Cyn-filwyr: Galw o'r newydd am gomisiynydd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaeth Sul y Cofio yng Nghaerdydd, 2020.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen "un llais i gynrychioli cyn-aelodau o'r lluoedd arfog ar draws Cymru," meddai un cyn-filwr

Mae yna alw o'r newydd am benodi comisiynydd i gynrychioli cyn-aelodau o'r lluoedd arfog i Gymru.

Cymru yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sydd heb gomisiynydd o'r fath, er bod Llywodraeth y DU wedi addo i greu ac ariannu'r rôl.

Mae sawl cyn-filwr blaenllaw ymhlith y bobl sy'n galw am gynrychiolydd o'r fath - yn eu plith Simon Weston o Nelson, Caerffili, a ddioddefodd anafiadau difrifol yn ystod rhyfel y Falklands.

Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Brycheiniog a Maesyfed, Fay Jones, wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o laesu dwylo ar y mater, gan ddadlau bod cyn-filwyr o Gymru "dan anfantais" o'r herwydd.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod "trafodaethau yn parhau" er mwyn sicrhau bod y "rôl yn gweithio'n effeithiol" ochr yn ochr "â'r cymorth eang" sydd ar gael yng Nghymru, ac mai "penodiad i Lywodraeth y DU yw hyn, ac maen nhw eto i gytuno ar ei ariannu a'i amserlen".

Ar draws Cymru mae gan y lluoedd arfog swyddogion cyswllt (AFLOs) sy'n cynorthwyo cyn-aelodau ac aelodau i gael cymorth.

Ond yn ôl Simon Weston mae angen "un llais i gynrychioli cyn-aelodau o'r lluoedd arfog ar draws Cymru, yn enwedig os yw'r unigolyn yma'n gallu trafod yn uniongyrchol gyda gweinidogion llywodraeth".

'Cam ymlaen'

Eilio'i safbwynt y mae'r Parchedig Aled Huw Thomas, cyn-gaplan gyda chatrawd y Black Watch. Bu'n gwasanaethu yn Irac ac Afghanistan.

"Bydden i'n croesawu penodiad o'r fath" meddai, "tra'n cydnabod gwaith clodwiw elusennau sydd eisoes yn gweithio'n y maes."

Disgrifiad o’r llun,

Byddai comisiynydd yn medru "sianelu llais y gwahanol fudiadau" sydd eisoes yn gwneud y gwaith hyn, meddai'r Parchedig Aled Huw Thomas

Ychwanegodd: "Gwaith gwirfoddol yw hyn ar y cyfan, gan fudiadau elusennol hefyd - felly mae'r angen yn sicr yn bodoli yn y gymuned.

"Byddai sianelu llais y gwahanol fudiadau ar lefel llywodraethol yn sicr yn gam ymlaen, yn enwedig gan bod yr un peth yn bodoli yn Lloegr a'r Alban."

'Lleihau'r rhwystrau at gymorth'

Fe ymrwymodd Llywodraeth y DU i ariannu comisiynydd yn dilyn ymgyrch ym mis Mawrth eleni gan Fay Jones.

Gan mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw nifer fawr o'r cyn-filwyr yma, mae'n bryd, meddai, i weinidogion Caerdydd gefnogi'r mater.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl un amcangyfrif mae tua 140,000 o gyn-aelodau'r lluoedd arfog yng Nghymru.

Mae Martin Topps yn gyn-sarjant fu'n gwasanaethu yn yr hen Iwgoslafia ac yn Afghanistan gyda'r Gwarchodlu Cymreig.

Mae'n galw ar y ddwy lywodraeth yng Nghaerdydd a Llundain i roi gwleidyddiaeth o'r neilltu fel bod cyn-filwyr yn gallu cael y cymorth y maen nhw ei angen.

"Efallai bod Llafur yng Nghymru ddim eisiau cefnogi'r Torïaid yn Llundain ond y broblem rwy'n rhagweld gyda hynny - y bobl sy'n diodde'", meddai.

"Beth ni angen yw gwneud yn saff bod y cymorth ar gael i gyn-filwyr mor hawdd i'w gael heb ormod o rwystrau i fynd drwyddyn nhw i gael ato fo."

Yn ôl un amcangyfrif mae tua 140,000 o gyn-aelodau'r lluoedd arfog yng Nghymru, ac yn gynharach eleni fe ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ariannu saith swyddog cyswllt iddyn nhw - ar gost o dros £500,000 - ac i roi mwy o arian i'r GIG i sicrhau llwybr penodol i gyn-aelodau o'r lluoedd arfog i gael cymorth iechyd.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai comisiynydd yn cynyddu'r ffocws ar gyn-filwyr yn y llywodraeth ac ar lawr gwlad

Mae elusen Help for Heroes yn un arall sy'n gefnogol i'r egwyddor o gomisiynydd o'r fath: "Fe fydd ychwanegu comisiynydd ar gyfer cyn-aelodau o'r lluoedd arfog yng Nghymru yn cynyddu'r ffocws a'r gefnogaeth i gyn-filwyr ar draws pob adran o'r llywodraeth ac ar draws cymunedau Cymru'n gyffredinol."

Ychwanegodd y Parchedig Aled Huw Thomas bod Cymru'n darparu tua 10% o'r lluoedd arfog.

"Mae'r mudiadau sy'n edrych ar ôl eu gofal nhw yn gynyddol yn edrych ar ôl eu teuluoedd nhw, ac mae hyn yn beth hir-dymor oherwydd ambell waith mae problemau mae cyn-filwyr yn dod ar eu traws ond yn gweithio i'r wyneb nifer o flynyddoedd ar ôl iddyn nhw ddod allan, ac mae'n amhosib i'r mudiadau hyn sy'n darparu gogwydd wahanol i ymateb yn llawn."