Coffáu hanesion milwyr tref Dinbych mewn llyfr newydd
- Cyhoeddwyd
Mwy na chanrif ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, mae grŵp archif cymunedol wedi dod ynghyd i goffáu rhai o filwyr tref Dinbych mewn llyfr newydd.
Pwrpas llyfr 'For Your Tomorrow We Gave Our Today' ydy nodi hanesion personol milwyr o Ddinbych a wynebodd erchyllterau brwydrau'r rhyfel byd cyntaf ar y cyfandir.
Mae'r llyfr yn canolbwyntio hefyd ar drigolion 'Stryd Henllan' yng nghanol y dref a gollodd nifer anarferol o uchel o filwyr yn ystod y rhyfel.
Yn ôl aelodau'r grŵp, y gobaith yw sicrhau bod hanesion y milwyr ar gof a chadw er lles cenedlaethau'r dyfodol.
Wrth nodi canmlwyddiant diwedd y rhyfel yn 2018 fe benderfynodd rhai o wirfoddolwyr Cymdeithas Archif Cymunedol Dinbych gynnal arddangosfa'n lleol ac yn dilyn hyn fe ddaeth y syniad o grynhoi'r wybodaeth mewn llyfr.
Ffrwyth llafur dros ddwy flynedd o waith ymchwil ydy'r llyfr i nodi hanesion yr unigolion a adawodd Dyffryn Clwyd am faes y gad.
Un o'r ymchwilwyr sydd wedi bod yn edrych nôl ar gofnodion papurau newydd a chyfrifiadau ydy Dafydd Lloyd Jones.
"Mae 'na hanes reit gyfoethog yma," meddai.
"Mae 'na fanylion manwl iawn mewn rhai o adroddiadau'r wasg ac mae'n bwysig iawn dwi'n meddwl oherwydd bod 'na gymaint o hogiau wedi aberthu eu bywydau ac mae hyn yn bwysig iawn".
Drwy dyrchu a phori drwy'r wybodaeth fe ddaeth y tîm i wybod fod Stryd neu Llain Henllan yng nghanol y dref wedi dioddef nifer anarferol o golledion.
Tra bod y stryd yn edrych yn wahanol iawn i sut oedd hi dros 100 mlynedd yn ôl, mae hi dal yn gartref i gannoedd o drigolion Dinbych.
Yn ystod cyfnod y rhyfel fe aeth dros 100 o filwyr o'r stryd yma i frwydro ar y cyfandir.
Bu farw o leiaf 35 o'r milwyr hyn.
"Mi oedd hi'n stryd dlawd ac mi oedd lot yn ddi-waith ac felly roedd y dynion eisiau rhywbeth i wneud," meddai Clwyd Wynne o'r gymdeithas.
"Ar y gofgolofn rŵan mae tua 35 o enwau trigolion o'r stryd yma wedi cael eu lladd felly fe wnaethon nhw lot dros y rhyfel."
Ychwanegodd fod Stryd Henllan wedi wynebu mwy o golledion na'r un stryd arall yn yr ardal ac fe gafodd hynny effaith fawr ar y gymdeithas glos yma.
Rhwng cloriau'r llyfr newydd mae gwaith ymchwil trylwyr hefyd wedi datgelu hanesion personol rhai o'r milwyr. Milwyr fel Robert Jones.
"Fe gafodd ei ladd yn Ffrainc ym mis mai 1917," meddai Ennis Davies sydd wedi bod yn ymchwilio.
"Roedd hyn jest cyn genedigaeth ei ferch fach y mis wedyn ac fe gafodd hi ei henwi'n 'France May'.
"Pan wnaethon ni roi yr arddangosfa fyny'n fa'ma fe ddaeth ei wyres mewn a dweud nad oedd hi 'rioed 'di gweld llun o'i thaid.
"'Ga i lun?' meddai... roedd hynny rili neis," ychwanegodd Ennis.
Nod y llyfr yw sicrhau fod hanesion ac ymdrech rhai o filwyr Tre Dinbych yn cael eu coffau am flynyddoedd i ddod.
Mae modd prynu'r llyfr drwy gysylltu gyda Grŵp Archif Cymunedol Dinbych.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2018