Llafur a Phlaid Cymru yn agos at gwblhau cytundeb cydweithio

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford ac Adam PriceFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae grwpiau’r Prif Weinidog Mark Drakeford ac Adam Price mewn trafodaethau ynghylch cytundeb cydweithredu

Mae Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru yn agos at gwblhau cytundeb i gydweithio yn y Senedd.

Bydd cyrff llywodraethu'r ddwy blaid yn cwrdd ddydd Sadwrn i benderfynu a fyddan nhw'n rhoi sêl bendith i'r cytundeb.

Fe allai gael ei wrthod, ond pe bai'r pleidiau'n cytuno i gydweithio mae'n bosib y daw cyhoeddiad ddechrau'r wythnos nesaf.

Mae'r BBC yn deall fod y cytundeb drafft yn cynnwys cynlluniau i newid treth y cyngor a gwasanaethau cymdeithasol, ehangu gofal plant am ddim a mesurau i fynd i'r afael ag ail gartrefi.

'Materion heriol ac uchelgeisiol'

Llafur wnaeth ennill y nifer fwyaf o seddi yn etholiad y Senedd fis Mai ond ni lwyddon nhw i gael mwyafrif.

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud yn y gorffennol fod angen y trafodaethau am nad oes gan y blaid fwyafrif i ddelio â "materion heriol ac uchelgeisiol".

Fe ddaeth y trafodaethau i'r amlwg ym mis Medi, wedi i'r ddwy blaid fod yn trafod dros yr haf am ba bolisïau allen nhw gydweithio arnynt.

Yn siarad yn uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ddydd Gwener, dywedodd Mr Drakeford "bod cytundeb" rhwng y pleidiau, ond bod angen cadarnhau hynny.

Ychwanegodd bod y pleidiau "ar ganol y broses" a bod angen amser i gwblhau'r broses honno.

Mae BBC Cymru yn deall fod y trafodaethau yn dirwyn i ben, gyda chyrff llywodraethu'r ddwy blaid i drafod y cytundeb ddydd Sadwrn.

Mae'n bosib y caiff y cytundeb ei wrthod, neu y bydd penderfyniad i barhau i drafod.

Ond os yw'r ddwy blaid yn cytuno mae disgwyl cyhoeddiad ddydd Llun.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Llafur a Phlaid Cymru wedi cydweithio â'i gilydd yn y Senedd o'r blaen

Un o'r polisïau mawr sy'n rhan o'r cytundeb arfaethedig ydy addewid i newid y system treth cyngor.

Fe wnaeth y ddwy blaid addo newidiadau i'r system yn eu maniffestos ar gyfer etholiad y Senedd fis Mai.

Yn siarad ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul Radio Cymru fis Medi, dywedodd Mr Drakeford y byddai'r newid yn "anodd iawn i'w wneud gan fod rhai ar eu colled, ond llawer ar eu hennill".

Dim clymblaid

Ni fyddai'r cytundeb yn glymblaid, ac ni fyddai ASau Plaid Cymru'n rhan o'r llywodraeth.

Ond mae BBC Cymru yn deall y byddai modd i Blaid Cymru benodi cynghorwyr arbennig i weithio ar y cytundeb o fewn y llywodraeth.

Nid dyma fyddai'r tro cyntaf i'r ddwy blaid weithio gyda'i gilydd yn y Senedd.

Roedden nhw mewn clymblaid rhwng 2007 a 2011, ac wedi etholiad 2016 fe ddaeth y ddwy blaid i gytundeb byr i alluogi Carwyn Jones i ddychwelyd fel Prif Weinidog.

Fe ddaeth y cytundeb hynny i ben yn 2017, ond flwyddyn yn ddiweddarach fe wnaeth Plaid Cymru gefnogi cyllideb y llywodraeth Lafur.

Dadansoddiad Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig

Mae'r cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru wedi cymryd yn hwy na'r disgwyl i'w lunio ac ymddengys bod cytundeb wedi profi'n amhosibl mewn rhai meysydd dadleuol megis diwygio system etholiadol y Senedd.

Mewn gwirionedd fe ymddangosodd nifer o'r polisïau a gytunwyd arnynt ym maniffestos y ddwy blaid ac, ar wahân i'r cwestiwn o annibyniaeth, does 'na fawr o wahaniaeth ideolegol rhwng y ddwy ochr.

O safbwynt Llafur fe fydd y cytundeb yn gwneud deddfu'n llawer haws tra bydd Plaid Cymru yn gobeithio cryfhau asgwrn cefn cyfansoddiadol ei phartneriaid.

Serch hynny, fe fydd Plaid Cymru yn ymwybodol y gallasai 'na fod pris etholiadol i dalu am glosio'n rhy agos at Lafur ac mae'n annhebyg y bydd y cytundeb yn para am y cyfan o dymor y Senedd bresennol.

'Anobaith a gwallgofrwydd'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cael "trafodaethau positif" gyda Phlaid Cymru ond na fydd sylw pellach tra bo'r trafodaethau'n parhau.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r trafodaethau.

Yn siarad ym mis Medi dywedodd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Does ond angen edrych ar raglen bolisi Llafur Cymru i weld eu bod yn hesb o syniadau.

"Ond mae troi at genedlaetholwyr heb fandad yn weithred o anobaith a gwallgofrwydd."