Rygbi Caerdydd: Chwech yn gorfod aros yn Ne Affrica
- Cyhoeddwyd
Mae Rygbi Caerdydd wedi datgelu y bydd yn rhaid i chwe aelod o staff aros yn Ne Affrica wedi iddyn nhw gael profion positif am Covid-19.
Mae'r clwb wedi bod yn sownd yn y wlad wedi i'r DU ei rhoi ar y rhestr goch o ran teithio dramor, ond fe fydd grŵp o 42 o chwaraewyr a staff yn dychwelyd ddydd Iau.
Daw hynny wedi iddyn nhw lwyddo i logi awyren a sicrhau lle mewn gwesty cwarantîn yn Lloegr, ble bydd yn rhaid iddyn nhw aros am 10 diwrnod ar ôl glanio.
Er hynny mae'r rhanbarth yn bwriadu chwarae eu gemau yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop fis yma.
Fe fydd Rygbi Caerdydd yn herio Toulouse gartref ar 11 Rhagfyr, cyn teithio i Lundain i herio Harlequins ar 18 Rhagfyr.
Bydd 32 o chwaraewyr a 16 o staff ar goll ar gyfer y gêm yn erbyn Toulouse am eu bod mewn cwarantîn, ac mae'n ansicr a fyddan nhw ar gael i herio Harlequins.
Mi fydd chwaraewyr rhyngwladol Cymru ar gael am nad oedden nhw wedi teithio i Dde Affrica, ond bydd gweddill y tîm wedi'i ffurfio o chwaraewyr yr academi a'r ail dîm.
Dywedodd cyfarwyddwr rygbi'r rhanbarth, Dai Young y bydden nhw'n gwneud "popeth yn ein pŵer i chwarae'r gemau".
Fe lwyddodd y Scarlets, oedd hefyd yn Ne Affrica pan gafodd y wlad ei symud i'r rhestr goch, i adael yn gynharach yr wythnos hon, ac maen nhw ar hyn o bryd mewn gwesty cwarantîn ym Melffast.
Mae'r ddau ranbarth wedi beirniadu diffyg cymorth gan Lywodraeth Cymru wrth iddyn nhw geisio dychwelyd i'r DU, ac i Gymru.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan ddydd Mawrth na ellir gwneud eithriad i dimau chwaraeon - penderfyniad y mae Ysgrifennydd Cymru Simon Hart wedi'i gefnogi hefyd.
'Anghyfforddus gadael pobl yma'
Mae'r 42 aelod o staff Caerdydd sy'n dychwelyd i'r DU ddydd Iau wedi cael profion PCR negatif, ond mae chwech - sydd heb eu henwi - wedi cael canlyniadau positif.
Fe fyddan nhw yn gorfod aros mewn gwesty cwarantîn yn Ne Affrica
"Wrth gwrs mae wedi bod yn anodd ond diogelwch a lles pobl ydy'r peth pwysicaf ac fe fyddan ni'n cael ein trin yn yr yn ffordd â phawb arall," meddai Young.
"Yr hyn rydw i'n anghyfforddus amdano ac sydd wedi fy ypsetio ydy ein bod yn mynd adref ac yn gadael pobl yma.
"Pe bai'n anaf fe fyddai un neu ddau ohonom yn aros yma ond dydyn ni ddim yn cael gwneud hynny dan yr amgylchiadau.
"Yn ffodus mae pawb sy'n aros ar ôl mewn hwyliau da ac mae unrhyw symptomau sydd ganddyn nhw yn rhai ysgafn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2021