Fferm solar yn bygwth newid Llanedi, Sir Gâr yn 'gyfan gwbl'
- Cyhoeddwyd
Mae gwrthwynebiad cryf yn Sir Gaerfyrddin i gynlluniau i adeiladu'r drydedd fferm solar fawr yn yr ardal - a fyddai'n gorchuddio tua 300 erw o dir amaethyddol.
Mae un fferm yn yr ardal eisoes yn cynhyrchu 12MW o drydan a bydd Fferm Solar Tycroes yn cael ei hadeiladu'n fuan ar ôl derbyn caniatâd gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst.
Nawr, mae cwmni Island Green Power, sydd â'i bencadlys yn Llundain, wedi cyflwyno cais i godi Fferm Solar Brynrhyd yn Llanedi ger Rhydaman.
Fe fydd y paneli solar yn gorchuddio 65 hectar o dir - sydd yn cyfateb i 160 o erwau - ac yn cynhyrchu 30MW, sy'n ddigon i bweru dros 10,600 o dai.
Mae Arolygydd Cynllunio yn paratoi adroddiad ar y cais, a'r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol am ei fod yn cael ei ystyried yn "ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol".
Mae Llywodraeth Cymru am weld 70% o drydan Cymru yn cael ei gynhyrchu trwy ddulliau adnewyddadwy erbyn 2030.
Un sydd yn gwrthwynebu'r cais am fferm solar arall ydy Rhodri Williams, sydd yn byw ym mhentref Llanedi.
Fe fydd y datblygiad yn agos iawn at ei gartref, a'r fferm solar yn cael ei chodi ar dir amaethyddol cynhyrchiol.
Dywedodd: "Mae hwn yn dir amaethyddol da. Mae'n gartref i dda godro ac wedi bod ers blynyddoedd a blynyddoedd.
"Beth ni'n trio gwneud, hyd y gwela' i, yw ateb un broblem amgylcheddol ond creu un arall.
"Fydd y datblygiad yma ddim yn cael unrhyw effaith llesol ar yr amgylchedd, ac fe fydd yna broblem yn cael ei chadw i genedlaethau'r dyfodol lle fydd rhaid gwaredu'r paneli solar a'r holl offer."
Yn ôl Mr Williams mae yna safleoedd gwell, ôl-ddiwydiannol, i osod y paneli solar.
"Yn yr ardal hon, er enghraifft, mae yna baneli solar wedi cael eu rhoi ar ddarn o hen dir pwll glo Cynheidre," meddai.
"Safle perffaith ar gyfer paneli solar. Chi hefyd yn gallu gosod nhw ar dai, ar ffatrïoedd, ar unedau diwydiannol, ac mae hynny yn gwneud synnwyr.
"Beth sydd ddim yn gwneud synnwyr yw i osod nhw ar dir ble mae yna wartheg yn medru pori a chynhyrchu llaeth a bwyd.
"Nid gwrthwynebu ynni solar ydym ni ond gwrthwynebu'r lleoliad sydd yn cael ei gynnig ar gyfer y datblygiad yma."
Mewn dogfen aeth gerbron pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gar yn ddiweddar, fe honnodd y datblygwyr y bydd y fferm solar newydd yn arwain at £24m o fuddsoddiad cyfalaf, ac y bydd yna 67 o swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol yn cael eu creu.
Dywedwyd hefyd y bydd yn cyfrannu £500,000 tuag at economi Sir Gâr bob blwyddyn, dros gyfnod o 40 mlynedd o weithredu.
'Colli ffermydd mewn un ardal fach'
Yn y cyfarfod hwnnw, fe fynegwyd pryderon gan yr aelod lleol, y Cynghorydd Gareth Beynon Thomas.
Dywedodd: "Dwi ddim yn gwrthwynebu'r egwyddor o baneli solar, ond beth dwi'n gwrthwynebu yw bod yna gannoedd o erwau mewn un ardal fach a'r effaith mae'n cael ar yr ardal hynny, dyna'r cwestiwn sydd gen i ofyn i rywun.
"Os ni'n colli tir sydd yn gynhyrchiol, fel sydd gyda ni yn yr ardal yn Llanedi, o ble mae'r bwyd yn mynd i ddod?"
Mae'n cwestiynu'r budd i'r economi leol: "Fe wnes i godi'r cwestiwn a dwi ddim wedi cael ateb ar hyn o bryd.
"Dy'n ni ddim yn gwybod a ydy'r hanner miliwn yma yn dod i'r gymuned leol yn Llanedi neu'r sir. Fi dal yn aros am ateb. Cwmni o bant yw e. Ni'n defnyddio tir amaethyddol a cholli ffermydd mewn un ardal fach."
Yn y cyfarfod, fe gyfeiriodd y Cynghorydd Thomas at foddi Cwm Celyn, ac fe gwestiynodd sut y byddai'r gymuned leol yn elwa o'r ffermydd solar.
Dywedodd: "Mae teimladau cryf. Tafod mewn boch wedes i 'na er mwyn pwysleisio'r ffaith bod ni yn mynd i golli ardal fawr o Lanedi dan y gwydr hwn.
"Roedd e'n ffordd o roi pwynt yn gro's. Dy'n ni ddim yn mynd i golli cymuned yn Llanedi fel gaethon ni yng Nghapel Celyn ond fe fydd y gymuned yn cael ei newid."
Mae'r cynghorydd cymuned Emyr Davies yn byw ym mhentref Llanedi ac mae'n pryderu y bydd fferm solar arall yn newid yr ardal yn "gyfan gwbl".
Dywedodd: "Mae'r posteri a'r rhybuddion yn ei erbyn e yn adlewyrchiad o'r teimladau - maen nhw yn ddwys ac yn gryf ac yn emosiynol.
"Bydd yr awyrgylch sydd gyda ni nawr, y cefn gwlad yma yn Llanedi, yn newid yn gyfan gwbl, bydd e'n troi yn ddiwydiannol, ac mae yna deimlad nad oes angen i hynny ddigwydd."
Mewn ymateb i'r pryderon, dywedodd llefarydd o grŵp Pegasus, ar ran y datblygwyr: "Mae'r cynigion hyn yn gydnaws gyda pholisïau cynllunio ar lefelau lleol a chenedlaethol, ac fe fydd yn cael ei ystyried fel datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru.
"Fe fydd yn cyd-fynd gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, wrth gyfrannu at greu economi gryfach, mwy gwyrdd, a chyfrannu at ddad-garboneiddio.
"Fe fydd y cynllun yn gwneud cyfraniad gwerthfawr tuag at ddarparu ynni adnewyddadwy, ymladd newid hinsawdd, tra'n gwella diogelwch ynni ar lefel lleol. Fe fydd yna fudd economaidd, amgylcheddol ac economaidd, ac yn gyfle i wella amrywiaeth ecolegol yn yr ardal.
"Fe fydd y safle yn weithredol am 40 mlynedd, ac ar ôl i'w oes ddod i ben, fe fydd yr offer yn cael ei ddatgomisiynu a'i symud o'r safle."
Penderfyniad erbyn haf 2022
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y cais yn cael ei benderfynu erbyn yr haf.
Yn ôl y llywodraeth: "Mae'n rhaid i bob cais o'r math yma gael ei benderfynu yn unol â Chymru'r Dyfodol, y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, sydd yn golygu bod disgwyl i geisiadau ar gyfer datblygiadau adnewyddadwy amlinellu'r budd economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol i gymunedau lleol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2021