Ymchwiliad lleol i ymosodiad seiber ar ben heb arestiad
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad heddlu wedi "ymosodiad seiber difrifol" ar swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ym mis Rhagfyr y llynedd wedi dod i ben "yn lleol" heb arestio unrhyw un.
Yr ymchwiliad sydd wedi dod i ben yw'r un gan dîm ymchwilio Uned Seiberdroseddu Rhanbarthol Tarian, sy'n cynnwys swyddogion Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent.
Ond dywed Heddlu De Cymru bod "y mater yn parhau yn rhan o ymchwiliad ehangach ledled y DU i nifer o ddigwyddiadau tebyg".
Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg Aled Roberts yn credu mai "neges e-bost a oedd yn cynnwys atodiad meddalwedd maleisus oedd wrth wraidd yr ymosodiad".
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth bod eu "hymholiadau yn parhau".
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg wrth BBC Cymru eu bod, ers yr ymosodiad "wedi cydweithio a chymryd cyngor gan nifer o gyrff allweddol yn cynnwys Heddlu De Cymru, Llywodraeth Cymru, a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth".
"Ar y pryd hysbyswyd unigolion a oedd wedi rhannu eu data personol ac ni thalwyd swm o arian gan Swyddfa'r Comisiynydd.
"Cyhoeddwyd datganiad yn rhoi gwybod am yr hyn a oedd wedi digwydd a rhoddwyd cyngor penodol i unigolion a sefydliadau ar ba gamau y gellid eu cymryd.
"Cychwynnwyd ar y gwaith o adfer systemau yn syth, ac erbyn hyn rydym wedi sicrhau amgylchedd gweithio Technoleg Gwybodaeth newydd ac mae'r wefan newydd yn fyw ers mis Awst 2021."
Ychwanegodd: "Rydym yn parhau i gydweithio'n agos gyda'n partneriaid allweddol, ac yn anelu at Achrediad 'Cyber Essentials Plus' i sicrhau ein bod yn bodloni safonau diogelwch a'n bod yn ymroi i fod yn flaengar yn y maes."
'Risg'
Roedd datganiad ar ran Comisiynydd y Gymraeg adeg yr ymosodiad yn nodi: "Fel rheol rydym yn dal y lleiafswm posibl o ddata personol, hynny yw enw a manylion cyswllt, sef e-bost neu gyfeiriad post a rhif ffôn.
"Serch hynny, mae rhai achosion lle byddwn yn delio â materion sy'n ymwneud â chategorïau arbennig o ddata personol yn ogystal os ydynt yn berthnasol i'r mater o dan sylw.
"O ganlyniad i'r ymosodiad, mae risg y gall eich manylion gael eu rhyddhau yn gyhoeddus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2020