Carchar i ddyn a drywanodd ddyn diarth yn ei wddf
- Cyhoeddwyd

Dywedodd y barnwr fod Alexander Williams "allan yn chwilio am drafferth" ar noson y trywanu
Mae dyn a drywanodd ddieithryn yn ei wddf yng nghanol Wrecsam wedi cael ei garcharu am bum mlynedd.
Plediodd Alexander Williams, 27, o Crescent Court yn y dref, yn euog i glwyfo bwriadol a bod ag arf yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod y dioddefwr, Michael Taylor, wedi'i adael yn "gwaedu'n drwm" ar ôl cael ei drywanu yn yr ymosodiad ym mis Medi 2020.
Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands fod yn rhaid i Williams dreulio o leiaf dau draean o'i ddedfryd dan glo.
Canabis a gwin coch
Ychwanegodd y barnwr fod Williams "allan yn chwilio am drafferth" ar noson y trywanu.
Clywodd y llys ei fod wedi bod yn ysmygu canabis ac yn yfed gwin coch cyn y digwyddiad.
Dywedodd y barnwr wrtho fod dinasoedd a threfi yn rhy llawn o bobl ifanc yn cario arfau.
Roedd o'r farn bod Williams yn peri risg sylweddol o achosi niwed i eraill ac fe osodwyd tymor estynedig o dair blynedd ar drwydded pan fydd yn cael ei ryddhau o'r carchar.