Costau byw: Teuluoedd yn 'dewis rhwng gwres a bwydo'u plant'

  • Cyhoeddwyd
Plentyn yn bwytaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae hyd yn oed teuluoedd sy'n gweithio yn teimlo effaith costau byw cynyddol, medd un elusen

Mae prisiau cynyddol yn golygu bod teuluoedd yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng rhoi'r gwres ymlaen neu fwydo eu plant, yn ôl dwy elusen Gymreig.

Yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr mae elusen Splice, sy'n cefnogi rhieni newydd, wedi dweud bod prisiau cewynnau a phetrol yn creu anawsterau i rai.

Ddydd Mercher, daeth cyhoeddiad bod y gyfradd chwyddiant wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers degawd, gan gynyddu costau byw.

Mae'r ffigwr diweddaraf yn dangos bod chwyddiant wedi cyrraedd 5.1%, sy'n gynnydd o 0.9% ers mis Hydref.

Mae prisiau tanwydd a phetrol wedi cynyddu yn sydyn, tra bod prisiau pob math o bethau eraill hefyd wedi codi'n raddol yn ystod y flwyddyn.

Yn ôl Eurgain Haf o Achub y Plant yng Nghymru, mae'r cynnydd mewn prisiau wedi ei gwneud hi'n anodd i deuluoedd ar incwm isel.

"Yr hyn sydd yn rhoi pryder mawr i ni yw mai'r plant sydd yn talu'r pris am hyn," meddai.

"Mae rhieni yn dweud wrthym ni yn gyson eu bod nhw'n poeni eu bod nhw'n gorfod gwneud penderfyniadau amhosib rhwng gwresogi'r tŷ a rhoi pryd o fwyd cynnes ar y bwrdd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae costau byw wedi cyrraedd eu lefelau uchaf ers deng mlynedd

"Dydy eu plant nhw ddim yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau yr un fath â'u cyfoedion, dydyn nhw ddim yn gallu fforddio pethau sylfaenol fel llyfrau, teganau, cewynnau ar gyfer y plant."

Dywedodd bod prisiau ynni hefyd wedi effeithio ar deuluoedd.

"Mae'r un negeseuon yn gyson. Teuluoedd yn pryderu eu bod nhw'n mynd i ddyled, prisiau trydan a nwy yn cynyddu, prisiau bwyd yn cynyddu, a 'dyn nhw ddim yn gwybod lle i droi yn anffodus."

'Cyrraedd pwynt argyfwng'

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr mae elusen Splice wedi bod yn cefnogi rhieni newydd am ddegawd bellach.

Ond mae pwysau'r pandemig wedi arwain at alw mawr am ragor o gefnogaeth gydag offer a chewynnau babanod, hyd at fwyd a dodrefn.

Tracey Morgan ydy un o sylfaenwyr yr elusen.

Dywedodd wrth BBC Cymru: "Mae rhai wedi cyrraedd pwynt argyfwng. Maent naill ai wedi gorfod gadael cartref y teulu, neu gallai fod pethau wedi digwydd gyda gwŷr, neu eu partneriaid.

Disgrifiad o’r llun,

Tracey Morgan yw un o sylfaenwyr elusen Splice ym Mhen-y-bont ar Ogwr

"Gallent fod wedi colli eu swyddi, gallai fod salwch yn y teulu, ac mae marwolaethau yn y teulu wedi cael effaith enfawr, yn enwedig gyda Covid ar hyn o bryd."

Dywedodd Ms Morgan fod chwyddiant yn gorfodi teuluoedd i wneud dewisiadau amhosib.

"Mae prisiau'n cynyddu, ac mae ein teuluoedd yn gweld hynny. Hyd yn oed y teuluoedd sy'n gweithio.

"Maen nhw'n gorfod gwneud y dewis - p'un a ydyn nhw'n cynhesu'r tŷ neu'n bwydo eu plant.

"Os ydyn nhw'n dewis cynhesu'r tŷ a bod angen yr help arnyn nhw, yna rydyn ni'n gallu cynnig parseli bwyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Splice yn cefnogi rhieni newydd sydd wedi cyrraedd pwynt argyfwng, gan gynnwys trwy gynnig talebau bwyd

"Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r banc bwyd hefyd, felly gallwn ni gynnig talebau ar gyfer bwyd."

Mae Splice yn defnyddio rhoddion i brynu cewynnau ar gyfer teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd, a dywedodd Ms Morgan fod y prisiau cynyddol wedi cael effaith.

"Ychydig fisoedd yn ôl roeddem yn talu £8 neu £9 am becyn o gewynnau. A nawr mae'n £11 neu £12 am becyn o gewynnau, ac mae'n gwneud gwahaniaeth."

'Prisiau popeth wedi mynd lan'

Mae busnesau hefyd yn teimlo pwysau'r costau ychwanegol.

Yn Rhydaman mae siop grempog Helen Davies, Vive la Crêpe, wedi bod yn croesawu ymwelwyr trwy gydol y pandemig - yn gwerthu trwy'r ffenest pan nad oedd y rheolau yn caniatáu agor y drysau.

Roedd yr haf yn gyfnod llewyrchus iddi, ond mae prisiau cynyddol y misoedd diwethaf wedi ei gwneud hi'n anodd.

Disgrifiad o’r llun,

Helen Davies o Vive la Crêpe, Rhydaman

"Mae'r trydan wedi mynd lan, costau bwyd wedi mynd lan, mae prisiau popeth wedi mynd lan - ac wedyn yn y flwyddyn newydd bydd cyflogau'n mynd lan, bydd Yswiriant Gwladol yn mynd lan.

"Sai'n gwybod am ba mor hir allwn ni beidio rhoi ein prisiau ni lan, ac mae hwnna yn mynd i effeithio'r cwsmer," meddai Mrs Davies.

Wrth i gyflenwyr godi eu prisiau, mae'r caffi wedi gorfod lleihau'r amrywiaeth o stoc maen nhw'n ei archebu.

Dywedodd Ms Davies: "Nagyn ni mor rhydd gyda beth ry'n ni'n archebu rhagor. Ni yn cadw costau lawr trwy gadw lefelau stoc lawr. Mae'n rhaid i ni fod lot fwy ofalus nawr."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms Davies yn poeni na fydd cwsmeriaid am wario mewn siopau os yw costau byw yn rhy uchel

Mae'n destun trafod i'w chwsmeriaid hefyd.

"Ddoe daeth cwpl mewn ac o'n nhw'n sôn am gost y trydan a'r nwy adre, bod eu bils nhw bron wedi dyblu. A nes i ddweud mod i yn gobeithio nag yw hwnna'n stopio nhw rhag dod i Vive la Crêpe!"

Dyna'r un o'r pryderon fwyaf i'r busnes yma, a busnesau bach eraill Rhydaman, yn ôl Ms Davies.

"Os nad oes arian sbâr gyda nhw i wario, nagyn nhw yn mynd i ddod mewn am goffi bach, cacen neu crêpe. Maen nhw'n mynd i fynd adre."

'Effaith i'w weld mewn siopau'

Rownd y gornel yn Siop Barbwr yn Rhydaman mae Neil Jeremiah yn y gadair wrth i'w wallt gael ei dorri.

"Mae lot o bethau wedi mynd lan. Ti'n sylwi yn y siopau, pan ti'n mynd mas i brynu bwyd am yr wythnos - pethau fel bara a llaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil Jeremiah o Rydaman wedi sylwi ar gynnydd mewn prisiau bwyd a phetrol

"Dwi'n edrych mewn rhagor o siopau i weld os ydy'r prisiau yn wahanol. Ond yn anffodus 'dyn nhw ddim."

Pris petrol sydd hefyd yn bwnc llosg.

Dywedodd Mr Jeremiah: "Wedes i wrth fy nhad ddoe bod petrol wedi mynd lan eto.

"Ond yr unig beth lwcus gyda Covid yw bod ni ddim yn mynd i lot o lefydd nawr, ond os ydyn ni - mae e'n ddrud uffernol."

Prisiau petrol wedi codi'n sydyn

Mae prisiau petrol wedi codi'n sydyn eleni. Yn ystod wythnos gyntaf mis Ionawr roedd litr o danwydd di-blwm yn costio tua £1.15 tra bod litr o ddisel tua £1.20.

Mae cynnydd cyson wedi gweld tanwydd yn cyrraedd ei brisiau uchaf erioed, cyn dechrau gostwng eto dros yr wythnosau diwethaf.

Erbyn hyn, dengys data Llywodraeth y DU fod petrol di-blwm yn costio £1.46 y litr ar gyfartaledd, tra bod pris disel yn £1.50 y litr ar gyfartaledd.

Disgrifiad o’r llun,

Geraint Hampson-Jones o gwmni Brewin Dolphin

Ni fydd y sefyllfa o ran chwyddiant yn gwella am fisoedd i ddod yn ôl Geraint Hampson-Jones, rheolwr buddsoddiadau gyda chwmni Brewin Dolphin, sydd yn gwylio'r marchnadoedd stoc a phenderfyniadau'r banciau canol

"Beth mae'r [banciau canolog] yn targedu ydy chwyddiant ar gyfradd o 2%. Rydyn ni yn debygol o weld hynny'n codi i dros 5% am resymau technegol erbyn mis Ebrill, ond yn rhagweld hwn yn gostwng wedyn.

"Fe fydd hynny'n fwy problematig os ydyn nhw'n gweld chwyddiant yng nghyflogau pobl yn dechrau codi, a dyna 'dyn ni yn rhagweld bydd yn creu achos i godi cyfraddau llog."

Pynciau cysylltiedig