Apêl mam am hawl i gwest wedi genedigaeth farw
- Cyhoeddwyd
Mae mam o Gas-gwent yn galw am newid y gyfraith yng Nghymru a Lloegr er mwyn caniatáu i grwneriaid gynnal cwest mewn achosion o farw-enedigaethau.
Cafodd mab Katie Wood, Oscar, ei eni'n farw yn Ysbyty Brenhinol Gwent ym Mawrth 2015.
Er sawl ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, dywed Ms Wood na chafodd gadarnhad pam y bu farw.
Lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad yn 2019 ar gynnal ymchwiliadau crwneriaid yng Nghymru a Lloegr i farw-enedigaethau yn ystod, neu ar ôl 37 wythnos o feichiogrwydd.
Cafodd y diffyg ymateb swyddogol hyd yn hyn i'r ymgynghoriad hwnnw ei feirniadu ym mis Medi gan Bwyllgor Cyfiawnder San Steffan.
Fe gododd drafferthion wrth i Ms Wood geisio geni Oscar ac yn y pen draw bu'n rhaid ei dynnu o'r groth.
Roedd yn fabi mawr, ac wedi tyfu'n sylweddol mewn cyfnod byr tua diwedd y beichiogrwydd.
"Fe wnaethon nhw geisio am rhyw 18 munud i adfer fy mab ond erbyn hynny roedd hi'n rhy hwyr - roedd e wedi mynd," meddai.
"Ry'ch chi'n cyrraedd gyda sedd car yng nghefn eich car gan ddisgwyl mynd adref gyda babi... y peth nesa', does dim byd gyda chi. Mae gyda chi fabi marw yn eich breichiau."
Daeth sawl methiant o ran gofal i'r amlwg yn ystod ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i'r achos.
Awgrymodd archwiliad post-mortem bod cyflwr ble mae ysgwydd babi'n sownd yn ystod genedigaeth, yn ffactor posib ond bod y cyflwr hwnnw bron byth yn arwain at farwolaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd: "Er y byddwn wastad yn ceisio dod o hyd i atebion yn ystod unrhyw ymchwiliad, efallai na fydd yn bosib dod o hyd i ddealltwriaeth lawn o achos y farwolaeth mewn rhai achosion, ac rydym yn deall yn iawn y gofid anhygoel y gallai hyn ei achosi i deuluoedd.
"Cynhaliodd y Bwrdd Iechyd Ymchwiliad Digwyddiad Difrifol lawn i'r gofal a'r amgylchiadau sy'n gysylltiedig â marw-enedigaeth Oscar. Rhannwyd canfyddiadau'r ymchwiliad hwnnw yn llawn ac yn agored gyda theulu Oscar, a bu'r Bwrdd Iechyd yn cyfarfod â'r teulu nifer o weithiau."
'Mae rhieni'n haeddu atebion gonest'
Un sy'n cytuno ag apêl Katie Wood yw Elen Hughes o Aberdaron. Yn 2012, wedi beichiogrwydd didrafferth, cafodd ei mab, Danial ei eni'n farw.
Bu'n rhaid iddi fynd i Ysbyty Gwynedd, Bangor am nad oedd ei babi'n symud gymaint ag arfer, er bod ei galon i'w weld yn curo.
"Roeddwn i ar monitor am bron i ddwy awr, yna mi wnaeth y babi un symudiad mawr a collwyd y curiad calon oddi ar y monitor."
Treuliodd benwythnos adref cyn dychwelyd i'r ysbyty i roi genedigaeth, gan wybod bod ei babi wedi marw.
"Ar ôl dwy awr o labour ganwyd Danial yn ddistaw bach i'r byd - yn hollol berffaith, gwallt du a thrwyn bach smwt," meddai.
Treuliodd amser gydag o yn Ystafell Angel yr ysbyty, ac fe gafodd ei fendithio gan weinidog.
"Peth gwaetha dwi erioed 'di gorfod ei 'neud ydi gada'l Ysbyty Gwynedd hebddo," meddai.
"Chafon ni ddim rheswm meddygol dros farwolaeth Danial - oedd y post-mortem a pob prawf arna' i yn normal.
"Mae hyn wedi bod yn anodd dygymod ag o dros y blynyddoedd, a ddim yn helpu'r euogrwydd dwi 'di deimlo yn meddwl os baswn wedi gallu gneud 'wbath yn wahanol.
"Dwi meddwl y dylid ehangu awdurdodaeth y crwner fel y gallai, ar gais y rhieni, ymchwilio i'r farwolaeth.
"Mae rhieni yn haeddu atebion gonest gan yr ysbyty oedd yn gofalu amdanynt. Os nad ydyn nhw'n fodlon efo'r atebion y maen nhw'n eu derbyn gan broses ymchwiliad mewnol yr ysbyty, yna dylai fod ganddyn nhw'r hawl i ofyn i'r crwner ymchwilio.
"Dwi'm yn meddwl y buasai'n addas ym mhob achos, fel un ni. Roedden ni yn fodlon gyda'r atebion gafon ni gan yr ymchwiliad mewnol ac doedd dim amheuaeth fod unrhyw esgeulustod wedi bod."
Mae'n hen bryd i roi'r awdurdod i grwner edrych i farw-enedigaeth babi ym marn Mari Rosser, sy'n arbenigo mewn deddfwriaeth meddygaeth ac esgeulustod clinigol.
"Ar hyn o bryd, fe allai rhieni sy'n dioddef marw-enedigaeth gael ymchwiliad i'r amgylchiadau, ond mae'r amgylchiadau'n cael eu harchwilio gan y bwrdd iechyd ac wrth gwrs mae hynny'n llai annibynnol," meddai.
"Mae yna gytundeb cyffredinol y byddai'n beth da i estyn awdurdod y crwner i gynnwys achosion o enedigaethau marw.
"Mae'n dod â ffocws annibynnol i'r ymchwiliad, oherwydd mae wnelo'r teuluoedd â'r sefyllfa - bydden nhw â mwy o ran yn y broses ymchwilio nag o bosib mewn ymchwiliad sy'n cael ei gynnal gan y bwrdd iechyd."
Mae'r elusen Sands (The Stillbirth and Neonatal Death Charity) hefyd yn galw am newid, gan ddadlau bod y system ymchwilio bresennol i farwolaeth babi'n "gwbl annigonol".
Ym marn yr elusen, dylid ond cynnal cwest wedi marw-enedigaeth ar gais rhieni'r babi, ond mae Mari Rosser yn dweud y gallai cynnal un ymhob achos helpu osgoi'r fath farwolaethau yn y dyfodol.
Yn 2020, roedd yna 3.6 enedigaeth farw i bob 1,000 o enedigaethau yng Nghymru - nifer llai nag yn y blynyddoedd diweddar ond y ganran uchaf o blith pedair gwlad y DU.
"Mae'n gyfle i ddysgu gwersi," medd Ms Rosser. "Mae'n gyfle i'r crwner... gyhoeddi adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol.
"Byddai hynny, rwy'n siŵr, yn rhoi sicrwydd i unrhyw rieni sy'n cael eu hunain yn y sefyllfa drasig, ofnadwy yma."
'Pe bai ond wedi cymryd un anadl...'
Mae Katie Wood yn dal yn obeithiol y gall crwner ymchwilio i achos Oscar un diwrnod.
"Fel mam, mae gyda chi'n holl gwestiynau 'ma", meddai. "Cwest yw'r lle i chwilio am y gwirionedd a dyna oll rwy' eisiau.
"Ni alla'i gael hynny achos fe gafodd ei eni'n farw. Pe bai wedi cymryd un anadl, byddai'n sefyllfa hollol wahanol.
"Mae ymbiti cael atebion pam fu farw fy mab a beth alla'i wneud i helpu pobl eraill beidio gorfod mynd trwy'r un peth â ni."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "amgylchiadau a'r gofal sy'n arwain at, ac o gylch pob baban marw-anedig" yn cael eu hadolygu yng Nghymru a bod "mewnbwn rhieni i hyn yn hanfodol bwysig".
Mae'r adolygiadau hynny, meddai, "yn cael ei rannu gyda'r teuluoedd. Rydym hefyd yn gweithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar yr ymgynghoriad sy'n edrych ar newid y gyfraith yn ymwneud â chwestau genedigaethau marw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2018
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2017