Cynnal arolwg o wasanaethau iechyd meddwl pobl ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae myfyriwr o Ynys Môn yn trefnu arolwg er mwyn casglu tystiolaeth ynglŷn â'r gwasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru.
Dywedodd Gareth Thomas o Gemaes ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru ei bod hi'n ymddangos fod y gwasanaeth yn amrywio'n fawr ar draws Cymru ac nad oes cysondeb.
Ei fwriad ydy cael cynifer o bobl â phosib i lenwi holiadur er mwyn cael darlun cyflawn o'r sefyllfa ac anfon y wybodaeth at Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y llywodraeth ei bod wedi darparu £783m eleni i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl - cynnydd o £42m ers y llynedd.
'Cymorth arbennig o dda'
"Mi ges i gymorth arbennig o dda gan fy meddyg teulu pan ges i broblemau iechyd yn fy arddegau. Roedd o'n gwybod at bwy i fy nghyfeirio," meddai Gareth, sy'n astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth.
"Ond o siarad â nifer o bobl ifanc eraill dydyn nhw ddim wedi bod mor lwcus."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n ofynnol i bob bwrdd iechyd ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl ar gyfer pob oedran, ond mater i'r byrddau iechyd eu hunain yw penderfynu ar y ddarpariaeth fwyaf priodol yn seiliedig ar eu poblogaethau lleol.
"Gallai hyn olygu bod rhai byrddau iechyd yn cynnig triniaethau ac ymyriadau gwahanol, o'u cymharu ag ardaloedd eraill."
Ychwanegodd fod yr arian sy'n cael ei wario ar wasanaethau iechyd meddwl wedi cynyddu.
"Rydyn ni wedi darparu £783m eleni i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, sef cynnydd o £42m ers y llynedd," meddai.
"Mae hyn yn cynnwys £5.4m yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc."
'Ddim yn gwybod at bwy i fynd'
Mae Gareth am weld gwasanaeth symlach a chyfartal ar draws Cymru.
"Mae 'na lot fawr o elusennau da iawn yn gweithio yn y maes yma ond dydy pawb ddim yn gwybod at bwy i fynd, ac nid pawb sydd am gael cymorth yn yr un ffordd," meddai.
"Eisiau casglu tystiolaeth ydw i i gael gweld be' sydd ar gael er mwyn ceisio gwella'r sefyllfa."
Swyddfa ei Aelod o'r Senedd, Rhun ap Iorwerth sy'n gweinyddu'r arolwg.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd18 Awst 2021