Carcharu dyn drywanodd ei bartner yn ei hwyneb
- Cyhoeddwyd

Mae dyn a geisiodd lofruddio'i bartner drwy ei thrywanu yn ei hwyneb a'i stumog wedi cael ei ddedfrydu.
Cafodd Stephen Gibbs, 45 oed, ddedfryd estynedig o 18 mlynedd - 13 mlynedd yn y carchar a phum mlynedd ychwanegol ar drwydded.
Fe wnaeth Gibbs gyfaddef iddo ymosod ar Emma Brown, a oedd wedi ennill £5.5m ar y loteri, yn eu cartref yn Y Barri ar 30 Ionawr.
Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful ei fod wedi mynd yn gynddeiriog pan ddywedodd Ms Brown wrtho ei bod am ddod â'u perthynas i ben.
Cafodd Ms Brown, 49, ei chanfod mewn pwll o waed - wedi ei thrywanu yn ei hwyneb, breichiau a'i stumog.
'Lladd fy hyder'
Yn ystod yr achos fe gafodd lluniau CCTV o'r ymosodiad eu dangos.
Clywodd y llys bod Ms Brown wedi gorfod cael llawdriniaeth wedi'r ymosodiad a'i bod yn dioddef o anafiadau sydd wedi newid ei bywyd.
Mewn datganiad nododd nad yw'n gweld yn iawn yn ei llygad dde, bod rhan o'i boch chwith yn ddiffrwyth a'i bod yn methu codi ei braich dde i'w phen.
"Mae gwella wedi bod yn broses anodd. Dwi'n gwybod na fyddai'n gwella'n iawn ac y bydd hyn gyda fi am weddill fy mywyd.
"Roedden i wedi bod gyda'n gilydd am 12 mlynedd ac yn hapus. Doedd 'na ddim byd wedi awgrymu y byddai'n gwneud hyn. Dwi ddim yn credu y gallaf ymddiried yn unrhyw un eto. Mae gen i fwy o drueni drosto fe na neb arall."
Ychwanegodd mewn datganiad ei bod cyn yr ymosodiad yn "ganolbwynt pob parti" ond ei bod bellach ofn torfeydd mawr.
"Mae'r ymosodiad wedi chwalu fy hyder gan fy mod yn ymddiried ynddo - a dwi'm yn credu ei fod wedi gallu fy nhwyllo i gymaint."
Euogfarnau blaenorol
Roedd Ms Brown, a arferai weithio i Faes Awyr Caerdydd, yn adnabyddus am ei haelioni i achosion da wedi iddi ennill y loteri.
Dywedodd Derrick Gooden, bargyfreithiwr ar ran yr amddiffyniad, bod Gibbs wedi "dangos rhywfaint o edifeirwch".
"Roedd e'n ei charu hi ac mae'n flin ganddo am yr hyn mae e wedi ei wneud. Y ffordd orau y mae'n disgrifio'r cyfan yw ei fod wedi'i cholli hi."
Wrth ddedfrydu dywedodd y Barnwr Richard Twomlow: "Fe wnaethoch chi gymryd cyffuriau ac alcohol yn gyson. Roedd eich cenfigen yn datblygu ac fe ddefnyddioch chi ddyfais tracio.
"Roeddech chi wedi bod yn yfed ac fe wnaethoch chi ei chyhuddo hi o ddweud celwydd.
"Fe gymeroch gyllell fawr o'r gegin gan ddweud rwy'n mynd i dy ladd di. Fe yrroch o'r tŷ gan feddwl eich bod wedi ei lladd hi.
"Mae datganiad Emma Brown yn dangos yr effaith ofnadwy arni yn gorfforol ac emosiynol. Dyw hi ddim yn medru defnyddio ei braich ac mae ei theulu hefyd yn dioddef. Mae'n teimlo na fydd hi'n gallu gwella."
Clywodd y llys hefyd fod Gibbs wedi ei gael yn euog o'r blaen o droseddau treisgar, gan gynnwys trywanu partner blaenorol a'i mab 11 oed yn 2005.
Roedd Gibbs eisoes wedi'i gofnodi fel "person peryglus" yn ôl y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003.
Bydd yn treulio dau draean o'r ddedfryd o garchar cyn y bydd modd ei ystyried am barôl.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2021