Josh Adams yn ffit wrth i Gymru baratoi i herio Awstralia

  • Cyhoeddwyd
Josh AdamsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Josh Adams oedd y prif sgoriwr ceisiau yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2019

Mae'r asgellwr Josh Adams, y prop Tomas Francis a'r blaenasgellwr Aaron Wainwright i gyd yn ffit i wynebu Awstralia, wrth i Gymru geisio gorffen Cyfres yr Hydref ar nodyn uchel.

Roedd Adams i fod i ddechrau yn y canol yn erbyn Fiji y penwythnos diwethaf, cyn iddo gael anaf i groth y goes.

Bydd y prop Wyn Jones, y clo Seb Davies, y maswr Tomos Williams a'r canolwr Uilisi Halaholo hefyd yn dechrau ddydd Sadwrn.

Ond bydd yn rhaid i Awstralia wneud heb eu capten arferol Michael Hooper, gafodd ei anafu yn y golled i Loegr y penwythnos diwethaf.

Ffynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru wedi ennill eu dwy gornest ddiwethaf yn erbyn Awstralia

Mae prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac wedi gwneud saith newid felly i'r tîm a lwyddodd i drechu Fiji ddydd Sul.

Daeth hynny yn dilyn colledion i Seland Newydd a De Affrica yn gynharach yn y gyfres.

Y blaenasgellwr Ellis Jenkins fydd y capten unwaith eto yn absenoldeb Jonathan Davies, sydd ddim yn y garfan ar gyfer y gêm.

"Mae Awstralia wedi colli eu cwpl o gemau diwethaf ac fe fyddan nhw'n brifo, ac eisiau gorffen eu taith ar nodyn uchel," meddai Pivac.

"Rydyn ni eisiau gwneud hynny hefyd. Dylai fod yn gêm ddiddorol felly."

Tîm Cymru i wynebu Awstralia:

L Williams; Rees-Zammit, Tompkins, Halaholo, Adams; Biggar, T Williams; W Jones, Elias, Francis, Beard, S Davies, Jenkins (c), Basham, Wainwright.

Eilyddion: Dee, G Thomas, Lewis, Carter, Tshiunza, G Davies, Priestland, McNicholl.

Pynciau cysylltiedig