Cynhadledd Plaid Cymru: Cytundeb i 'newid bywydau'

  • Cyhoeddwyd
Adam PriceFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price yn annerch cynhadledd rithwir y blaid

Bydd y cytundeb newydd rhwng Plaid Cymru â Llafur dros gydweithio yn y Senedd yn newid bywydau miloedd o bobl ledled Cymru, yn ôl arweinydd Plaid.

Mewn araith, mae Adam Price yn dweud bod y cynlluniau i roi prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yn dangos bod y blaid yn gwneud gwahaniaeth.

Cafodd y sylwadau - a recordiwyd ymlaen llaw - eu darlledu fel rhan o gynhadledd rithwir Plaid Cymru nos Wener.

Yna ddydd Sadwrn bydd cyfle i aelodau'r blaid bleidleisio dros gymeradwyo'r cytundeb cydweithio, sydd i bara tair blynedd.

'Llywodraeth elyniaethus'

Mae'r cytundeb - sydd eisoes wedi cael sêl bendith pwyllgorau gwaith y ddwy ochr - yn cynnwys polisïau i gyflwyno trethi twristiaeth lleol, cyhoeddi cynigion ar reolaethau rhent i wneud eiddo'n fforddiadwy i bobl leol, a diwygio cyfraith tai i roi terfyn ar ddigartrefedd.

Mae yna ymrwymiadau hefyd i greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, newid treth cyngor a chynyddu nifer yr aelodau'n Senedd Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ychwanegodd Adam Price fod "chwilfrydedd am annibyniaeth" yn cyflymu'r daith gyfansoddiadol i'r cam nesaf

Meddai Mr Price wrth y cynadleddwyr: "wedi cyfnod mor hir ac mor dywyll i bawb - cyfnod o ynysu, o ofni ac o alaru - rwy'n teimlo'n obeithiol bod pethau gwell ar ddod.

"I'r rheini sy'n dweud wrthych chi beth yw pwrpas gwleidyddiaeth, neu pam ddylen nhw drafferthu i bleidleisio, gallwch chi ateb yn fwy pendant byth o'r wythnos hon ymlaen.

"Mae Plaid Cymru yn gwneud gwahaniaeth.

"Rydych chi wedi newid realiti bywydau bob dydd y cymunedau rydyn ni â'r fraint o'u cynrychioli."

Mae Mr Price yn egluro wrth aelodau'i blaid bod y trafodaethau gyda Llafur wedi dechrau chwe mis yn ôl, yng nghyd-destun y pandemig a'r hyn mae'n ei alw'n "lywodraeth Geidwadol elyniaethus yn San Steffan".

"Roedden ni'n credu y byddai er budd y genedl i'r ddwy blaid gydweithio dros Gymru," meddai.

"Byddwn yn helpu i lunio Senedd newydd a diwygiedig - un a fydd yn fwy ac yn fwy amrywiol."

Mae Mr Price yn dadlau bod yn angen cryfhau Senedd Cymru, gyda phwerau newydd dros les, cyfathrebu, darlledu, plismona a chyfiawnder.

Cam nesaf annibyniaeth

Mae hefyd yn rhagweld y bydd yr hyn mae'n ei alw'n "chwilfrydedd" Cymru am annibyniaeth "yn rhoi genedigaeth - yn gynt nag y mae llawer yn ei feddwl - i Gymru annibynnol".

Bydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a gyhoeddwyd fis diwethaf i ystyried perthynas Cymru â gweddill y DU, "yn mynd â'n taith gyfansoddiadol genedlaethol i'r cam nesaf", meddai.

Dadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol, Daniel Davies

Wedi arwyddo'r cytundeb gyda Mark Drakeford, nawr mae'n rhaid i Adam Price berswadio aelodau ei blaid i adael iddo gydweithio gyda Llafur.

Chwe mis ar ôl iddyn nhw golli'r etholiad, efallai bydd rhai yn gofyn a ydy'r blaid ar y trywydd cywir.

Dyna pam mae'r araith hon yn ymdrech nid yn unig i werthu'r cytundeb, ond i werthu'r blaid fel un sy'n rhoi buddiannau Cymru o flaen rhai ei hunain.

Mae'n wir fod 'na bolisïau yn y cytundeb nad oedd ym maniffesto Llafur, fel gofal i blant dwy oed a chiniawau ysgol am ddim.

Ond cofiwch fod sefyllfa ariannol y llywodraeth wedi "gwella'n sylweddol" ers ysgrifennu'r maniffestos, meddai arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd.

Diolch yn bennaf i gynnydd mewn gwario ar wasanaeth iechyd Lloegr, mae gan Lywodraeth Cymru fwy i'w wario ar y pethau sydd yn y ddogfen gerbron cynhadledd Plaid Cymru y penwythnos hwn.

Mae'r gynhadledd rithwir hon yn cael ei chynnal ar ôl i Blaid Cymru roi'r gorau i gynlluniau i aelodau gyfarfod yn Aberystwyth fis diwethaf oherwydd y pandemig.

Mae'n dilyn etholiad siomedig ym mis Mai, pan enillodd y blaid un sedd ychwanegol ym Mae Caerdydd, gan roi cyfanswm iddi o 13.

Ond daeth y blaid yn drydydd y tu ôl i'r Ceidwadwyr.

Enillodd Llafur union hanner y seddi ym Mae Caerdydd a heb fwyafrif dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford bod angen cytundeb gyda Phlaid Cymru er mwyn iddo allu mynd i'r afael â materion "heriol ac uchelgeisiol".

Ni fydd y cytundeb yn gyfystyr â chlymblaid rhwng y pleidiau, ac ni fydd aelodau Plaid Cymru o'r Senedd yn ymuno â'r llywodraeth.

Ond mae BBC Cymru wedi cael gwybod y bydd Plaid yn gallu penodi ymgynghorwyr arbennig i weithio ar y cytundeb mewn llywodraeth.