Cyfres yr Hydref: Cymru 29-28 Awstralia

  • Cyhoeddwyd
Rob ValetiniFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe welodd Rob Valetini (dde) gerdyn coch am dacl beryglus ar Adam Beard

Llwyddodd Cymru i drechu Awstralia am y trydydd tro yn olynol nos Sadwrn wrth i'r crysau cochion orffen Cyfres yr Hydref gyda buddugoliaeth mewn gêm ryfeddol yng Nghaerdydd.

Cafodd Cymru'r dechrau gwaethaf posib, gyda'r asgellwr Andrew Kellaway yn croesi am gais o fewn dau funud i Awstralia a James O'Connor yn llwyddo gyda'r trosiad hefyd.

Fe wnaeth Cymru daro 'nôl o fewn ychydig funudau gyda gôl gosb gan Dan Biggar arwain at bwyntiau cyntaf y cyrsau cochion.

Daeth y trobwynt wedi chwarter awr o chwarae, wrth i wythwr Awstralia Rob Valetini weld cerdyn coch yn dilyn gwrthdrawiad pen-wrth-ben tra'n taclo Adam Beard.

Llwyddodd Biggar gyda'r gic gosb a ddaeth o hynny, cyn i O'Connor ymateb gyda gôl gosb i'r ymwelwyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Andrew Kellaway sgoriodd y cais cyntaf wedi dim ond dau funud o chwarae

Wedi 22 munud aeth Awstralia i lawr i 13 chwaraewr ar ôl i Kurtley Beale gael cerdyn melyn am daro'r bêl ymlaen yn fwriadol wrth i Gymru ymosod ar yr asgell.

Sgoriodd Cymru eu cais cyntaf yn syth wedi hynny, gyda'r bachwr Ryan Elias yn croesi yn dilyn symudiad da ar ôl tafliad o'r ystlys i roi Cymru ar y blaen o 13-10.

Ond o fewn ychydig funudau roedd hi'n gyfartal wedi i ddiffyg disgyblaeth y Cymry arwain at gôl gosb arall i O'Connor.

Triphwynt o droed Biggar oedd yr unig bwyntiau am weddill yr hanner cyntaf, gan roi mantais o 16-13 i Gymru ar yr egwyl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y bachwr Ryan Elias sgoriodd y cais cyntaf i Gymru yng nghanol yr hanner cyntaf

Saith munud i mewn i'r ail hanner daeth ail gais i Gymru, gyda Nick Tompkins yn sgorio'n hawdd dan y pyst am fod pawb heblaw am y canolwr yn credu ei fod wedi taro'r bêl ymlaen.

Fe wnaeth y dyfarnwr Mike Adamson a'r swyddog teledu edrych ar y digwyddiad eto a phenderfynu mai am yn ôl oedd Tompkins wedi taro'r bêl, ac fe lwyddodd Biggar gyda'r trosiad hawdd i ymestyn y fantais i 10 pwynt.

Ychydig funudau'n ddiweddarach roedd hi'n 14 chwaraewr yr un wedi i'r eilydd Gareth Thomas weld cerdyn melyn i Gymru am wneud cysylltiad â phen Allan Alaalatoa mewn sgarmes.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cais Nick Tompkins ei roi wedi i'r dyfarnwyr benderfynu mai am yn ôl yr oedd wedi taro'r bêl

Llwyddodd Awstralia i gymryd mantais o hynny wrth i'r mewnwr Nic White groesi am gais dan y pyst yn dilyn gwaith da gan Beale yn torri'r trwy'r amddiffyn.

Fe lwyddodd O'Connor gyda'r trosiad cyn i Biggar daro 'nôl gyda gôl gosb i Gymru.

Gyda 10 munud yn weddill daeth trydydd cais i Awstralia - Filipo Daugunu yn gorffen yn wych yn y gornel y tro hwn - ond taro'r postyn wnaeth O'Connor gyda'r trosiad, gan olygu fod Cymru'n parhau ar y blaen o bwynt yn unig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Filipo Daugunu orffen yn wych yn y gornel ar gyfer trydydd cais Awstralia

Daeth moment dyngedfennol gyda dau funud yn weddill, gyda Beale yn llwyddo gyda gôl gosb o bellter i roi Awstralia ar y blaen.

Er iddi edrych fel pe bai Cymru wedi taflu'r fuddugoliaeth i ffwrdd, roedd un ymosodiad yn weddill, arweiniodd at gic gosb i Gymru o fewn 22 yr ymwelwyr.

Roedd yr eilydd Rhys Priestland yn gywir gyda'i gic - cyffyrddiad ola'r gêm - gan sicrhau buddugoliaeth o un pwynt yn unig i Gymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y maswr Rhys Priestland sgoriodd y triphwynt tyngedfennol i Gymru gyda chyffyrddiad ola'r gêm

Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru wedi trechu Awstralia dair gwaith o'r bron bellach, yn dilyn buddugoliaethau yn Stadiwm Principality yn 2018 ac yng Nghwpan y Byd Japan flwyddyn yn ddiweddarach.

Hon oedd gêm olaf Cymru yng Nghyfres yr Hydref eleni, yn dilyn buddugoliaeth dros Fiji a dwy golled yn erbyn Seland Newydd a De Affrica.

Pynciau cysylltiedig