Teyrngedau i un o fawrion byd y merlod a chobiau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dr Wynne DaviesFfynhonnell y llun, Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dr Wynne Davies yn sylwebydd amlwg ac un o brif gystadleuwyr y cobiau yn y Sioe Amaethyddol

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Dr Wynne Davies, un o gymeriadau mwyaf adnabyddus byd y cobiau a'r merlod Cymreig.

Mae'n cael ei ystyried yn awdurdod ar y maes ac roedd ei lais yn gyfarwydd i ymwelwyr y Sioe Frenhinol am flynyddoedd lawer fel sylwebydd y parêd fawr a chystadlaethau'r prif gylch.

Yn aelod o Gymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig ers 1948, bu'n aelod o gyngor y corff am dros hanner canrif, yn swyddog cyhoeddusrwydd am ddegawdau ac yna'n Is-Lywydd Er Anrhydedd am oes.

Fe ddechreuodd Dr Davies, oedd yn byw ym Meisgyn gystadlu yn y Sioe Frenhinol yn 1949 a chael cryn lwyddiant gyda'r cobiau Cymreig gan ddilyn ôl troed ei dad - Evan Samuel Davies o Dal-y-bont, Ceredigion a'i rieni yntau.

Yn 1995 cafodd ei anrhydeddu gan y Frenhines am ei wasanaethau i'r byd merlod a chobiau.

'Gwneud ei waith gyda graen'

Wrth gofio amdano dywedodd Ifor Lloyd, cyn-lywydd a chyn-gadeirydd y gymdeithas "ein bod wedi colli dyn oedd wedi dod â chryn gyhoeddusrwydd i fyd y cobiau a'r Sioe Amaethyddol.

"Bu'n ysgrifennydd cyhoeddusrwydd gwych i'r gymdeithas ac ro'dd pawb yn edrych ymlaen at ei adroddiad bob amser.

"Fe a Charles Arch oedd prif sylwebwyr y prif gylch ac fe fyddai'n gwneud y gwaith hwnnw gyda graen bob amser. Mae'n beth da bod ei blant, David a Jane, yn cadw bridfa enwog Ceulan i fynd ac yn parhau i arddangos."

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig
Disgrifiad o’r llun,

'Doedd neb yn gwybod mwy am ferlod mynydd na Dr Wynne,' medd ei gyd-sylwebydd Charles Arch

"Do'dd na neb ar wyneb y ddaear 'ma yn gwybod mwy am y ferlen mynydd na Dr Wynne," meddai Charles Arch wrth siarad â Cymru Fyw.

"Petaech yn gweld y merlod mynydd yn y Sioe ro'ch yn gwybod nad oedd Dr Wynne ymhell.

"Ro'dd e wedi beirniadu dros y byd i gyd ac yn enw cyfarwydd yn Seland Newydd a llawer o wledydd eraill."

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig
Disgrifiad o’r llun,

Dr Wynne Davies (ar y dde) wedi i'w hunangofiant gael ei gyhoeddi

Cyhoeddodd hunangofiant, From the Horse's Mouth: Dr Wynne's Diaries a bu'n cyfrannu adroddiadau o'r Sioe Fawr i'r cylchgrawn Horse and Houndam dros hanner can mlynedd.

Ar un adeg roedd Dr Wynne Davies yn Bennaeth Cemeg yn Athrofa Addysg Uwch De Morgannwg (UWIST yn ddiweddarach).

Mewn neges ar ran teulu Dr Davies, dywedodd y Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig ei fod wedi marw ddydd Mawrth "yn dilyn salwch byr" ac fe ychwanegont fod ei gyfraniad i'r gymdeithas wedi bod yn hynod.

Pynciau cysylltiedig