Llwyddiant eraill yn 'sbardun' i brynu tafarn yn Felin-fach

  • Cyhoeddwyd
Tafarn y ValeFfynhonnell y llun, Menter Tafarn y Vale
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r criw wedi gosod nod o godi £330,000 i brynu Tafarn y Vale erbyn y Nadolig

Mae criw o bobl o Ddyffryn Aeron, sydd wrthi'n codi arian i achub eu tafarn leol, yn dweud bod llwyddiant mentrau diweddar wedi eu sbarduno.

Ers tua wyth mis, mae trigolion lleol wedi dod ynghyd i geisio prynu Tafarn y Vale yn Felin-fach a'i hagor fel tafarn sy'n eiddo i'r gymuned.

Mae'r criw wedi gosod nod o godi £330,000 erbyn y Nadolig a hynny drwy annog pobl i brynu cyfranddaliadau.

Gyda mwy na £150,000 wedi ei gasglu dywedodd Iwan Thomas, Cadeirydd Menter y Vale bod gweld mentrau tebyg yn llwyddo wedi bod yn "sbardun".

Ffynhonnell y llun, Menter Tafarn y Vale
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r fenter yn gobeithio codi £330,000 erbyn y Nadolig

Dywedodd: "Ma' gweld mentrau tebyg yn ddiweddar yn sicr 'di bod yn hwb ac wedi dangos i ni bod e'n bosib wrth gwrs.

"Dwi wastad wedi edmygu'r syniad. Dwi'n bensaer wrth fy ngwaith ac wedi gweithio tipyn yn ardal Llithfaen, felly'n ymwybodol iawn o fenter Tafarn y Fic - yr hynaf oll o'r tafarndai cymunedol dwi'n meddwl.

"Yna mwy a mwy yn ddiweddar wrth gwrs - Ty'n Llan, Y Plu a'r Heliwr yn y gogledd.

"Ma' gweld llwyddiant y tafarndai hynny a chymaint o les mae e 'di 'neud i'r gymuned 'di bod yn sbardun, yn sicr."

Llwyddodd menter gymunedol i brynu Tafarn Ty'n Llan, Llandwrog i godi dros £400,000 o gyfranddaliadau ym mis Mehefin eleni.

Mae'r fenter yn Llandwrog bellach yn paratoi i agor ei drysau i'r gymuned.

Disgrifiad o’r llun,

Mae tafarn Ty'n Llan yn Llandwrog yn paratoi i agor ei drysau wedi i'r gymuned leol ei phrynu

Yn ôl Iwan Thomas, roedd "risg o golli cymuned" wrth i dafarn y Vale yn Felin-fach gau ei drysau ym mis Hydref.

Dywedodd: "Tafarn y Vale yw'n local ni. O'n ni'n gw'bod bod 'na risg o golli tafarn fan hyn, risg o golli cymuned hefyd.

"Yn bwysicach, o'n ni'n gw'bod bod 'na le am brosiect cymunedol - felly dyma ni'n meddwl pam ddim mynd amdani.

"Ma' hi 'di bod yn anodd yn y cyfnod clo pan ddechreuon ni'r fenter ond ma' 'na lot fawr o gefnogaeth 'di bod a ni mewn lle dipyn iachach nawr."

Ffynhonnell y llun, Menter Tafarn y Vale
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o enwogion wedi cefnogi Menter y Vale yn ystod yr wythnosau diwethaf

Mae Menter y Vale wedi denu cefnogaeth gan sawl wyneb cyfarwydd yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Wrth i enwogion fel Rhys Ifans, Matthew Rhys a Huw Chiswell rannu negeseuon fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Iwan bod y fenter "yn symud".

"Mae'r wythnos diwethaf 'di bod yn wych. Ni'n cael cyfnodau tawel, ond wedyn ma' 'na fomentwm yn sydyn.

"Gethon ni ddiwrnod gwych ar y diwrnod cyntaf ac wedyn rhygnu a throi yn yr unfan am sbel. Nos Iau, godon ni dros £20,000. Mae pethau'n symud."

£330,000 yw targed swyddogol y fenter er mwyn prynu'r adeilad, talu'r costau cyfreithiol a chostau gwaith atgyweirio ac adnewyddu.

Gobaith y criw yw gwneud cais am gymorth ariannol gan Gronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU hefyd.

'Rhaid cadw pobl ifanc'

Yn ôl Iwan sy'n arweinydd gyda'r Clwb Ffermwyr Ifanc lleol, mae'r fenter yn ffordd o aduno'r gymuned yn dilyn y pandemig.

Dywedodd: "Ma'r pandemig wedi torri cysylltiadau. Yn anffodus, ma' 'na bobl sy'n mynd i gael eu colli o'r gymdeithas - pobl sy' nawr yn hapusach o flaen y teledu, er enghraifft.

"O ran y clwb ffermwyr ifanc - dwyt ti ddim yn cael y teimlad bod cweit yr un awch ers y pandemig.

"Ma' rhaid i ni feddwl am sut ry'n ni'n cadw pobl ifanc yn ein cymunedau ni, a bod 'na gyfleoedd 'na i gymdeithasu.

"Ma'r fenter 'ma'n gyfle i newid hynny. Mae e'n dod ar adeg bwysig."

Pynciau cysylltiedig