Disgwyl cyhoeddiad am ddyfodol cerbydau Ajax

  • Cyhoeddwyd
Ajax Armoured VehicleFfynhonnell y llun, Y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Nod y cerbydau Ajax yw darparu "cerbydau ymosod cwbl fodern i'r fyddin"

Mae disgwyl cyhoeddiad am ddyfodol cerbydau arfog Ajax, sydd yn cael eu hadeiladu ym Merthyr Tudful, yr wythnos nesaf.

Cafodd y cynllun gwerth sawl biliwn o bunnoedd ei ohirio wedi i gannoedd o filwyr wnaeth brofi'r cerbydau arfog gael eu hasesu am golli clyw.

Mae cynllun Ajax yn helpu i gynnal cannoedd o swyddi ym Merthyr ac Oakdale, Sir Caerffili.

Fe fyddai sgrapio'r brosiect yn ergyd sylweddol i'r trefi, ac yn achos cywilydd i'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Byddai hyn hefyd yn gadael bwlch sylweddol yng nghynlluniau ailstrwythuro'r Fyddin.

Fe wnaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn arwyddo cytundeb am 589 o gerbydau Ajax yn 2014, ac maen nhw wedi gwario bron i £3.5bn ar y cynllun.

Cafodd y cerbydau gwbl ddigidol eu hyrwyddo fel y "genhedlaeth nesaf" o gerbydau arfog.

Ym mis Hydref fe wnaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn benodi uwch swyddog i gael trefn ar y gwaith, David Marsh.

Mae gan Mr Marsh y pŵer i awgrymu sgrapio'r cynllun.

Methu 'addo' datrysiad

Yn gynharach eleni fe ddywedodd Gweinidog Amddiffyn y DU Jeremy Quin wrth Tŷ'r Cyffredin na allai "100% addo" y byddai datrysiad i'r sefyllfa.

Fe rybuddiodd na fyddai Llywodraeth y DU "byth yn derbyn" cerbyd nad oedd yn cwrdd â'i gofynion profi.

Dywedodd Llafur fod y gweinidog wedi gosod Ajax ar "ofal diwedd oes".

Ers hynny mae profion wedi cychwyn i weld a oes modd cywiro'r broblem oedd yn effeithio ar glyw y milwyr.

Byddai datrys hyn yn drobwynt enfawr i'r brosiect.