpariaeth ein gwasanaethau iechyd.

"Roedden ni'n ymwybodol o'r pryderon sy'n codi yn yr adroddiad a rydyn ni'n gweithio i ddatrys y problemau.

"Rydyn ni'n gweithio i daclo'r broblem o brinder staff sy'n effeithio ein bwrdd iechyd a nifer o gyrff y gwasanaeth iechyd ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig.

"Pan agorodd Ysbyty Prifysgol y Faenor y llynedd fe newidiodd y ffordd rydyn ni'n darparu ein gwasanaethau - cafodd model newydd ei gyflwyno ar ôl cynllunio am 15 mlynedd er mwyn ymateb i ofynion y boblogaeth, ond dyw'r system ddim wedi cael cyfle i setlo eto oherwydd effeithiau'r pandemig.

"Mae'r bwrdd iechyd yn cymryd darganfyddiadau adroddiad Coleg Brenhinol y Meddygon wir o ddifrif.

"Rydyn ni'n parhau i wrando ar ein staff ac yn cydweithio gyda'n partneriaid i sefydlu system iechyd newydd yn y rhanbarth i sicrhau y gwasanaeth gorau i gleifion, a hefyd cynnal iechyd meddwl ein staff clinigol.

"Hoffwn rhoi hyder i gleifion bod gofal iechyd y bwrdd iechyd yn parhau i gyrraedd safonau uchel a hoffwn i ddiolch i ein staff am y gwaith rhyfeddol maen nhw'n gwneud yn ystod cyfnod o bwysau mawr ar y gwasanaeth iechyd."

Mae pryderon staff yr ysbyty'n "amlygu methiant difrifol" ar sawl lefel, medd y Ceidwadwyr Cymreig, sy'n cyflwyno cwestiwn brys yn y Senedd.

Dywedodd llefarydd iechyd y blaid, Russell George: "Yr ysbyty hefyd yw'r gwaethaf yng Nghymru o ran aros yn yr adran ddamweiniau a brys, ac mae'n rhaid i weinidogion Llafur fod yn atebol am eu penderfyniadau byrbwyll i ganoli gwasanaethau yng Ngwent pan gawson nhw rybudd gan staff y byddai'r canlyniadau i gleifion yn wael."