Gwrthdrawiad A5 Llangefni: Cyhoeddi enw dyn, 28, fu farw
- Cyhoeddwyd
Mae dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar Ynys Môn nos Iau wedi cael ei enwi gan yr heddlu.
Roedd Joseph Hollingsworth yn 28 oed ac yn dod o ardal Caergybi.
Dywedodd teulu Mr Hollingsworth fod ganddo "galon aur" ac y byddai colled ar ei ôl.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i wrthdrawiad un cerbyd ar gyrion Llangefni am tua 17:30 ar 2 Rhagfyr.
Fe wnaeth y car daro wal a pharhau i gae cyfagos ar yr A5 Ffordd Caergybi rhwng Rhostrehwfa a Nant Turnpike.
Bu farw Mr Hollingsworth, oedd yn gyrru'r car, yn y fan a'r lle.
Mae dyn 25 oed oedd hefyd yn y car yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac yn apelio am wybodaeth gan unrhyw dystion.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2021