Carcharu cyn-brifathro ym Môn, 90, am droseddau rhyw

  • Cyhoeddwyd
IndefatigableFfynhonnell y llun, Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Fe gaeodd Indefatigable yn 1995 cyn ailagor fel canolfan hyfforddi i'r Weinidogaeth Amddiffyn rai blynyddoedd yn ddiweddarach

Mae cyn-brifathro ar Ynys Môn wedi cael ei garcharu am gam-drin disgyblion yn rhywiol dros gyfnod o 20 mlynedd.

Cafodd Robert Youngman, 90, o Lwydlo yn Sir Amwythig ei garcharu am 10 mlynedd yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar ôl cyfaddef i 11 cyhuddiad o ymosodiad anweddus.

Roedd rhai o ddioddefwyr Youngman mor ifanc â thair mlwydd oed.

Dywedodd y barnwr John Philpotts wrtho ei fod mwy neu lai "wedi cael dedfryd oes, ac mae'n debygol na chewch chi fyth eich rhyddhau".

Roedd Youngman yn bennaeth yn Indefatigable, ysgol breswyl forol yn Llanfairpwllgwyngyll, rhwng 1977 ac 1986 ac roedd yn byw ar y campws.

Dywedodd un dioddefwr, gafodd ei gam-drin ers ei fod yn dair oed, ei fod yn cael "hunllefau clir iawn" gan ddisgrifio Youngman fel "bwystfil".

Ffynhonnell y llun, Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ganolfan yn hyfforddi bechgyn ar gyfer ymuno â'r llynges

Dywedodd dioddefwr arall fod disgyblaeth gadarn yn rhan o'r drefn yn Indefatigable, ble roedd bechgyn yn cael eu hyfforddi ar gyfer y llynges, a bod hyn yn annog "bwlio" ymhlith staff.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr wrtho fod enw da Youngman "yn deilchion" ac y dylai wynebu'r goblygiadau "er ei fod yn hwyr yn ei fywyd".

Wrth siarad yn dilyn yr achos, dywedodd y Ditectif Gwnstabl Dan Smith o Heddlu'r Gogledd fod yr ymchwiliad wedi bod yn un "heriol", gan edrych ar droseddau am ddau ddegawd o'r 1960au ymlaen a hynny yn y DU, Iwerddon ac Awstralia.

Fe gaeodd ysgol hyfforddiant Indefatigable yn 1995, gan ailagor fel canolfan hyfforddi i'r Weinidogaeth Amddiffyn ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach.