Cymorth iechyd meddwl i bobl fyddar 'ddim yn ddigon da'

  • Cyhoeddwyd
Merch gyda chymorth clywFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cymru yw'r unig wlad yn y DU sydd "ddim yn darparu gwasanaeth digon da" i bobl fyddar sy'n byw â phroblemau iechyd meddwl, yn ôl adroddiad

Mae galwadau i wella darpariaeth gofal iechyd meddwl i bobl sy'n fyddar yng Nghymru.

Yn ôl adroddiad gan grŵp Iechyd Meddwl a Lles Pobl Fyddar Cymru, mae angen i Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd adnabod anghenion y gymuned fyddar yn well.

Dywedodd un person byddar a deithiodd i Loegr am gefnogaeth iechyd meddwl bod y ddarpariaeth yng Nghymru yn "rhwystredig iawn".

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn ystyried darganfyddiadau'r adroddiad wrth gyflwyno strategaeth iechyd meddwl newydd.

Person byddarFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl adroddiad diweddar, mae pobl fyddar ddwywaith yn fwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd meddwl

Mae pobl fyddar ddwywaith yn fwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd meddwl o gymharu â phobl sy'n clywed, yn ôl adroddiad diweddar gan grŵp Iechyd Meddwl a Lles Pobl Fyddar Cymru.

Cymru yw'r unig wlad yn y DU sydd ddim yn "ddim yn darparu gwasanaeth digon da" i bobl fyddar sy'n byw â phroblemau iechyd meddwl, yn ôl darganfyddiadau'r grŵp.

Mae aelodau'r gymuned fyddar yng Nghymru wedi dweud wrth BBC Cymru yr hoffen nhw weld mwy o ddealltwriaeth ymysg rhai gweithwyr y gwasanaeth iechyd ynglŷn â diwylliant pobl fyddar.

Yn ogystal â hynny mae yna ofyn am fwy o hyfforddiant i ddoctoriaid a nyrsys, er enghraifft, a hefyd llinell gofal iechyd meddwl yn benodol ar gyfer pobl fyddar.

Ffion Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Ffion Griffiths, sy'n fyddar, deithio i Loegr i dderbyn cefnogaeth iechyd meddwl

Cafodd Ffion Griffiths, 23 o Gastell-nedd, ei geni'n fyddar. Mae ceisio dod o hyd i gymorth iechyd meddwl trwy'r gwasanaeth iechyd fel plentyn ac oedolyn wedi bod yn "anodd" ar hyd y blynyddoedd, meddai.

Er mwyn dod o hyd i'r help oedd angen, bu'n rhaid iddi deithio i Loegr. Roedd yn rhaid iddi aros am gyfnod hir er mwyn cael yr arian i allu gwneud hynny hefyd.

Roedd yn brofiad "araf" a "rhwystredig", meddai: "Mae'n hynod o rwystredig achos mae pobl fyddar yn Lloegr â mwy o gyfleoedd.

"O ganlyniad, gallen nhw dderbyn triniaeth yn gynt na ni yng Nghymru. Sut gallen ni fod yn yr un sefyllfa?

"Sut mae disgwyl i ni wella os nad oes gyda ni gyfle i ddefnyddio gwasanaethau ar ein cyfer i gael y driniaeth rydyn ni angen yng Nghymru? A dyna sydd yn rhwystredig."

'Stigma a diffyg dealltwriaeth'

Mae rhai o aelodau teulu Dr Sara Wheeler, sy'n gweithio ym Mhrifysgol Glyndŵr, yn fyddar ac mae Sara yn colli ei chlyw erbyn hyn.

Rhai o'i gobeithion hi yw gweld mwy o bobl sy'n medru cyfieithu Iaith Arwyddo Prydain (BSL) i'r Gymraeg, mwy o gyrsiau BSL a gwell dealltwriaeth o sefyllfa person sy'n fyddar neu sy'n drwm eu clyw.

Dywedodd Dr Wheeler: "Mae ymwybyddiaeth fyddar yn sâl tu hwnt ar hyn o bryd oherwydd y stigma a diffyg dealltwriaeth - a hefyd yr agwedd nawddoglyd tuag at ddiwylliant byddar."

Julia Terry
Disgrifiad o’r llun,

Mae Julia Terry yn gyn-nyrs iechyd meddwl a helpodd gyda'r adroddiad newydd

Julia Terry o Brifysgol Abertawe sydd yn gyfrifol am helpu i gydlynu adroddiad newydd Grŵp Iechyd Meddwl a Lles Pobl Fyddar Cymru.

Mae hi hefyd yn gyn-nyrs iechyd meddwl sydd â diddordeb mewn helpu pobl sy'n fyddar.

Dywedodd Ms Terry: "Rydyn ni'n gwybod fod pobl fyddar yn fwy tebygol o gael llai o gymwysterau addysgol, llai tebygol o fod mewn gwaith, a lefelau uwch o unigrwydd ac yn teimlo fel eu bod nhw wedi'u hynysu.

"Dyna pam maen nhw'n fwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd meddwl o'i gymharu â phobl sy'n clywed.

"Rydyn ni angen gwneud mwy o ran helpu pobl sy'n fyddar trwy hyrwyddo iechyd meddwl positif, ond hefyd gwasanaeth sy'n hawdd i'w cael mynediad iddo ac sy'n yn cael ei redeg gan staff sydd â gwell ddealltwriaeth o beth mae'n golygu i fod yn fyddar er mwyn galluogi nhw i ddarparu gwasanaeth diogel a chefnogol i bob un yng Nghymru."

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddwn ni'n ystyried darganfyddiadau'r adroddiad wrth gyflwyno ein strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a fframwaith gofal a chefnogaeth ar gyfer pobl sy'n fyddar neu'n byw gyda phroblemau clyw."

Pynciau cysylltiedig