Ymateb cymysg i gynlluniau am Home Bargains yn Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
Bath House
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle, a fu unwaith yn rhan o fferm Bath House, wedi bod ar werth ers 2017

Mae'n bosib y bydd safle dadleuol yn Aberteifi yn cael ei ddatblygu o'r diwedd ar ôl dros 10 mlynedd o ddadlau, ond dyw'r cynlluniau ddim wrth fodd pawb yn y dref.

Ar un adeg, roedd Sainsbury's am godi archfarchnad ar safle'r Bath House, ond fe benderfynodd y cwmni i beidio bwrw 'mlaen gyda'u cynlluniau.

Mae'r safle, a fu unwaith yn rhan o fferm Bath House, wedi bod ar werth ers 2017.

Mae cwmni TJ Morris o Lerpwl wedi cyflwyno cais cynllunio i godi siop Home Bargains dros 2,000 metr sgwâr ar y safle, gyda lle i 182 o geir.

100 o swyddi

Mae'r cwmni yn arbenigo mewn gwerthu nwyddau i'r cartref yn rhad, ac mae'n un o'r busnesau manwerthu sydd yn tyfu gyflymaf ar draws y Deyrnas Unedig.

Bellach mae gan Home Bargains 550 siop ar draws Prydain ac maent yn cyflogi dros 22,000 o staff.

Yn ôl dogfen sydd wedi ei chyflwyno fel rhan o'r broses gynllunio, mae asiant y cwmni yn dweud bod TJ Morris am greu 100 o swyddi llawn a rhan amser, ac mae'n fwriad buddsoddi £6m yn yr economi fel rhan o'r datblygiad.

Mae'r cynlluniau wedi rhannu barn pobl yn Aberteifi. Un sydd yn amheus o'r cynllun ydy'r cyn-Faer, y cynghorydd tref Shan Williams.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyn-Faer Shan Williams yn credu y byddai cael siop Home Bargains yn niweidio'r economi leol

"Mae'n dweud bod nhw'n mynd i fuddsoddi £6.5m ond wedyn maen nhw'n golygu cael trosiant o £11.4m bob blwyddyn. So'r figures yn edrych gystal wedyn," meddai.

"Mae colli £11.4m mas o economi leol Aberteifi bob blwyddyn yn glatsien ofnadwy. Mae siopau ar gael yma yn barod yn gwerthu yr un peth â beth mae Home Bargains yn gwerthu.

"Pan chi'n gwerthu pethau mor tsiep â mae'r rhain yn gwerthu, mae rhywun yn talu amdano fe rhywle yn y byd."

'Dod â phobl i'r dref'

Ond mae eraill yn y dref yn llwyr gefnogol i gais y cwmni.

Mae Cindy Rogers yn gweithio mewn siop trin gwallt yn y dref ac yn croesawu'r ffaith y bydd mwy o gystadleuaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Cindy Rogers, sy'n gweithio yn y dref, y byddai'r siop newydd yn gaffaeliad

"Bydd e'n amazing i'r dref achos bydd e'n dod â phobl mewn i'r dref, gwaith i bobl 'fyd, a phethau bach yn tsiepach i'r dref," meddai.

"Mae fe'n beth brilliant i gael. Mae prisiau pethau wedi mynd lan ac mae prisiau'r siop 'ma yn eitha' isel."

Fe fydd y cais cynllunio yn cael ei ystyried gan Gyngor Sir Ceredigion.

Doedd cwmni TJ Morris ddim am wneud sylw ar hyn o bryd.

Pynciau cysylltiedig