Teyrnged i 'dad, ewythr, brawd a mab rhyfeddol'

  • Cyhoeddwyd
Matthew OubridgeFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Matthew Oubridge yn dilyn ymosodiad ym mhentref Tryleg

Mae teulu dyn 56 oed o ardal Cas-gwent a fu farw wedi ymosodiad yn Sir Fynwy wedi rhoi teyrnged iddo.

Cafwyd hyd i Matthew Oubridge yn anymwybodol tua 20:40 nos Sadwrn diwethaf ym mhentref Tryleg, rhwng Mynwy a Chas-gwent.

Cadarnhaodd parafeddygon y gwasanaeth ambiwlans a gafodd eu galw i Church Street bod Mr Oubridge wedi marw.

Mae dyn 40 oed o ardal Bryste a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol ac mae ymchwiliad Heddlu Gwent i'r achos yn parhau.

Dywedodd ei deulu, sy'n cael cymorth swyddogion heddlu arbenigol: "Roedd Matthew'n dad, ewythr, brawd a mab rhyfeddol, a gafodd ei gymryd, yn drasig, yn rhy fuan.

"Roedd ei deulu a'i gyfeillion yn dotio ato - roedd ganddo'r galon fwyaf rhadlon a byddai wastad yna i'w anwyliaid.

"Bydd yn cael ei golli'n aruthrol, a bydd ein bywydau fyth yr un fath.

"Byddwn yn trysori'r atgofion sydd gyda ni weddill ein bywydau."

Mae'r heddlu'n dal yn apelio am wybodaeth neu luniau a gafodd eu casglu yn yr ardal rhwng Cas-gwent a Thryleg rhwng 19:00 a 21:30 nos Sadwrn 4 Rhagfyr.

Mae'r llu hefyd wedi cynnal digwyddiad yn Nhryleg ddydd Gwener er mwyn i'r cyhoedd allu trafod unrhyw bryderon gyda swyddogion.

Pynciau cysylltiedig