Merch 11 oed wedi syrthio o falconi ysgol Cil-y-Coed

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Cil-y-CoedFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Fynwy
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ysgol Cil-y-Coed ei hadeiladu yn 2017

Mae merch 11 oed mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty ar ôl syrthio o falconi ysgol yn Sir Fynwy.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ysgol Uwchradd Cil-y-Coed tua 11:20 fore Llun, ac fe gafodd y ferch ei rhuthro i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd Cyngor Sir Fynwy nad oedd ei hanafiadau'n peryglu ei bywyd.

Ychwanegodd y datganiad bod honiadau o fwlio "sydd wedi dod i'r amlwg ar-lein" yn cael eu trin yn "gwbl ddifrifol".

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Fynwy
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans bod person wedi "syrthio o uchder" ar safle'r ysgol

Ddydd Llun, dywedodd y cyngor: "Yn dilyn y digwyddiad yn Ysgol Uwchradd Cil-y-Coed y bore yma rydym yn cefnogi dysgwyr a'u teuluoedd ynghyd â theulu ehangach yr ysgol."

Ychwanegodd ei fod yn "gweithio'n agos gyda'r asiantaethau perthnasol".

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Cawsom alwad tua 11:20 heddiw, dydd Llun 13 Rhagfyr, am adroddiadau o berson oedd wedi syrthio o uchder yn Ysgol Uwchradd Cil-y-Coed."

Cafodd yr ysgol ei hadeiladu yn 2017 ar gost o £36.5m. Mae 1,500 o ddisgyblion yn yr ysgol.

Pynciau cysylltiedig