Sut i edrych ar eich gorau (yn ôl dynion Oes Fictoria)
- Cyhoeddwyd
O liwio eu mwstash i ddefnyddio eli atal moelni, nid merched oedd yr unig rai a oedd yn hoff o ddilyn y tips harddwch diweddaraf yng Nghymru Oes Fictoria. Yma, mae'r hanesydd Elin Tomos yn trafod rhai o hoff arferion ein cyndeidiau.
Glowyr glân, chwarelwyr budr
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, byddai'r mwyafrif o ddynion yn dechrau eu diwrnod trwy ymolchi ar eu sefyll.
Ar gyfer hyn, roedd angen powlen, gwlanen, ychydig o sebon, jwg o ddŵr cynnes a dysgl ychwanegol i ddal y dŵr budr. Roedd gofyn tywallt y dŵr i'r bowlen gyda mymryn o sebon, yna gwlychu'r wlanen a golchi'r corff fesul rhannau.
Wedi golchi un rhan, roedd angen rinsio'r wlanen ac ail-adrodd y broses gan wagio'r dŵr budr i'r ddysgl sbâr. Mewn cartrefi tlotach, ymolchi gyda dŵr oer oedd yr arfer gan amlaf.
Mewn cymunedau glofaol, roedd dynion yn tueddu i ymolchi gyda'r nos neu'n dilyn shifft gan ddefnyddio baddonau tun, cyfarpar a ddaeth yn fwy fforddiadwy erbyn terfyn y cyfnod Fictoraidd.
O'r 1890au cafwyd galwadau cyson i sefydlu golchdai pwrpasol uwchben y pyllau glo. Mewn cyfarfod yn Wrecsam yn 1891 dymunodd Cynghrair Glowyr Gogledd Cymru i holl weithfeydd sefydlu 'golchdai' fel 'y gwneir yn Belgium, fel y gallai pawb… gael lle i newid eu dillad ac ymolchi ac ymwisgo cyn myned adref'.
Agorwyd y baddondy cyntaf yng Nghymru ym Mhwll Deep Navigation, Treharris, yn 1916.
Ond mae'n debyg nad oedd chwarelwyr y diwydiant llechi yn talu'r un sylw i hylendid personol.
Yn 1894, cwynodd Robert Mills-Roberts, Prif Lawfeddyg Ysbyty Chwarel Dinorwig nad oedd glanweithdra yn flaenoriaeth ymhlith y chwarelwyr lleol gyda'r mwyafrif o weithwyr ddim ond yn golchi rhannau o'r corff a oedd yn weladwy - y wyneb, y gwddf, y breichiau a'r dwylo.
Doedd neb, yn ôl Mills-Roberts, yn golchi'r ardal rhwng eu hysgwyddau a'u pengliniau...!
Ffasiwn y blew wyneb
Wedi ymolchi roedd angen penderfynu i siafio ai peidio. Yn ystod Oes Fictoria, fe ddaeth pob math o farfau a mwstashis gwahanol yn boblogaidd.
O'r 1850au ymlaen, tyfodd llawer o ddynion fath o farf a elwir yn rim beard, barf a fyddai'n parhau'n boblogaidd dros y trigain mlynedd canlynol.
I'w dyfu, roedd rhaid gadael eich locsys clustiau neu sideburns i ymestyn i lawr yr wyneb ac ymuno ar draws eich gên. Eilliwyd uwchben ac o dan y wefus, gan adael dim ond stribedyn tenau o farf ar draws rhan isaf yr ên.
Roedd yr awdur a'r bardd, Gwilym Hiraethog yn hoff o'r steil hwn.
Un peth sy'n amlwg o safbwynt ffasiynau ymhlith dynion yn ystod Oes Fictoria ydy'r amrywiaeth o steiliau a oedd yn boblogaidd yn ystod yr un pryd.
Daeth barfau trwchus gyda mwstashis mawr yn boblogaidd ond yn yr un cyfnod dewisodd rhai dynion, yn enwedig o'r genhedlaeth iau, i siafio eu hwynebau i gyd gan adael mwstash bychan a thwt.
Perffeithio gwallt y pen
O'r 1870au ymlaen roedd modd prynu cynnyrch yn rhwydd gan y fferyllydd lleol er gwella ansawdd gwallt eich pen neu wyneb, gan gynnwys hylif lliwio.
Yn 1840 dyfeisiodd Mrs Susan Allen, gwraig i ddeintydd o Efrog Newydd 'adferydd gwallt' a oedd yn gwella ansawdd y gwallt yn ogystal ag 'adfer gwallt wedi gwynu i'w liw cyntefig.'
Ymhen ychydig o flynyddoedd roedd Mrs Allen yn cynnwys hysbysebion uniaith Gymraeg yn rhai o bapurau newydd mwyaf poblogaidd Cymru.
Yn ôl yr hysbysebion, roedd cynnyrch gwyrthiol Mrs Allen yn gallu atal moelni hefyd.
Yn ystod Oes Fictoria, daeth moelni yn bwnc canolog ymysg cylchoedd meddygol yn ogystal â'r cyhoedd yn ehangach ac roedd modd prynu pob math o eli ac olew oedd yn 'atal penfoelni'.
Os nad oeddech chi awydd prynu potel o rywbeth o'r siop leol, gallech greu eli cartref gan ddefnyddio cynhwysion gan fferyllydd neu apothecari.
Yn ôl Papur Pawb yn 1894, roedd modd creu olew i atal moelni trwy gymysgu pedair llwy de o olew castor; 100ml o olew almon; 50ml o glyserin; pedair llwy de o alcohol; a chwe llwy de o eau de Cologne.
Cyfeiriwyd yn aml at yr arfer o wisgo hetiau fel prif achos dros foelni. Roedd meddygon y cyfnod yn credu bod gorchuddio eich pen yn effeithio ar gylchrediad y gwaed ac yn atal croen eich pen rhag 'anadlu' gan achosi unigolion i golli eich gwallt
Mi ddechreuodd rhai cwmnïau gynhyrchu health hats. Roedd gwerthwyr yn honni nad oedd yr hetiau yma am achosi moelni ac roedd modd eu prynu mewn siopau ledled Cymru.
Yng Nghaernarfon, roedd siop yr Afr Aur yn hawlio mai nhw oedd yr unig siop yn y dref a oedd yn gwerthu'r hetiau iachus.
Erbyn heddiw, does wybod faint o ddynion aeth allan i brynu health hat neu liw ar gyfer eu barf. Serch hynny, mae'r hysbysebion amrywiol yn cynnig cipolwg gynnil ar arferion personol dynion Cymru dros ganrif a mwy yn ôl.