Lluniau: Dydd Mawrth Y Ffair Aeaf 2021

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig

Roedd hi'n ddiwrnod prysur unwaith eto ar ail ddiwrnod y Ffair Aeaf wrth i filoedd o bobl ddod i'r maes yn Llanelwedd. Roedd hi dal yn gymylog ond doedd hi ddim mor oer â dydd Llun, er mawr ryddhad i'r bobl oedd yno.

Dyma rywfaint o'r hyn oedd i'w weld ddydd Mawrth yn y Ffair Aeaf.

Disgrifiad o’r llun,

Trafod busnes ac archwilio'r stoc

Disgrifiad o’r llun,

Yr efeilliaid, Enfys a Seren o Gwmduad yn Sir Gâr, yn teithio rownd y maes mewn tractor a threilar

Disgrifiad o’r llun,

Tywys y ceffylau i gwrdd â'r beirniaid

Disgrifiad o’r llun,

Lois, Math a Celt o Aberystwyth yn meddwl mynd am dro ar gefn beic modur pedair olwyn

Disgrifiad o’r llun,

Y pencampwr yn y categori bustach yn cael ei arwain i'r Prif Gylch gan ei berchennog, Richard Wright o Wlad yr Haf

Disgrifiad o’r llun,

Tina, Eleri ac Eleanor o Lanelli yn edmygu arddangosfa flodau Beti Wyn Davies o Geredigion a oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth Dosbarth 1 o dan y testun Gwyliau adref/Staycation

Disgrifiad o’r llun,

Torf yn ymgynnull i weld y bustych

Disgrifiad o’r llun,

Y Welsh Whisperer yn diddanu'r gynulleidfa gyda'i ganu gwlad

Disgrifiad o’r llun,

Golwg thu fewn sied enfawr y tractors a'r peirianwaith

Disgrifiad o’r llun,

Y cantorion Sioned Terry a Gwawr Edwards yn diddanu'r torfeydd gyda chymysgedd o garolau Nadolig a cherddoriaeth gyfoes

Disgrifiad o’r llun,

Caws, cigoedd, cyri, jam, hufen iâ... mae pob math o fwydydd ar gael yn y sioe

Disgrifiad o’r llun,

Ocsiwn ddefaid, a oedd yn cynnwys llawer o enillwyr y dydd

Hefyd o ddiddordeb: