Angen mwy o gefnogaeth iechyd meddwl, medd elusen

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Sesiwn therapiFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae elusen iechyd meddwl blaenllaw'n galw am wneud hi'n haws i bobl gael cefnogaeth a ffyrdd mwy penodol o wella a thargedu gwasanaethau.

Dywed Mind Cymru bod "rhan helaeth" o'r angen am wasanaethau heb ei ddiwallu, a bod y pandemig wedi gwaethygu'r sefyllfa.

Mae rhai byrddau iechyd wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y ceisiadau am gefnogaeth o'i gymharu â'r cyfnod cyn y pandemig, yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law'r BBC.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi rhoi £42m yn ychwanegol eleni ar gyfer cefnogaeth iechyd meddwl.

Newidiadau

Yn ystod mis Mawrth eleni, roedd yr atgyfeiriadau iechyd meddwl ar gyfer Cymru gyfan ar lefelau tebyg i'r rhai cyn y pandemig - cyfanswm o 6,689 ar gyfer oedolion ac unigolion dan 18 oed.

Ond mae rhai byrddau iechyd wedi gweld cynnydd mawr mewn atgyfeiriadau.

435 oedd y cynnydd yn achos Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fis Mawrth eleni, sef 47% yn fwy o'i gymharu ag yn Chwefror 2020.

"Y llynedd fe wnaethon ni gyfres o newidiadau i strwythur gwasanaethau fel rhan o gynllun symleiddio cael mynediad i wasanaeth a chynyddu'r capasiti," dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd.

"Arweiniodd y newidiadau yma at gynyddu nifer yr atgyfeiriadau a gofnodwyd trwy ddata'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol.

"Tra bo'r newidiadau wedi dylanwadu ar y cofnodi, rydym yn ymwybodol bod y galw am y gwasanaethau yma hefyd wedi cynyddu'n sylweddol ers dechrau'r pandemig."

Roedd yna 47 yn fwy o atgyfeiriadau yn y cyfnod dan sylw yn ardal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, sef cynnydd o 23%.

Ond roedd yna ostyngiad o 19% yn achos byrddau iechyd Aneurin Bevan a Hywel Dda.

Mae ymchwil y BBC hefyd yn dangos gostyngiad enfawr - 72% - yn nifer atgyfeiriadau ar ddechrau'r pandemig. Roedd yna 4,959 yn llai o atgyfeiriadau rhwng Chwefror 2020 ac Ebrill 2020.

Gwahaniaeth canrannau atgyfeiriadau byrddau iechyd Cymru rhwng Chwefror 2020 a Mawrth 2021:

  • Caerdydd a'r Fro: 435 yn fwy (+47%)

  • Powys: 47 yn fwy (+23%)

  • Betsi Cadwaladr: 8 yn fwy (+1%)

  • Bae Abertawe: 43 yn llai (-7%)

  • Cwm Taf Morgannwg: 167 yn llai (-14%)

  • Aneurin Bevan: 390 yn llai (-19%)

  • Hywel Dda: 75 yn llai (-19%)

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai pobl wedi eu heffeithio'n waeth na'i gilydd ers dechrau'r pendemig, medd Glenn Page o Mind Cymru

Dywedodd Glenn Page, uwch swyddog polisi ac ymgyrchoedd Mind Cymru: "Mae yna grwpiau sydd wedi cael eu heffeithio'n arbennig o ddrwg yn ystod [y pandemig] ac mae angen camau brys a phenodol i fynd i'r afael â hynny.

"Rwy'n cyfeirio at bobl sy'n byw mewn tlodi, plant a phobl ifanc, pobl oedd eisoes â phroblemau iechyd meddwl, a phobl o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig.

"Yr hyn sydd angen yw mwy o fuddsoddi o lawer fel bod yna gapasiti ac adnoddau o fewn gwasanaethau iechyd meddwl i ateb gofynion heddiw ac yn y dyfodol."

Ychwanegodd bod angen cryfhau'r ddarpariaeth gofal sylfaenol ac eilaidd "fel bod pobl gydag anghenion cymhleth a phroblemau iechyd meddwl difrifol a pharhaus yn gallu cael cefnogaeth arbenigol".

Mae hefyd eisiau iddi fod yn haws rhoi cymorth yn gynnar i bobl cyn i broblemau iechyd meddwl cyffredin a llai difrifol "waethygu i'r pwynt nes eu bod yn fwy sâl".

'Angen ymateb aml-asiantaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi rhoi £42m yn ychwanegol eleni ar gyfer cymorth iechyd meddwl ac mae ein Rhaglen Lywodraethu'n gwneud hi'n glir y byddwn ni'n parhau i flaenoriaethu buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

"Mae gyda ni hefyd Ddirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles i fwrw ymlaen gyda rhagor o welliannau.

Dywedodd bod cynllun iechyd meddwl diweddaraf Llywodraeth Cymru'n "amlinellu camau mewn ymateb i effaith y pandemig Covid-19".

Ychwanegodd bod "ymateb i newidiadau o ran anghenion iechyd meddwl a lles angen ymateb aml-asiantaeth ac rydym yn parhau i weithio gydag ein partneriaid i wneud hynny".