Mae'n sbri cael perchen dau dŷ
- Cyhoeddwyd
Y tro diwethaf oedd tai haf yn bwnc mor grasboeth yn ein gwleidyddiaeth ni oedd yn ôl yn y 1980au pan oedd gwisgo bandanas coch yn beth ffasiynol i'w wneud a'r National Milk Bar yn lle cŵl i hongian allan!
Am ddegawd a hanner o 1979 ymlaen cafwyd cyfres o ymosodiadau ar ail gartrefi, dros 200 ohonyn nhw i gyd, gyda nifer sylweddol wedi eu llosgi i'r llawr. Mae'r mwyafrif llethol o'r ymosodiadau yn droseddau sydd heb eu datrys hyd heddiw.
Blynyddoedd yn ddiweddarach, priodolodd Prif Gwnstabl y Gogledd, Richard Brunstrom, fethiant yr heddlu i arestio'r troseddwyr i amharodrwydd trigolion Gwynedd a Dyfed i gydweithredu a'u hymchwiliadau.
Yn sicr, fe lwyddodd y penderfyniad i arestio dwsinau o Gymry Cymraeg amlwg ar Sul y Blodau, 1980, i elyniaethu hyd yn oed y rheiny oedd â mawr o gydymdeimlad â dulliau'r llosgwyr.
Mae pwy oedd Meibion Glyndŵr a phwy oedd, neu yw, Rhys Gethin yn gwestiynau sydd heb eu hateb hyd heddiw. Efallai'n wir, na chânt fyth mo'u hateb.
Ond mae'n bosib nad ymateb llugoer y cyhoedd oedd yr unig reswm am fethiant yr heddlu. Mae'n bosib hefyd eu bod wedi camddeall cymhellion y grŵp derfysgol gan gymryd yn ganiataol mai prinder argaeledd tai oedd yn eu sbarduno.
Ond beth os ydy'r esboniad yn wahanol?
Ie, tai haf oedd y targedau ond ai tai haf oedd y cymhelliad?
Mae'n werth nodi yn fan hyn fod yr ymgyrch llosgi wedi cychwyn yn hydref 1979, gwta chwe mis ar ôl i bobl Cymru wrthod datganoli o fwyafrif llethol mewn refferendwm. Tua'r un pryd cyhoeddodd Gwynfor Evans ei fwriad i ymprydio hyd farwolaeth er mwyn ceisio sicrhau sianel deledu Cymraeg.
Nawr, does 'na ddim cysylltiad uniongyrchol rhwng y ddau ddigwyddiad yna. Doedd dim lle i ymosodiadau llechwraidd fin nos yn athroniaeth Gwynfor. Roedd 'na fyd o wahaniaeth, yn ei feddwl e, rhwng gweithred "Tri Penyberth" wnaeth dderbyn y cyfrifoldeb am eu trosedd a thactegau Rhys Gethin a'i griw.
Serch hynny mae modd gweld yr ymgyrch llosgi a'r ymgyrch dros sianel Gymraeg fel ymatebion i fethiant y cynlluniau datganoli.
Roedd breuddwydion cenedlaetholwyr wedi eu chwalu, dulliau democrataidd wedi methu a'r 'mudiad cenedlaethol' fel y gelwid e ar ei gefn. Beth os oedd Gwynfor a Rhys Gethin yn rhannu'r un cymhelliad sef dangos nad oedd y frwydr wedi llwyr ei cholli?
Os felly, symbolau oedd y Sianel Gymraeg a Thai Haf. Statws cyfansoddiadol Cymru a diogelu'r Gymraeg oedd y cymhellion.
Ydy hi'n gyd-ddigwyddiad bod yr ymosodiadau ar dai haf wedi dod i ben yn y 1990au pan oedd ail refferendwm ar y gorwel?
Dydw i ddim yn gwybod yr ateb i'r cwestiwn yna ond mae'n ddamcaniaeth sy'n werth ei hystyried!