Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4

  • Cyhoeddwyd
Ciwiau ar yr M4Ffynhonnell y llun, Traffic Wales
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r dyn yn Ysbyty Southmead ym Mryste.

Mae dyn 61 oed wedi marw ar ôl cael ei daro gan lori ar yr M4 fore Mawrth.

Yn ôl yr Heddlu Gwent, digwyddodd y gwrthdrawiad toc cyn 07:00.

Cafodd y dyn o ardal Cil-y-coed ei gludo i Ysbyty Southmead ym Mryste gydag anafiadau i'w goes a'i glun, ble fu farw.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un welodd y digwyddiad.

Achosodd y gwrthdrawiad draffig trwm ar yr M4, gyda chiwiau yn ymestyn yn ôl chwe milltir.

Mae'r draffordd yn parhau ar gau tua'r dwyrain rhwng cyffyrdd 23 (Magwyr) a 24 (cylchfan Coldra).

Mae yna draffig trwm ar yr M4 i'r ddau gyfeiriad, ac mae'r heddlu yn disgwyl i'r ffordd fod ynghau am beth amser eto wrth i'r ymchwiliad barhau.

Pynciau cysylltiedig