Teyrngedau i'r diweddar Neville Wilshire
- Cyhoeddwyd
Mae nifer wedi bod yn rhoi teyrngedau i'r gŵr busnes a seren y gyfres The Call Centre yn Abertawe.
Roedd Neville Wilshire yn enedigol o Benrhyn Gŵyr ac yn ei chwedegau cynnar.
Wrth roi teyrnged iddo dywedodd Hayley Pearce, y fenyw a oedd yn gyfrifol am y te yn y gyfres, ar ei chyfrif trydar mai fe "oedd bos gorau'r byd."
Yn 2013 a 2014 fe wnaeth cyfres ar BBC 3 ddilyn hynt a helynt y ganolfan alwadau a oedd yn cael ei harwain gan Mr Wilshire.
Dywedodd Hayley: "Fe newidiodd fy mywyd. Roedd e'n fwy na bòs i mi. Roedd e'n deulu.
"Mae'r profiadau a gawsom gyda'n gilydd yn rhai y byddaf yn sôn amdanynt ac yn eu trysori weddill fy mywyd."
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd ei deulu eu bod yn cyhoeddi gyda thristwch marwolaeth Neville Wilshire o Bump-hewl, Llanelli a'i fod yn dad arbennig i'w blant Becci, Jon, Phil ac Abi.
Roedd hefyd yn dad-cu i chwech o wyrion.