Dr Carl Clowes, sylfaenydd canolfan iaith Nant Gwrtheyrn, wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae sylfaenydd y ganolfan iaith genedlaethol yn Nant Gwrtheyrn, Dr Carl Clowes, wedi marw.
Sefydlodd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn yn 1978 tra'n gweithio mewn practis meddygol ym Mhen Llŷn.
Yn feddyg o ran ei waith, cafodd y freuddwyd o ddefnyddio hen bentref chwarel leol oedd wedi bod yn wag ers 20 mlynedd i sefydlu canolfan er mwyn i bobl ddysgu Cymraeg.
Pan gafodd Dr Clowes y weledigaeth, dywedodd "ar y pryd roedd pobl yn meddwl fy mod yn hanner call".
Roedd yn gadeirydd yn ystod y cyfnod cyntaf, ac yn fwy diweddar fe ddaeth yn llywydd.
Dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, ein bod "wedi colli un o gymwynaswyr mawr yr iaith Gymraeg".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Nant Gwrtheyrn bellach yn denu mwy na 30,000 o ymwelwyr dyddiol y flwyddyn a nifer o grwpiau preswyl sydd am ddysgu'r iaith.
Roedd Dr Clowes yn ŵr ac yn dad i bedwar o blant, gan gynnwys dau o aelodau'r band Super Furry Animals, Cian Ciarán a Dafydd Ieuan.
Cyhoeddodd ei hunangofiant 'Carl Clowes: Super Furries, Prins Seeiso, Miss Siberia - a Fi' yn 2016.
Yn y gyfrol, honnodd fod Plaid Cymru wedi derbyn rhodd o £25,000 gan gyn-arweinydd Libya, Muammar Gaddafi yn y 1970au.
Dywedodd Dr Clowes, a aeth ar daith i Libya gydag aelodau'r blaid yn 1976 ar wahoddiad yr Undeb Sosialaidd Arabaidd, bod yr arian wedi cael ei dalu yn dilyn yr ymweliad.
Ond dywedodd Plaid Cymru nad oedd unrhyw gofnod eu bod wedi derbyn rhodd ariannol o'r fath.
Gwaith rhyngwladol
Ef oedd cadeirydd Dolen Cymru, corff a oedd yn nodi'r berthynas rhwng Cymru a Lesotho a sefydlwyd yn 1985.
Fe dderbyniodd OBE yn 2011 am ei wasanaeth i'r gymuned ar Ynys Môn.
Dywedodd ar y pryd ei fod yn "falch iawn bod y gwaith o sefydlu is-genhadaeth Lesotho yma yn Rhoscefnhir yn cael ei gydnabod".
Roedd Dr Clowes hefyd yn gadeirydd ar Antur Aelhaearn, y Gydweithfa Gymunedol gyntaf yn y DU yn 1974.
Yn aelod o'r Orsedd, cafodd ei anrhydeddu gydag Urdd y Derwyddon am "ei wasanaeth lleol, cenedlaethol a rhyngwladol".
Yn 2015 cafodd ei anrhydeddu gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP) i "gydnabod ei gyfraniad aruthrol at iechyd yng Nghymru a thramor" - y meddyg teulu cyntaf i gael anrhydedd o'r fath.
Mae'n gadael ei wraig Dorothi a'i blant - Dafydd, Rhiannon, Angharad a Cian.
'Ei golled yn ddifesur'
Mewn teyrnged i Cymru Fyw, dywedodd Huw Jones ei bod hi'n "anodd cyfleu'r teimlad o fwlch sy'n ymddangos wrth feddwl ein bod wedi colli un o gymwynaswyr mawr yr iaith Gymraeg".
"Roedd Carl Clowes yn weledydd yng ngwir ystyr y gair - yn ddyn oedd yn cael breuddwydion, yn llwyddo i ysbrydoli miloedd o bobl eraill i'w rhannu, ac â'r gallu ymarferol a'r styfnigrwydd i'w troi'n ffaith.
"Yn achos Nant Gwrtheyrn, roedd tristwch symbolaidd y pentref mewn adfeilion yn wybyddus i genedl gyfan.
"Ond Carl welodd sut y gellid dod â bywyd yn ôl i'r Nant trwy greu canolfan iaith yno.
"Y bwriad o'r cychwyn oedd datblygiad fyddai'n creu miloedd o siaradwyr Cymraeg newydd, tra'n creu cyflogaeth sylweddol i Gymry Cymraeg mewn ardal lle roedd gwaith yn brin, yn sgil cau'r chwareli.
"Ac fe lwyddodd."
Ychwanegodd Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth: "Trwy ddŵr a thân, gyda chefnogaeth a chymorth ei briod Dorothi, a'r cyd-weithwyr eraill a ddaeth i ymuno yn y fenter, ac hefyd y gwirfoddolwyr ar hyd a lled Cymru a thu hwnt fu'n codi arian i brynu'r safle a'i addasu, fe drowyd yr adfeilion yn ganolfan fyrlymus ar sylfeini cadarn.
"Yn ogystal â bod yn Gadeirydd cychwynnol y fenter, bu'n aelod di-dor o'r Ymddiriedolaeth sy'n gyfrifol am ei pharhâd, ac fe'i penodwyd yn Llywydd anrhydeddus rai blynyddoedd yn ôl.
"Roedd ei egni heriol yn amlwg drwy'r holl gyfnod. Beth bynnag arall oedd ganddo ar y gweill - ac roedd yna lawer o fentrau ac achosion eraill oedd hefyd yn agos at ei galon - roedd yn dal i fyrlymu o syniadau am bethau y dylai'r Nant fod yn eu gwneud.
"'Byw Fyddi Nant Gwrtheyrn' oedd cytgan cân enwog Ac Eraill slawer dydd. Roedd y Nant yn symbol o ddirywiad cenedl, cymuned ac iaith.
"Ond fe ddaeth maes o law yn symbol pwerus o'u hadfywiad. Carl Clowes wnaeth droi'r slogan yn ffaith.
"Bydd gan bob dysgwr ac ymwelydd i'r Nant le i ddiolch iddo am ddegawdau i ddod. Mae ein colled ninnau fel Ymddiriedolaeth yn ddifesur."
'Chwythu gwynt newydd i sefyllfa'r iaith'
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts y bydd Dr Carl Clowes yn cael ei gofio "fel un o arloeswr mwyaf y Gymraeg yn ystod y 40 mlynedd diwethaf".
"Dyn â gweledigaeth uchelgeisiol, ac â'r synnwyr busnes a threfnu anghyffredin i droi'r weledigaeth yn realiti," meddai.
"'Drwy agor drysau'r adfeilion a dod â bywyd newydd i'r pentref gwag ar odrau'r Eifl, fe agorodd y drws i filoedd o siaradwyr Cymraeg newydd, a chwythu gwynt newydd i sefyllfa'r iaith.
"Wrth i ni i gyd weithio gyda'n gilydd i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd dyddiol o'r iaith, bydd cyfraniad mawr Carl Clowes yn para; a bydd y dosbarthiadau preswyl a'r nosweithiau adloniannol i ddysgwyr yn y Nant yn goffadwriaeth i'w waith."
'Dipyn o arwr'
Mae teyrngedau lu hefyd wedi'u rhoi i Dr Clowes ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd yr Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, fod ei gyfraniad yn "amhrisiadwy i Gymru, y Gymraeg a'i gymuned".
"Bydd y genedl yn elwa'n hir iawn o'i weledigaeth a'i ddycnwch," meddai ar Twitter.
Dywed Mabon ap Gwynfor, AS Dwyfor Meirionnydd, ei fod yn "golled aruthrol".
"Roedd o'n dipyn o arwr i mi - dyn egwyddorol efo gweledigaeth glir a daliadau cadarn," meddai.
"Roedd yr hyn wnaeth o yn Llanaelhaearn a'r fro ymhell o flaen ei amser ac mae dyled y fro a'r genedl yn fawr iddo."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2018
- Cyhoeddwyd30 Medi 2012
- Cyhoeddwyd28 Medi 2016