'Corwynt emosiynol' cael cân ar albwm Gary Barlow

  • Cyhoeddwyd
Gary Barlow
Disgrifiad o’r llun,

"Os 'di Gary isho ffonio fi am tips dwi o hyd yma!"

Mae wedi bod yn "gorwynt o emosiynau" meddai Al Lewis ar ôl deall bod Gary Barlow wedi recordio un o'i ganeuon Nadolig ar gyfer ei albwm newydd.

Mae'r seren Take That a'r X Factor wedi cynnwys y gân A Child's Christmas in Wales, dolen allanol fel deuawd gydag Aled Jones ar ei albwm Nadolig, The Dream of Christmas, gyda rhai llinellau yn Gymraeg.

Roedd yna ychydig o ddryswch i ddechrau am bwy oedd yn cael y clod ar-lein am ei chyfansoddi hefyd.

Cafodd y gân ei hysgrifennu yn wreiddiol yn Gymraeg gan Al Lewis ac Arwel Lloyd Owen fel Clychau'r Ceirw.

Fe wnaethon nhw ei rhyddhau fel sengl Saesneg yn 2013 gyda geiriau newydd wedi eu hysbrydoli gan stori Dylan Thomas o'r un enw i gyd-fynd â chanmlwyddiant geni'r bardd o Abertawe yn 2014.

Daeth i sylw cynulleidfa ehangach drwy hynny ac fe wnaeth Gary Barlow drydar ei bod yn gân wych ar y pryd.

Annisgwyl

Roedd clywed ei bod ar ei albwm newydd ar gyfer Nadolig 2021 yn newyddion annisgwyl ond pleserus i Al Lewis ac Arwel Lloyd Owen.

"Wnaethon ni ddim clywed dim byd gan Gary na'i bobl yn sôn am hyn. Y peth cynta' glywais i oedd Radio Cymru yn cysylltu yn gofyn am sylwebaeth ar y ffaith bod Gary wedi recordio'r gân," meddai Al Lewis.

Disgrifiad o’r llun,

"'Dan ni'n blês unrhyw adeg mae unrhyw un yn gwneud fersiwn o un o'n caneuon ni oherwydd mae'n meddwl bod nhw'n licio'r gân," meddai Al Lewis

"Roeddan ni'n cymryd falle bod o wedi sgwennu cân wahanol felly dim tan y diwrnod ddaeth o allan a wedyn drwy ei glywed oeddan ni'n sylweddoli ei bod hi'n blwmp ac yn blaen mai ein cân ni oedd hi."

Dywedodd y label recordio wrthyn nhw yn wreiddiol mai cân wahanol gan Gary Barlow a Dylan Thomas oedd hi, meddai Al Lewis a dyna oedd wedi ei nodi ar-lein i ddechrau.

"Felly mae wedi bod yn bach o gorwynt o feddwl 'Ai'n cân ni ydi hi?' Wedyn 'O ie, cân ni ydi o, ond dydi pobl ddim yn gwybod.'"

Ond mae'r ddau wedi cysylltu gyda chynrychiolwyr Gary Barlow i gael eu henwau ar y gân ac mae'n ymddangos bod y camgymeriad wedi ei gywiro erbyn hyn gydag Al Lewis ac Arwell Owen (sic) wedi eu rhestru fel cyfansoddwyr/awduron.

Ffynhonnell y llun, Twitter

'Cydnabyddiaeth'

Mae'n amlwg fod y gân yn prysur ddod yn glasur Nadolig mewn cylchoedd cerddorol; mae hefyd wedi ei chynnwys ar albwm Nadolig y seren West End, John Owen-Jones.

Fe wnaeth John Owen-Jones gysylltu o flaen llaw i ofyn am gael recordio'r gân, yn wahanol i dîm Gary Barlow, meddai Arwel Lloyd Owen, er, yn swyddogol, does dim rhaid gwneud hynny.

Fe gafon nhw sioc i ddechrau o weld enw Gary Barlow ar y credits, meddai, ond gyda hynny bellach wedi ei gywiro, mae'n falch iawn o fod ar yr albwm.

"Mae'n grêt, mae'n gydnabyddiaeth am wn i o ran gwaith fi ac Al. Mae'n braf bod rhywun o'r safon yne wedi clywed y gwaith yn y lle cyntaf a wedyn meddwl ei fod ddigon da i gael ei efelychu."

Ffynhonnell y llun, Arwel Lloyd Owen
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n braf bod rhywun o'r safon yne wedi clywed y gwaith a meddwl ei fod ddigon da i gael ei efelychu," meddai Arwel Lloyd Owen.

Mae Al ac Arwel wedi bod yn cyd-ysgrifennu a chyfansoddi ers eu hamser yn yr ysgol uwchradd yn Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn, gan berfformio a recordio gyda'i gilydd ac ar wahân ers hynny.

Fe wnaethon nhw ysgrifennu Clychau'r Ceirw mewn ryw wythnos ar gyfer cyngerdd Nadolig ar Radio Cymru yn 2012, meddai Arwel, sy'n ddirprwy brifathro yn ogystal â cherddor sy'n perfformio fel Gildas.

'Hit' Nadolig

Roedden nhw wrth eu bodd pan welon nhw neges Twitter mor bositif gan Gary Barlow am y fersiwn Saesneg yn 2013.

"Wedyn ddaru ni ddim meddwl lot mwy am y peth," meddai Arwel. "Wedyn tua blwyddyn yn ôl 'nath Gary Barlow wneud playlist Nadolig ar gyfer Radio 2 a dewis 12 cân Nadolig oedd yn cynnwys y gân yne. So yn amlwg oedd o dal yn cofio am y gân ac yn dangos diddordeb ynddi.

"Felly ar gyfer ei albwm Nadolig eleni mae'n rhaid ei fod o'n ei licio hi ddigon i drio gwneud fersiwn ei hun.

Disgrifiad,

Al Lewis yn perfformio Clychau'r Ceirw ar raglen Shân Cothi yn 2018

"Mae'n od achos ti'n sôn am rywbeth wnaethon ni ei greu bron i 10 mlynedd yn ôl wedyn mae'r peth yn cael ei fywyd bach ei hun wedyn.

"Ond mae wastad yn neis cael hit ar gyfer caneuon Dolig, ti'n gwybod bod nhw'n mynd i gael ei chwarae dipyn."

'Dau 'cover' mewn wythnos!'

Meddai Al Lewis: "Yn amlwg, 'dan ni'n blês unrhyw adeg mae unrhyw un yn gwneud fersiwn o un o'n caneuon ni oherwydd mae'n meddwl bod nhw'n licio'r gân, a fel cyfansoddwyr dyna'r peth ti eisiau fwyaf ydy i bobl gael cysylltiad efo dy ganeuon di.

"Felly mae'r ffaith bod Gary Barlow a John Owen-Jones wedi penderfynu 'neud fersiynau yn grêt inni fel cyfansoddwyr oherwydd mae'n meddwl bod ein caneuon ni'n cael eu clywed gan gymaint mwy o bobl.

"Ti'n aros blynyddoedd i rywun cyfro dy gân di a wedyn mae 'na ddau yn dod allan o fewn wsos i'w gilydd!

"Mae hyn jyst wedi bod yn rhwystredigaeth bach ar y cychwyn ond yn yr hir-dymor mae yn grêt bod rhywun fel Gary Barlow eisiau recordio ein cân ni ymhlith y clasuron eraill ar yr albwm."

Cafodd fideo ei recordio ar gyfer eu fersiwn wreiddiol o'r gân yn 2013 gyda golygfeydd wedi eu ffilmio yn 5 Cwmdonkin Drive, Abertawe, lle ganwyd Dylan Thomas.

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube gan Al Lewis

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube gan Al Lewis

Canu yn Gymraeg

Mae llawer wedi ei wneud o'r ffaith bod Gary yn 'canu yn Gymraeg' ar yr albwm.

Fe wnaeth Al gynnwys ychydig linellau Cymraeg er mwyn dangos gwreiddiau'r gân.

"Dwi'n eitha' sicr mai ei lais o sy'n gwneud yr harmoni," meddai Al Lewis, "mae'n ei ganu fo reit dda! Os 'di Gary isho ffonio fi am tips dwi o hyd yma!"

Mae Al wedi dilyn yr un patrwm o gynnwys ychydig o eiriau Cymraeg gwreiddiol ynghanol fersiynau Saesneg o'i ganeuon mwyaf adnabyddus yn Gymraeg ar ei EP newydd sydd allan ers diwedd Tachwedd, Moving On, Moving Past.

Mae'n cynnwys addasiadau Saesneg o ganeuon fel Lle Hoffwn Fod, Heulwen o Hiraeth, Heno yn y Lion ac Yn y Nos.

Bydd Al Lewis ac Arwel Lloyd Owen yn dod at ei gilydd i berfformio eto mewn Cyngerdd Nadolig yn Eglwys Sant Ioan, Caerdydd ar Ragfyr 11.

Pynciau cysylltiedig