'Diwylliant o fwlio' yn uned iechyd meddwl Hergest
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad hir-ddisgwyliedig wedi datgelu "diwylliant o fwlio" a "morâl isel" ymhlith staff mewn adran iechyd meddwl yn y gogledd.
Roedd Uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, mewn "trafferthion difrifol" yn ôl adroddiad Holden.
Cafodd y ddogfen, gafodd ei llunio yn 2013, ei chyhoeddi'n llawn ddydd Iau wedi blynyddoedd o ddadlau.
Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gwrthod ei chyhoeddi tan i dribiwnlys yr wythnos diwethaf eu gorfodi i wneud hynny.
Mae'r adroddiad yn amlinellu diffygion yn y berthynas rhwng staff yr uned a'i rheolwyr, gan ddweud bod hynny'n effeithio ar ofal cleifion.
Dywedodd y bwrdd ddydd Iau bod y sefyllfa "wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf" ond bod "mwy o lawer o waith i'w wneud".
Rhai o gasgliadau'r adroddiad:
Cyfathrebu "yn ddifrifol wan" rhwng rheolwyr a staff;
Cwestiynau a oedd gwybodaeth rheolwyr "yn adlewyrchu'n ddigonol y safon pryderus o ofal";
"Tanamcangyfrif difrifol" o ran yr hyfforddiant sydd ei angen ar staff;
Ysbryd isel ymhlith staff, oedd yn teimlo nad oedden nhw'n cael eu clywed;
"Dim perchnogaeth" gan staff mewn cynllun gwelliannau.
Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu yn dilyn cwynion gan staff yr uned seiciatryddol, sy'n delio â chleifion gydag ystod eang o gyflyrau.
Cwblhaodd yr awdur, Robin Holden, y gwaith ym mis Rhagfyr 2013, ac mae wedi ei seilio ar gyfweliadau gyda degau o staff a rheolwyr.
Yn yr adroddiad, dywed Mr Holden bod nifer ohonyn nhw'n cydnabod rhywfaint o esgeulustod o ran gofal cleifion, ond bod y rheiny ar y ward wedi gwneud cymaint ag y gallen nhw.
Dywedodd un: "Dwi wedi gwneud y gorau galla'i, ond ddim wedi gallu gwneud popeth fyddwn i wedi hoffi ei wneud.
"Mae o 'bach fel: 'does neb wedi marw, does dim digwyddiad mawr, dwi wedi gweithio i'r eithaf, a dwi ddim yn gallu gwneud mwy'."
Yn ôl aelod arall o staff: "Os ydy pawb yn fyw ar ddiwedd y dydd, dyna'r gorau alla' i ei wneud."
Rhai wythnosau yn ddiweddarach, cafodd adran iechyd meddwl arall - Tawel Fan ar Uned Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan - ei gau gan y bwrdd iechyd achos honiadau am safon y gofal yno.
Mae adroddiad 14 tudalen Holden yn amlinellu "diwylliant o fwlio" yn Hergest, gyda staff ar y wardiau ddim yn teimlo bod eu pryderon yn cael gwrandawiad gan reolwyr.
Mae'n dweud bod "perthynas rhwng staff a rheolwyr ar lefel y matron ac yn uwch na hynny wedi torri i'r fath raddau fel bod gofal cleifion yn cael ei effeithio yn ddiamheuol".
'Diogelu uwch-reolwyr'
Mae aelod o staff oedd yn gweithio ar yr uned wedi dweud wrth Newyddion S4C bod staff wedi dod at ei gilydd ar ôl i ddau reolwr gael eu symud o uned Hergest ar ôl codi pryderon am les cleifion.
Dywedodd y gweithiwr, oedd am aros yn anhysbys: "Roedd dau reolwr wedi bod yn poeni am benderfyniadau oedd yn cael eu 'neud yn effeithio ar staffio a pha fath o gleifion oedd yn cael eu trin.
"Ro'n nhw'n anhapus am reoli cleifion hŷn a chleifion oed gweithio achos mae'r anghenion yn wahanol ac yn aml yn gwrthdaro.
"Ond fe gafodd y ddau eu symud ac roedd gweddill y staff yn wallgo'. Gynhalion ni bleidlais diffyg hyder yn yr uwch-reolwyr mental health. Dyna arweiniodd at adroddiad Holden."
Ychwanegodd bod staff yn anhapus bod y bwrdd iechyd heb gyhoeddi'r adroddiad ar y pryd.
"Roedd y staff yn teimlo bod y bwrdd just yn talu lip service i fod yn agored," meddai.
"O'n nhw'n dweud eu bod nhw ddim am gyhoeddi i ddiogelu'r whistleblowers ond dy'n nhw ddim yn cael eu henwi. Hyd yn oed os oedden nhw, byddai dim ots achos ro'dd y staff yn neud beth oedd orau i gleifion.
"Er bod yr adroddiad wedi ffeindio methiannau, roedd rheina ar lefel uchel, nid o ran y staff ar y wards.
"Roedd y gweithwyr ar y wards yn trio'u gorau dan amodau anodd iawn. Dan ni'n credu bod y bwrdd ddim wedi cyhoeddi'r adroddiad i ddiogelu'r uwch-reolwyr."
Yn gyffredinol rhennir y pryderon i bum thema: gwendid cyfathrebu, arddull rheoli, diwylliant o fwlio, gorlenwi a diffyg staff, ysbryd isel a phryder ymhlith staff.
Daw'n amlwg o'r ddogfen bod rhan fwyaf o'r pryderon yn deillio o staff ar wardiau Cynan ac Aneurin, tra bod y sefyllfa'n well ar Ward Taliesin.
Roedd teuluoedd rhai cleifion oedd yn Uned Hergest wedi galw am flynyddoedd am ryddhau'r adroddiad.
Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd mab i un claf bod "cydnabod beiau'n bwysig".
Mae Plaid Cymru wedi galw am "dryloywder, atebolrwydd a gwelliant" wedi'r "cam pwysig" o gyhoeddi'r adroddiad.
"Mae a wnelo hyn â llawer mwy na rhyddhau adroddiad hwyr, mae hyn yn fater o atebolrwydd gan bawb sydd wedi bod yng ngofal y bwrdd iechyd yn ystod yr amser mwyaf ofnadwy hwn," meddai Llyr Gruffydd AS.
Dywedodd Jo Whitehead, Prif Weithredwr y bwrdd iechyd, eu bod yn "cydnabod bod yr oedi o ran cyhoeddi'r adroddiad hwn wedi peri rhwystredigaeth".
Ychwanegodd y byddai "adroddiadau o'r natur hon ar gael i'r cyhoedd yn y dyfodol, er budd didwylledd a thryloywder".
'Heriau sylweddol'
O ran safon y gofal yn Uned Hergest, dywedodd eu bod yn parhau i weithredu ar argymhellion Adroddiad Holden ond bod "rhai materion, fel y ffordd rydym yn rheoli'r cymysgedd o gleifion hŷn, wedi bod yn anodd eu datrys".
"Mae adroddiadau o arolygiadau heb eu cyhoeddi ymlaen llaw gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ymwneud ag Uned Hergest yn dangos bod safonau gofal, morâl staff a threfniadau arwain wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf," meddai.
"Er gwaethaf y gwelliannau hyn, mae gennym fwy o lawer o waith i'w wneud er mwyn caniatáu i'n staff ymroddedig gyflwyno'r gofal gorau posibl.
"Yn gyffredin â darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl y GIG ar draws y DU, rydym yn wynebu heriau sylweddol o ran niferoedd staffio, rheoli'r galw am welyau, sicrhau'r cymysgedd priodol o gleifion a delio ag effaith Covid-19."
'Cadw llygad barcud'
Yn ymateb i'r adroddiad dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: "Ni wedi gwybod ers tipyn bod 'na broblemau difrifol wedi bod yng ngogledd Cymru o ran iechyd meddwl yn arbennig.
"Dyna pam ry'n ni wedi cadw llygad ar hynny, dyna pam ry'n ni wedi rhoi miliynau o bunnau i geisio gwella'r sefyllfa.
"Ry'n ni'n hapus bod y bwrdd iechyd wedi derbyn yr argymhellion ac mi fyddwn ni'n cadw llygad barcud arnyn nhw i wneud yn siŵr eu bod yn cyflawni hynny."
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar ogledd Cymru, Darren Millar nad yw'n deall "pam ei bod hi wedi cymryd mor hir i gyhoeddi'r adroddiad yma".
"Mae'n glir bod y bwrdd iechyd yn y gogledd yn gwneud hynny achos eu bod wedi cael eu gorfodi," meddai.
"Mae'n amlwg bod cleifion wedi cael niwed a'u hesgeuluso pan gafodd yr adroddiad ei ysgrifennu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd2 Medi 2020