Sinema yn Abertawe ar agor er gwaethaf gorchymyn barnwr
- Cyhoeddwyd
Mae sinema yn Abertawe sydd wedi cael gorchymyn i gau gan farnwr am dorri rheolau coronafeirws wedi ailagor heb ganiatâd.
Cafodd perchennog Cinema & Co. Anna Redfern ei rhybuddio gan farnwr rhanbarthol ddydd Mawrth y gallai fod mewn dirmyg llys pe bai'r busnes yn parhau ar agor.
Fe ddaeth hynny wedi i'r safle aros ar agor er gwaethaf hysbysiad cau gan Gyngor Abertawe, am eu bod yn gwrthod gofyn i gwsmeriaid ddangos pàs Covid, fel sy'n ofynnol yn gyfreithiol.
Ond mae Cinema & Co. ar agor nos Fercher, ble mae'n ymddangos ei fod yn cynnal noson pizza a ffilm Nadolig.
Mae BBC Cymru wedi gweld dros ddwsin o bobl yn mynd i mewn i'r adeilad.
Fe wnaeth gohebydd ofyn i aelod o staff a oedden nhw ar agor i'r cyhoedd, ond dywedwyd fod angen i unrhyw ymholiadau gael eu gwneud trwy ebost.
Mae BBC Cymru bellach wedi gyrru ebost at y busnes yn holi beth yw'r sefyllfa.
Am tua 17:00 ddydd Mercher roedd tua 20 o bobl i'w gweld tu mewn i'r adeilad.
Hefyd ddydd Mawrth fe gafodd Ms Redfern orchymyn i dalu costau cyfreithiol o £5,265 i Gyngor Abertawe.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Abertawe nos Fercher: "Mae'n siomedig i ddysgu bod yr adeilad wedi ailagor, a bod y perchennog nid yn unig wedi anwybyddu'r Cyngor a Llywodraeth Cymru ond hefyd y llys.
"Does dim penderfyniadau eto ynghylch camau pellach."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2021