Sut fydd Cymru'n troi at ynni gwyrdd erbyn 2050?
- Cyhoeddwyd
Mae mesurau i sicrhau bod Cymru'n gallu cyflenwi ei holl anghenion ynni o ffynonellau gwyrdd erbyn 2050 wedi'u hamlinellu.
Mae'n golygu cynyddu "bum-gwaith" faint o gynhyrchu adnewyddadwy sy'n digwydd ar hyn o bryd, yn ôl y dirprwy weinidog newid hinsawdd Lee Waters.
Bydd angen creu rôl Pensaer System Ynni newydd, gwella'r system gynllunio a mwy o gyllid.
Mae sicrhau bod cymunedau a busnesau lleol yn elwa - yn hytrach na chwmnïau mawr o dramor - yn flaenoriaeth hefyd.
'Cynhyrchu cyfoeth i Gymru'
Dywedodd Mr Waters wrth BBC Cymru ei bod hi'n "wallgof" bod rhai o gynlluniau ynni adnewyddadwy mwya'r wlad ar hyn o bryd - fel ffermydd gwynt oddi ar arfordir y gogledd - yn elwa "cronfeydd pensiwn Almaeneg".
"Mae 'na gyfle yn fan hyn i ddadgarboneiddio ond hefyd i gynhyrchu cyfoeth i Gymru," meddai.
"Dylai hyn arwain at fudd i gymunedau - ac nid dim ond 'bwyd iâr' fel ma' datblygwyr ffermydd gwynt yn ei roi i gymunedau lleol ar hyn o bryd fel eu bod nhw'n gallu talu am ddosbarthiadau ac ati - ond rhywbeth sy'n fwy sylweddol 'na hynny."
Mae'r data diweddaraf yn awgrymu bod 'chydig dros hanner holl ofynion trydan Cymru yn gallu cael eu cyflenwi gan gynlluniau gwyrdd ar hyn o bryd.
Ond wrth i'r wlad drio symud yn gyflym oddi wrth danwyddau ffosil er mwyn atal newid hinsawdd, bydd angen llawer mwy.
Yr her fawr yw bod angen i'r wresogi a thrafnidiaeth symud at ddefnyddio trydan fel tanwydd yn y dyfodol hefyd.
Mae'r cyhoeddiad heddiw yn crynhoi canfyddiadau adolygiad gan y llywodraeth i'r rhwystrau sy'n wynebu cynlluniau adnewyddadwy rhag cael eu hadeiladu yma.
Mae'n cynnwys 20 o argymhellion, gan gynnwys datblygu cynllun ynni cenedlaethol i Gymru erbyn 2024, yn mapio anghenion ynni'r dyfodol ar gyfer pob ardal.
Bydd angen gwelliannau hefyd i sut mae cynlluniau ynni arfaethedig yn cael eu hystyried ar gyfer caniatâd gan gyrff cyhoeddus.
Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer prosiectau allan yn y môr, medd gweinidogion, gan addo "adolygiad trylwyr o'r broses drwyddedu ar gyfer ynni morol".
Fe fydd hyn yn cynnwys sut mae caniatâd amgylcheddol yn cael ei gynnig.
Mae datblygwyr wedi rhybuddio bod prosesau hirfaith a chymhleth yn atal datblygiad cynlluniau ynni gwyrdd allai dorri allyriadau tŷ gwydr.
Ond mae grwpiau bywyd gwyllt yn arbennig o bryderus am effaith technolegau arloesol fel morlynnoedd llanw a ffermydd gwynt sy'n arnofio ar adar a rhywogaethau morol.
'Cynyddu'r pwysau' ar Ofgem
Mae'r llywodraeth yn addo darparu mwy o arweiniad erbyn 2023 ynglŷn â pha rannau o'r môr sy'n addas ar gyfer datblygiad a ble sy'n amhosib.
Bydd grŵp yn cael ei sefydlu hefyd i "ystyried sut all Cymru ddenu buddsoddiad newydd" i helpu ariannu prosiectau.
Mae gwifrau'n parhau i fod yn "rwystr sylweddol", gyda "diffyg capasiti ar y rhwydweithiau sy'n cysylltu tai ac adeiladau" i ymdopi â'r galw am gynlluniau gwyrdd newydd.
Mae rhannau o'r wlad yn cael eu hanwybyddu'n llwyr o ganlyniad gan ddatblygwyr.
Dweud mae'r llywodraeth y gwneith hi "gynyddu'r pwysau" ar y rheoleiddiwr ynni Ofgem am fwy o fuddsoddiad yng Nghymru, a gweithio gyda nhw i greu rôl Pensaer System Ynni i Gymru.
Mae 'na swyddogion tebyg yn bodoli yn barod yn Lloegr a'r Alban i oruchwylio'r broses o uwchraddio isadeiledd ynni.
Bydd y gefnogaeth a'r adnoddau sydd ar gael ar gyfer "sector ynni cymunedol cyffrous" Cymru yn cael ei adolygu.
'Gadael Cymru gyda briwsion'
Mae Mr Waters yn dweud bod angen dysgu gwersi o chwyldroadau diwydiannol tebyg yn y gorffennol.
"Un o asedau gorau Cymru yw ein hadnoddau naturiol, ond dy'n ni ddim eisiau gweld gyda gwynt a solar be ddigwyddodd gyda glo - bod y buddion yn cael eu cymryd o Gymru yn llwyr gan ein gadael ni gyda'r briwsion," meddai.
"Mae 'na densiwn yn fanna gyda rhai o'r cwmnïau mawrion rhyngwladol sy'n gyfrifol am y rhan helaeth o gynlluniau ynni adnewyddadwy - sut ydyn ni'n newid pethau yn wirioneddol?"
Dywedodd Dr Mary Gillie, rheolwr Ynni Lleol fod 'na "botensial enfawr" yng Nghymru i weithredu mewn ffordd wahanol.
Mae ei sefydliad hi yn gweithio gyda nifer o gymunedau ar draws y wlad i'w helpu nhw elwa o gynlluniau adnewyddadwy gerllaw.
Un esiampl yw Corwen - lle mae 30 o gartrefi wedi ffurfio clwb sy'n cydweithio â chynllun hydro lleol - gan geisio cysylltu eu defnydd o ynni ag adegau pan fo'r prosiect yn cynhyrchu pŵer.
Drwy wneud hynny maen nhw'n arbed ynni ar eu biliau ond hefyd yn cynyddu elw'r hydro sydd wedyn yn cael ei fuddsoddi yn y gymuned leol.
Y camau nesaf yw ceisio cysylltu paneli solar newydd a phwyntiau gwefru cymunedol ar gyfer ceir trydan.
Fe allai Llywodraeth Cymru fod yn cefnogi newidiadau i'r gyfraith "fyddai wir yn gorfodi cyflenwyr trydan i weithio gyda chymunedau mewn ffordd ystyrlon," meddai Dr Gillie.
"Ac fe allen nhw fod yn gwneud lot fawr i sicrhau bod Cymru'n le deniadol ar gyfer y math yma o arloesi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2021